Cymhwyster Addysg Uwch ar gyfer gweithwyr proffesiynol

13 Awst 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymuno â ASLIB ac Emerald, darparwyr gwasanaethau rheoli gwybodaeth, i ddarparu gweithwyr proffesiynol ar draws y byd gyda chyrsiau cydnabyddedig prifysgol mewn arweinyddiaeth gwybodaeth. 

Rhaglen datblygiad proffesiynol ar-lein ac e-ddysgu yw 'Llwybrau i Arweinyddiaeth Wybodaeth' sy'n cynnig dros 25 o gyrsiau ar gyfer unigolion sydd am ddod, neu anelu i fod, yn arweinwyr gwybodaeth. 

Mae'r fenter yn cael ei lansio yng Nghyngres Gwybodaeth a Llyfrgell Byd IFLA yn Singapore o’r 17-23 o fis Awst. 

Eglurodd Kirsten Ferguson-Boucher o'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth, "Mae'r rhaglen Llwybrau yn darparu cyrsiau cryno cydnabyddedig prifysgol sydd wedi'u cynllunio i gael eu cwblhau fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. 

"Yr hyn sy'n bwysig am y rhaglen hon yw bod person yn gallu bancio credydau tuag at ddyfarniadau prifysgol megis Tystysgrif Uwchraddedig, Diploma Ôl-radd a lefel Meistr. Mae'r dull hwn yn cyfuno agwedd hyblyg tuag at ddysgu gyda chywirdeb a chefnogaeth o broses cydnabyddedig ffurfiol a chymhwyster.” 

Gyda gweithwyr proffesiynol yn ei chael hi’n anos i ganfod amser i ymroi tuag at gymhwyster ffurfiol, mae'r dull yma yn galluogi dysgu sydd wedi’i dargedu tuag at ofynion penodol y dysgwr neu’r sefydliad gan gyfuno hyblygrwydd a hwylustod. 

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff, Rebecca Davies, "Un o'n hamcanion yw creu mwy o gyfleoedd dysgu o bell ac e-ddysgu ar gyfer pobl drwy ddatblygu eu sgiliau a chynyddu eu potensial. 

"Y peth gwych am y rhaglen Llwybrau yw y gall unigolyn ennill cymhwyster Prifysgol tra'n dal i weithio a allai wella datblygiad personol a gyrfa unigolyn yn fawr. 

"Gallant hefyd ddechrau eu cwrs ar unrhyw adeg a gallant fod yn siŵr o gynnwys cwrs hylaw gan arbenigwyr pwnc profiadol." 

Gall y rhai sydd am gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau fynd i wefan Llwybrau ar https://www.infoleader.org/ Bydd y rhaglen yn cael ei lansio yng Nghyngres Gwybodaeth a Llyfrgell Byd IFLA yn Singapore o’r 17-23 o fis Awst http://conference.ifla.org/ifla79 #wlic2013