Partneriaeth gydag Academi Lysgenhadol Azerbaijan

09 Awst 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi arwyddo Memorandwm Dealltwriaeth gydag Academi Lysgenhadol Azerbaijan fel dull o hyrwyddo cydweithio academaidd a chydweithredu diwylliannol rhwng y ddau sefydliad. 

Arwyddwyd y Memorandwm gan y Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Athro John Grattan, yn ystod ymweliad yn ddiweddar â Baku, prifddinas Azerbaijan, lle lleolir Academi Lysgenhadol Azerbaijan.

Diben y Memorandwm yw hyrwyddo deialog parhaus rhwng y ddau sefydliad er mwyn canfod meysydd o ddiddordeb academaidd cyffredin, cyfleoedd a chynlluniau ymchwil posibl, ac i rannu a lledaenu profiadau ymhlith myfyrwyr a staff.

Mae’r ddau sefydliad hefyd wedi arwyddo Cytundeb Cyfnewid ffurfiol sy’n golygu y gall myfyrwyr o’r ddau sefydliad astudio yn y sefydliad partner am naill ai un semester neu un flwyddyn academaidd. O dan y cytundeb, bydd Aberystwyth yn derbyn dau fyfyriwr o Academi Lysgenhadol Azerbaijan bob blwyddyn.

Gan siarad ar ôl i’r cytundeb gael ei arwyddo, meddai’r Athro John  Grattan: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod wedi arwyddo cytundeb gyda’r fath partner eithriadol a safonol. Bydd y cytundeb yn creu cyfleoedd ardderchog i’n myfyrwyr i astudio dramor a chael profiad o ddiwylliant arall deinamig, byw, ac ar yr un pryd yn agor drysau i fyfyrwyr o Azerbaijan ddod yma i Gymru i astudio.”

“Mae Partneriaethau Rhyngwladol rhwng Prifysgolion yn elfen sylfaenol o Strategaeth Ryngwladol y Prifysgolion sy’n anelu i gynyddu recriwtio a chydweithredu rhyngwladol yn sylweddol. Mae gweithgaredd rhyngwladol o’r fath yn dod â manteision mawr i’r Brifysgol, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff feithrin ymwybyddiaeth ryngwladol, ac ar yr un pryd yn cyfrannu i ddiwylliant ac economi’r gymuned leol”, ychwanegodd yr Athro Grattan.

Yn ystod y flwyddyn academaidd a aeth heibio mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu nifer o bartneriaethau byd-eang gyda phrifysgolion yng Nghanada, Bologna, China, Hong Kong, Dubai a Columbia

Daeth Academi Lysgenhadol Azerbaijan i’r amlwg yn gyflym fel Sefydliad Addysg Uwch blaenllaw yng Ngweriniaeth Azerbaijan ac y mae’n mwynhau cefnogaeth sylweddol gan y llywodraeth. Ar hyn o bryd mae’n sefydliad polisi cyhoeddus, yn addysgu myfyrwyr sy’n ceisio am yrfaoedd diplomyddol ond, a chyfadrannau yn y gyfraith a rheolaeth yn ogystal â pholisi a materion cyhoeddus, mae’n ceisio datblygu i faes rheolaeth.

Mae cynlluniau eisoes ar droed i anfon myfyrwyr o’r adrannau Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y Gyfraith a Throseddeg a’r Ysgol Rheolaeth a Busnes yn y Brifysgol i ymweld ag Azerbaijan yn nes ymlaen y flwyddyn hon.

au30213