Myfyrwyr yn trafod pynciau cyfoes

09 Awst 2013

Bydd tri myfyriwr disglair o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhannu canlyniadau eu prosiectau ymchwil ar y stondin heddiw, dydd Gwener y 9fed o Awst 2013 am hanner dydd.

Mae’r prosiectau sy’n cael eu hariannu drwy’r cynllun Mynediad i Feistr mewn cydweithrediad â chwmnïau lleol  – FBA, Golwg360 ac UCAC, yn cyffwrdd ar bynciau cyfoes ac o bwys i Gymru.

Bydd Osian Elias yn trafod tâl ac amodau o fewn y system addysg yng Nghymru ynghyd â llunio polisi ar draws ffiniau. (UCAC). Bydd Fflur Jones yn edrych ar sut mae ymdrechion i lobïo ar bolisi cyhoeddus yng Nghymru  wedi datblygu yn sgil datganoli. (FBA) tra bydd Dafydd Morgan yn cymryd trosolwg ar arolygon yn y cyfryngau yng Nghymru (Golwg360).

Dr Elin Royles o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru fydd yn cadeirio’r drafodaeth.

Bydd cyfle i’w holi am eu profiadau fel myfyrwyr Meistr Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. 

Lansiad Dathlu’r Deugain UMCA
Heddiw, rhwng 2-4pm, bydd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn lansio rhaglen o weithgareddau i nodi ac i ddathlu deugain mlynedd ers sefydlu’r Undeb ar stondin Prifysgol Aberystwyth.

Mae  nifer o ddigwyddiadau ar y gweill i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon, gan gynnwys, cinio cyn-lywyddion UMCA a chyn-wardeniaid Pantycelyn, SŴN Pen-blwydd UMCA, Gig UMCA 40 a diwrnod agored ym Mhantycelyn gydag arddangosfa a stondinau.

Bydd tipyn o waith hel atgofion, hanesion, straeon a lluniau o gyfnodau gwahanol yn hanes yr Undeb, boed hynny gan gyn-fyfyrwyr neu unrhyw un sydd yn ymddiddori yn ei hanes. Bwriedir creu arddangosfa fawr er mwyn nodi a dathlu hanes UMCA. Felly os oes gennych rywbeth i’w rannu – boed yn rhywbeth mawr neu fach, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni!

Dywedodd Mared Ifan, Llywydd UMCA eleni, “Mae’r gymuned glos sydd gennym ni yma’n UMCA yn un unigryw a gwerthfawr. Dyma gyfle gwych i ni ddathlu’r agosatrwydd hwn ac i ddiolch bod gennym ni Gymdeithas Gymraeg mor gryf yma yn Aberystwyth.”

Ychwanegodd Alaw Gwyn, Cadeirydd Pwyllgor UMCA 40, “Mae UMCA yn rhan allweddol o fy mhrofiad i fel myfyrwraig yn Aberystwyth, mae bod yn aelod o UMCA fel cael teulu o ffrindiau. Rwyf yn edrych ymlaen at ddathlu’r ddeugain gyda phawb!”

Yn ystod y prynhawn, bydd Cartrin Herbert yn canu, Gruffudd Antur yn darllen ei farddoniaeth a cheir lluniaeth ysgafn. Croeso cynnes i bawb!