£2.5m i Bwllpeiran

Y bwriad yw y bydd Pwllpeiran yn dod yn rhan o Gampws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu

Y bwriad yw y bydd Pwllpeiran yn dod yn rhan o Gampws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu

21 Gorffennaf 2013

Mae cynlluniau yn esblygu i IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth arwain partneriaeth i ailddatblygu hen orsaf ymchwil Pwllpeiran yng Ngheredigion, gyda chyhoeddi y bydd BBSRC yn buddsoddi £2.5 miliwn i gefnogi’r prosiect.

Mae Pwllpeiran wedi bod yn ganolfan ymchwil ers y 1930au, yn gweithio i wella hyfywedd ffermio’r ucheldir yng Nghymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell;"Rydym yn croesawu'r ymrwymiad ariannol gan y BBSRC, a'r bleidlais o hyder yng ngallu IBERS i greu llwyfan ymchwil ucheldir safon fyd-eang. Mae IBERS mewn sefyllfa eithriadol o dda i fanteisio ar y cyfle hwn i arwain agenda ucheldiroedd y Deyrnas Gyfunol.”

Mae datblygiad Pwllpeiran yn ddibynnol ar gytuno’n derfynol ar y les gyda Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yn 2012, dywedodd dirprwy weinidog amaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd, Alun Davies, fod IBERS wedi gwneud “cynigion hyfyw” i ymgymryd â rhedeg y fferm.

Dywedodd Mr Davies: “Mae’n ddatblygiad cyffrous, ac rwy’n siŵr y caiff groeso gan y gymuned leol, ffermwyr ac ymchwilwyr. Bydd cadw’r fferm fel cyfleuster ymchwil yn ganlyniad hynod o fuddiol i’r sector ffermio a bydd yn helpu i wireddu ein huchelgais ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru.”

Mae tiroedd ucheldir Cymru yn cwmpasu 80,000 hectar, ac mae’r adnodd naturiol hwn yn darparu gwasanaethau hanfodol gan gynnwys dŵr, bwyd, tanwydd, dal a storio carbon, cynefinoedd bywyd gwyllt, hafanau bioamrywiaeth, lleddfu llifogydd a gofod hamdden.

Mae heriau diogelwch bwyd, lleihau nwyon tŷ gwydr a gwarchod bioamrywiaeth yn gofyn am well defnydd o’r ucheldir a datblygu systemau planhigion ac anifeiliaid newydd i sicrhau y caiff targedau’r llywodraeth eu cyflawni.

Mae angen dulliau gweithredu arloesol, sy’n cael eu gyrru gan wyddoniaeth, i gwrdd â’r heriau hyn.

Bydd Llwyfan Ymchwil Ucheldir arfaethedig Pwllpeiran yn gweithredu fel catalydd unigryw i sbarduno adnoddau IBERS a darparwyr ymchwil eraill drwy Brydain i ddod o hyd i ddatrysiadau i heriau sy’n cynnwys:

• Systemau ffermio sy’n ecogyfeillgar ac sydd hefyd yn sicrhau incwm cynaliadwy i ffermwyr
• Dulliau o feincnodi cynhyrchu cynaliadwy a rhoi gwerth ar fioamrywiaeth yn yr ucheldir.
• Cadwyni cyflenwi bwyd lleol cynaliadwy sy’n caniatáu i gynhyrchion y gellir eu holrhain ac sydd o stoc adnabyddus gael eu cyflenwi i gwsmeriaid.
• Cynhyrchion â gwerth ychwanegol sy’n defnyddio datblygiadau gwyddonol cyfredol i ganiatáu i ffermwyr ddarparu cynhyrchion sy’n cwrdd â gofynion uchel i’r gadwyn gyflenwi.
• Systemau cynhyrchu anifeiliaid sy’n lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy gynnwys  elfennau modern arloesol o ran bwydo, rheoli a geneteg.
• Offerynnau rheoli sy’n caniatáu i amaethyddiaeth yr ucheldir gael ei chynllunio a’i rheoli mewn modd sy’n sicrhau bod y manteision yn cael eu cynyddu a bod costau, yn ariannol ac yn amgylcheddol, yn cael eu lleihau.
• Cronfa o dystiolaeth yn sail i’r gwaith o ddatblygu polisïau gwybodus, dilysedig.

Bydd datblygiad Pwllpeiran yn rhan o gynllun Campws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu sydd hefyd wedi ei gyhoeddi heddiw gan Brifysgol Aberystwyth, ddydd Llun 22 Gorffennaf.

Mae Campws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu wedi ei wneud yn bosibl gan fuddsoddiad o £14.5m gan y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth Biotechnoleg a Biolegol (Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC) a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 22 Gorffennaf) gan David Willetts AS, Gweinidog y Deyrnas Gyfunol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth mewn lansiad Strategaeth Amaeth-Dechnoleg Llywodraeth y DG.

Disgwylir i gyfraniadau gan randdeiliaid eraill, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, i ddod â chyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect hwn i dros £35M.

AU27413