"The Serpent's Promise"

Yr Athro Steve Jones

Yr Athro Steve Jones

03 Medi 2013

Bydd y genetydd blaenllaw, yr Athro Steve Jones, yn traddodi darlith ar y pwnc "The Serpent's Promise: the Bible reinterpreted as science" ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 5 Medi.

Cynhelir y ddarlith am 7.30 yr hwyr ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais y Brifysgol.

Mae’r Athro Jones yn gyn-Bennaeth yr Adran Geneteg, Esblygiad a'r Amgylchedd yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad (IBERS).

Mae hefyd yn gyflwynydd teledu, yn awdur arobryn ar faes bioleg, ac yn un o'r ysgrifenwyr cyfoes poblogaidd ar esblygiad.

Mynediad am ddim.