Lansio Lygad yn Llygad

Dr Huw Meirion Edwards

Dr Huw Meirion Edwards

07 Awst 2013

Bydd y darlithydd a’r bardd Dr Huw Meirion Edwards, yn lansio ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Lygad yn Llygad ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.

“Mae cyhoeddi’r gyfrol hon yn ddigwyddiad pwysig sy’n sicr yn haeddu dathliad ar faes ein gŵyl genedlaethol,” meddai Geraint Lloyd Owen, Pennaeth Cyhoeddi Gwasg y Bwthyn, cyhoeddwyr y gyfrol.

Ychwanegodd y bardd Dafydd John Pritchard,

 “Gellir gwneud dau honiad go bendant am Huw Meirion: mae o’n grefftwr ac mae o’n delynegwr. Mae hon yn gyfrol ragorol.”

Magwyd Huw Meirion Edwards yn Llanfairpwll ac yna yng Nghaerdydd, ac mae’n byw ers ugain mlynedd yn Llandre ger Aberystwyth lle mae’n darlithio yn Adran y Gymraeg .

Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn enwedig barddoniaeth ganoloesol: mae’n un o olygyddion y gyfrol Cerddi Dafydd ap Gwilym (2010) a’r wefan Dafydd ap Gwilym.net. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Cŵps ac o dîm ymryson Ceredigion, ac enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch 2004 gyda’r casgliad ‘Tir Neb’.

Bydd Huw Meirion ei hun yn darllen rhai o’i gerddi yn y lansiad. Bydd dau aelod o dîm Talwrn y Cŵps  - Dafydd John Pritchard ac Iwan Bryn – yn cymryd rhan, ynghyd â’r gantores ifanc Catrin Herbert, sy’n fyfyriwraig yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Lansiad ‘Lygad yn Llygad’, Dydd Mercher,7fed o Awstam 12pm ar stondin y Brifysgol.

Cwmni drama myfyrwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae cwmni drama o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi ennill eu lle yn y rownd derfynol y gystadleuaeth i berfformio drama un act yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd Gwion James, Sian Owens, Carys Jones a Lucy Andrews o Cwmni'r Frenigen Mercator, o Sefydliad Mercator a'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn llwyfannu'r ddrama Carnifal, cyfieithiad Cymraeg gan Jan Piette (a chyn-Ddarlithydd mewn Llydaweg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth) o'r ddrama Llydaweg Meurlarjez gan yr awdur enwog Roparz Hemon.

Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal yn Theatr y Maes am 12 o'r gloch heddiw, dydd Mercher 7 Awst.

Mae'r ddrama wedi ei gosod mewn Mans yn Eryri yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Mae'r driniaeth yn ddychanol ac yn codi cwestiynau diddorol sy'n manteisio ar y cynhyrchiad i'r eithaf, yn weledol ddyfeisgar ac yn llawn o berfformiadau egniol a bywiog.

Cyhoeddwyd y ddrama Lydaweg wreiddiol yn gyntaf yn 1938, a chyhoeddwyd y cyfieithiad yn ail rhifyn y cylchgrawn llenyddol Cymraeg,Taliesin, yn 1962.

Cafodd y ddrama ei hail-ddarganfod gan ymchwilwyr o Sefydliad Mercator sy'n gweithio ar brosiect newydd a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu Catalog ar-lein o Gyfieithiadau i'r Gymraeg.

Nod y prosiect yw creu catalog ar-lein o gyfieithiadau i'r Gymraeg a fydd yn gwasanaethu anghenion academaidd  ymchwilwyr, darlithwyr a myfyrwyr yn y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae'r prosiect eisoes wedi datgelu cyfoeth o ddeunydd a gyfieithwyd i'r Gymraeg, deunydd sy'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar  syniadau rhai o awduron a meddylwyr mwyaf dylanwadol ac enwog y byd.

Yr Archdderwydd yn siaradwr gwadd yn Nerbyniad y Cynfyfyrwyr

Cynhelir aduniad blynyddol cyn-fyfyrwyr Aberystwyth ar stondin y Brifysgol ar brynhawn dydd Mercher rhwng 2-4pm.

Y siaradwr gwadd eleni yw Dr Christine James, cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, a’r ferch gyntaf i fod yn Archdderwydd.

Caiff y derbyniad hwn ei gynnal ar y cyd rhwng Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr a’r Brifysgol ac mae’n gylfe gwych i bawb sydd wedi astudio erioed ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddod at ei gilydd ar faes yr Eisteddfod.

Bydd yr Athro April McMahon, Is Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn bresennol ynghyd â Mrs Ina Tudno Williams, Is-Gadeirydd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr a fydd yn rhannu ychydig o atgofion.