Ffonau deallus a’r amgylchedd

Cobweb - Citizen Observatory Web

Cobweb - Citizen Observatory Web

17 Ionawr 2013

Mi fydd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd ar ffonau deallus gan bobl sydd yn byw yn ardal aber yr afon Dyfi er mwyn gwella modelau darogan llifogydd a chofnodi newidiadau i gynefinoedd.

Mae’r gwaith yn rhan o COBWEB (Citizen OBservatory WEB), cynllun newydd pedair blynedd gwerth £8.5m a gyllidwyd gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn datblygu “fframwaith arsyllfa” a fydd yn ei gwneud yn haws i ddinasyddion i gasglu data amgylcheddol sydd yn addas ar gyfer ei ddefnyddio mewn ymchwil, gwneud penderfyniadau a llunio polisi. 

Bydd £1.7m o gyllid y prosiect yn canolbwyntio ar bedwar sefydliad sydd yn gweithio ar ardal a ddynodwyd gan UNESCO yn Biosffer Dyfi (http://www.biosfferdyfi.org.uk/); EcoDyfi, cwmni o Aberystwyth Environment Systems, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Sail y prosiect yw Rhwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd UNESCO, ac mae ardaloedd prawf mewn gwarchodfeydd Biosffer yng Nghymru, yr Almaen a Groeg.

O dan arweinyddiaeth Prifysgol Caeredin mae COBWEB yn cynnwys tri phartner ar ddeg o bump o wladwriaethau Ewrop: Y Deyrnas Gyfunol, Yr Almaen, Groeg, Yr Iseldiroedd ac Iwerddon.

Daw cyllid o brosiect FP7 yr Undeb Ewropeaidd, a gynlluniwyd er mwyn ymateb i anghenion cyflogaeth Ewrop, y gallu i gystadlu ac ansawdd bywyd.

Bydd yr isadeiledd a ddatblygir yn ymchwilio posibiliadau cyrchu torfol, a'r cysyniad o "bobl fel synwyryddion," yn enwedig o ran defnyddio dyfeisiau symudol i gasglu data a gwybodaeth ddaearyddol.

Gan ganolbwyntio i ddechrau ar Fiosffer Dyfi yng Nghymru, nod y prosiect yw manteisio ar frwdfrydedd cymunedau lleol o fewn y Biosffer er mwyn gwneud gwell penderfyniadau amgylcheddol a sbarduno datblygu gwell dechnoleg a fydd ar gael yn ehangach maes o law.

Bydd y gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei wneud gan y Ganolfan Ymchwil i Aberoedd ac Arfordiroedd, a grwpiau ymchwil Deinameg Gwely’r Afon a Hydroleg / Arsyllfa’r Ddaear.

Bydd ymchwilwyr Aberystwyth yn defnyddio COBWEB er mwyn gwella modelau darogan llifogydd a chofnodi newid i gynefinoedd pwysig ym Miosffer y Ddyfi.

Croesawyd y cyhoeddiad gan yr Athro Richard Lucas, Pennaeth Grŵp Ymchwil Synhwyro o Bell ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Mae perchnogaeth gynyddol o ffonau deallus yn galluogi carfannau mawr o’r boblogaeth i ymddwyn fel “synwyryddion” er mwyn casglu ac anfon gwybodaeth amgylcheddol y gellir ei ddadansoddi a’i ddefnyddio er mwyn gwella safon bywyd pobl a chynorthwyo i wneud ein proses gwneud penderfyniadau yn fwy cynaliadwy. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i’r Brifysgol feithrin y cysylltiad rhwng dinasyddion, gwleidyddion ac ymchwilwyr academaidd.”

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r partneriaid o’r pum gwlad arall, a’u cyflwyno i Ddyffryn Dyfi a’i diwylliant Cymraeg cyfoethog.”

Dywedodd Chris Higgins, Cydlynydd Prosiect COBWEB yn EDINA sydd ym Mhrifysgol Caeredin: "Mae gwarchodfeydd Biosffer yn ardaloedd gyda phobl sy'n byw ynddynt sydd am weld eu hardal yn aros yn hardd. Mae defnyddio technoleg ffonau deallus er mwyn dod â dinasyddion yn rhan o wneud penderfyniadau yn ardal ymchwil fyrlymus. Mae'n rhaid grymuso pobl a gwella llif gwybodaeth er mwyn mynd i'r afael ag ystod o faterion amgylcheddol."

Esboniodd Dr Iolo ap Gwynn, Cadeirydd Partneriaeth Biosffer Dyfi; “Bydd staff Ecodyfi yn arwain ymdrechion y Bartneriaeth i gynorthwyo pobl i ymchwilio i sut y gall technoleg newydd ein cynorthwyo i gyfrannu at y gwaith o gofnodi manylion a lleoliad planhigion ac anifeiliaid gwerthfawr megis pysgod a gwenyn, a rhywogaethau ymledol megis y Môr Coch (Japanese Knotweed). Er hyn, rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o’r sylw ganolbwyntio ar lifogydd, a ddylai wella’r modelai sy’n darogan ble mae hyn yn debygol o ddigwydd.”

Dywedodd Steve Keyworth, Cyfarwyddwr Masnachol Environment Systems; “Mae hwn yn brosiect hynod gyffrous am ei fod yn defnyddio’n profiad o arsylwi ar y Ddaear a mapio proffesiynol tra, ar yr un pryd, mae’n galluogi pobl i ddylanwadu ar y broses of wneud penderfyniadau amgylcheddol.

“Bydd cryn dipyn o ddysgu ar y cyd a throsglwyddo gwybodaeth a fydd yn gymorth i gynhyrchu modelau cymhwyso a fydd yn gweithio ar draws gwahanol wledydd Ewrop a chael ei derbyn fel y system wybodaeth ar gyfer Rhwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd.”

Dywedodd Peter Burnhill, Cyfarwyddwr EDINA: "Amcan y gwaith yma yw galluogi i ddinasyddion ddefnyddio'r Rhyngrwyd Symudol er lles y Ddaear mewn ffordd uniongyrchol ac amlwg, ar lefel lleol ac felly'n fyd-eang. Mae'r prosiect yn galluogi i EDINA a Phrifysgol Caeredin adeiladu ar brofiad blaenorol o brosiectau ymchwil a datblygu geo-ofodol yr Undeb Ewropeaidd. Heb os, mae'n her sylweddol, ond hefyd yn gyfle i ddarparu arweiniad ar gyfer arbenigwyr o brifysgolion mewn pump o wledydd eraill, ac o sefydliadau o'r Llywodraeth i Fudiadau Anllywodraethol a'r sectorau masnachol - oll wedi eu hymrwymo i gynorthwyo cynaliadwyedd amgylcheddol."

Partneriaid Prosiect COBWEB:
•        EDINA, rhan o Brifysgol Caeredin (Yn Cydlynu)
•        Coleg Prifysgol Dulyn (UCD)
•        Cwmni Environment Systems cyf.
•        Prifysgol Nottingham
•        Prifysgol Aberystwyth
•        Llywodraeth Cymru
•        Ecodyfi (Partneriaeth Eco Dyffryn Dyfi)
•        Open Geospatial Consortium (Ewrop) cyf.
•        Technische Universitaet Dresden
•        Secure Dimensions GmbH
•        Prifysgol Gorllewin Gwlad Groeg
•        OIKOM – Environmental Studies Cyf.
•        GeoCat BV

AU0713