Yr Athro John Barrett 1943-2011

Yr Athro John Barrett

Yr Athro John Barrett

31 Mawrth 2011

Gyda thristwch mawr y nodwn farwolaeth John Barrett, Athro Sŵoleg a chyn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd yr Athro Barrett yn wreiddiol o Chippenham, Wiltshire. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt gan raddio mewn Sŵoleg yn 1965 a derbyn doethuriaeth am ei waith ar barasitoleg yn 1968 ac yna MA yn 1969. Dyfarnwyd iddo radd MA arall yn 1971, y tro hwn gan Brifysgol Rhydychen.

Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd yn 1973 a chael ei ddyrchafu yn Uwch Ddarlithydd yn Hydref 1982, ac yna yn Athro Sŵoleg yn Hydref 1983. Yn 1985 dyfarnwyd Medal C A Wright iddo am ei gyfraniad rhagorol ym maes parasitoleg.

Yn Ionawr 2000 cafodd ei benodi yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Materion Myfyrwyr), swydd y bu ynddi am ddwy flynedd cyn ei benodi yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Materion Academaidd). Ym mis Ionawr 2006 cafodd ei benodi’n Bennaeth Dros Dro ar yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, swydd y bu iddo barhau i’w gwneud yn rhan-amser tan Orffennaf 2007, yn dilyn ei ymddeoliad ym mis Gorffennaf 2006.

Bu’r Athro Barrett yn gweithio’n rhan amser yn IBERS gan ddysgu ac arddangos tan Awst 2009. Parhaodd i gadw mewn cysylltiad gyda gwaith ymchwil ym maes parasitoleg tan yn hwyr yn 2010.

Yn sgil clywed am farwolaeth yr Athro Barrett dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’r newyddion am farwolaeth John yn peri tristwch mawr. Roedd gennyf edmygedd mawr ohono fel arweinydd, fel person ac fel gwyddonydd. Bu ei gyfraniad i’w adran, i Gyfadran y Gwyddorau ac i’r Brifysgol yn gyffredinol yn hynod: roedd yn berson cwbl ymroddedig i’r Brifysgol.  Yn ogystal â gwerthfawrogiad y Brifysgol, hoffwn ddatgan fy ngwerthfawrogiad personol ac ar yr un pryd cydnabod ei gyfeillgarwch. Gwelwn ei golli yn fawr."

Bu farw’r Athro Barrett ar Ddydd Mercher y 30ain o Fawrth. Mae’n gadael ei wraig, Dr Penny Barrett, a dwy ferch, Sara and Kate.

Cynhelir yr angladd yn Amlosgfa Aberystwyth am 12.00 o’r gloch ar ddydd Mercher y 6ed o Ebrill. Mae croeso i bawb fynd am de ym Mhlas Antaron wedi’r angladd.