Hyrwyddo gwyddoniaeth a dychymyg y cyhoedd

Yr Athro Nigel Scollan (chwith) Athro Ymgysylltu â'r Cyhoedd gyda Gwyddoniaeth, a’r Athro Richard Marggraf Turley, Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd

Yr Athro Nigel Scollan (chwith) Athro Ymgysylltu â'r Cyhoedd gyda Gwyddoniaeth, a’r Athro Richard Marggraf Turley, Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd

23 Ionawr 2013

Gan gydnabod rôl hanfodol y gymuned ehangach ym mywyd prifysgol, mae Prifysgol Aberystwyth wedi creu dwy rôl flaenllaw newydd a fydd yn annog deialog gydag aelodau o'r cyhoedd.

Yn dilyn proses benodi ar lefel uchel, mae'r Brifysgol wedi penodi'r Athro Nigel Scollan fel Athro Ymgysylltu â'r Cyhoedd gyda Gwyddoniaeth a'r Athro Richard Marggraf Turley fel Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd.

Bydd y ddwy rôl yn canolbwyntio ar annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhob agwedd o weithgareddau'r Brifysgol - o arwain ymchwil i ddatblygu polisi, o drafodaeth ar sut y mae'r Brifysgol yn gweithio a chymryd rhan weithgar mewn cyfnewid gwybodaeth.

Bydd yr Athrawon yn arwain ymgyrch y Brifysgol i annog mwy o gyfranogiad yn nigwyddiadau’r Brifysgol a chynorthwyo i ddatblygu Diwrnod Agored i bobl yng Ngheredigion.

Ymunodd yr Athro Nigel Scollan gyda Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol, Aberystwyth yn 1993 ac wedi hynny Brifysgol Aberystwyth yn 2008. Mae’n dal Cadair Bwyd a Ffermio Waitrose yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol.

Mae'r  Athro Scollan yn arwain grŵp ymchwil ar Systemau Anifeiliaid ac yn arwain rôl Prifysgol Aberystwyth wrth greu menter diwydiant a'r byd academaidd unigryw i helpu cefnogi ffermio yn y Deyrnas Gyfunol, sef "Canolfan Rhagoriaeth y DG ar gyfer Ffermio ".

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd yr Athro Nigel Scollan: "Mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu ar y gwaith rhagorol y mae’r Brifysgol yn ei wneud mewn ymchwil ac addysgu ac ymchwilio i ffyrdd arloesol a chreadigol o weithio’n agosach gyda'r cyhoedd".

Mae’r Athro Richard Marggraf Turley o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan ar gyfer Astudiaethau Rhamantaidd y Brifysgol, ac yn enillydd Gwobr Keats-Shelley am farddoniaeth yn 2007.

Mewn ymateb i’w benodiad fel yr Athro Ymgysylltu â'r Dychymyg Cyhoeddus cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol, dywedodd Richard:

"Mae Aberystwyth wedi manteisio ar greu cysylltiad gwirioneddol gyhoeddus bywiog." Ychwanegodd bod ei deitl newydd "y mwyaf cŵl yn y byd academaidd, ac yn llwyfan gwych.

Dywedodd yr Is-Ganghellor yr Athro April McMahon;
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu penodi Richard a Nigel i’r ddwy swydd bwysig yma. Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn hanfodol i'r Brifysgol. Rydym yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae ein cymunedau lleol a byd-eang yn eu gwneud i ddatblygu ein sefydliad, gan sicrhau bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth, bod ein polisïau yn addas at y diben a bod ein gwasanaethau yn diwallu eu hanghenion. Rydym yn ffodus fod enghreifftiau rhagorol o waith ymgysylltu arloesol iawn yn mynd rhagddo yma eisoes, ac rwy'n siŵr y bydd cyfoeth o brofiad Richard a Nigel mewn ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymchwil yn ein cynorthwyo i adeiladu ar y mentrau hyn.”

AU1813