Llwybrau at arweinyddiaeth gwybodaeth

Chwith i’r Dde: Tony Roche, Cyfarwyddwr Cyhoeddi gyda Emerald Group Publishing Limited; Yr Athro John Grattan Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth; Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn lansiad y rhaglen datblygiad proffesiynol ar-lein ac e-ddysgu, ‘Llwybrau at Arweinyddiaeth Gwybodaeth’, yng Nghaerdydd ar ddydd Llun 23 Medi 2013.

Chwith i’r Dde: Tony Roche, Cyfarwyddwr Cyhoeddi gyda Emerald Group Publishing Limited; Yr Athro John Grattan Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth; Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn lansiad y rhaglen datblygiad proffesiynol ar-lein ac e-ddysgu, ‘Llwybrau at Arweinyddiaeth Gwybodaeth’, yng Nghaerdydd ar ddydd Llun 23 Medi 2013.

20 Medi 2013

Lansiwyd gwasanaeth newydd gan Brifysgol Aberystwyth â’r nod o sicrhau achrediad prifysgol i weithwyr proffesiynol prysur ledled y byd  gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC, heddiw, dydd Llun 23 Medi.

Mae Aberystwyth wedi ymuno ag Emerald Group Publishing Limited, cyhoeddwr byd-eang blaenllaw ym maes ymchwil llyfrgell a rheoli gwybodaeth yn rhyngwladol ac ASLIB, y gymdeithas rheoli gwybodaeth, i gynnig achrediad addysg uwch i weithwyr a chyflogwyr ar draws y byd mewn arweinyddiaeth gwybodaeth.

Mae ‘Llwybrau at Arweinyddiaeth Gwybodaeth’ yn rhaglen datblygiad proffesiynol ar-lein ac e-ddysgu sy’n cynnig dros 25 o gyrsiau i unigolion sy’n dymuno, neu sydd ag uchelgais i fod yn arweinwyr gwybodaeth.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Rydym ni wrth ein bodd i gael cyhoeddi’n ffurfiol ein partneriaeth gydag Emerald ac ASLIB.  Mae hwn yn gyfle rhagorol i ni ddatblygu ein darpariaeth dysgu o bell ymhellach, ar y cyd ag arweinydd byd-eang ym maes cyhoeddi. Mae e-ddysgu a dysgu o bell yn y newyddion ar hyn o bryd, ond yn Aberystwyth ac yn ein Hadran Astudiaethau Gwybodaeth yn arbennig, mae gennym ni hanes nodedig yn y maes hwn sy’n mynd yn ôl dros 25 o flynyddoedd.”

Dywedodd Tony Roche, Cyfarwyddwr Cyhoeddi gyda Emerald Group Publishing Limited; “Rydym ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar y prosiect cyffrous hwn. Mae awydd cynyddol am ddysgu o bell yn fyd-eang, ac rydym ni’n arbennig o falch i fod yn datblygu’r hyn rydym ni’n ei ystyried yn gyfle rhagorol i unigolion ddysgu ac ymgysylltu ar-lein â’u datblygiad personol, drwy’r dull cyfleus a hyblyg hwn.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC; “Rwyf i’n falch i gael y cyfle hwn i nodi’r fenter newydd hon rhwng Prifysgol Aberystwyth a chwmni cyhoeddi Emerald. Rhaid i Sefydliadau Addysg Uwch barhau i chwilio’n weithredol am ffyrdd newydd o ryngweithio gyda dysgwyr ac mae prosiectau cydweithredol o’r math hwn yn enghraifft dda o’r ffordd y gall sefydliadau wneud y defnydd gorau o’r technolegau newydd sy’n ymddangos er mwyn ymgysylltu â dysgwyr.”

Gan fod gweithwyr proffesiynol prysur yn ei chael yn gynyddol anodd dod o hyd i amser y gellir ei neilltuo i ddysgu ffurfiol a chymwysterau, mae’r dull Llwybrau yn galluogi dysgu sydd wedi’i dargedu at ofynion penodol y dysgwr neu ei sefydliad gan gyfuno hyblygrwydd a chyfleustra.

Un elfen nodedig o’r rhaglen newydd yw y gall y myfyriwr gronni credydau at ddyfarniadau Prifysgol ar lefel Tystysgrif Uwchraddedig, Diploma Uwchraddedig a Meistr. Mae’r dull hwn yn cyfuno agwedd hyblyg at ddysgu gyda’r trylwyredd a’r cymorth a geir mewn proses ffurfiol o achredu a chymhwyso mewn prifysgol.

Ychwanegodd Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyriwr a Rhyngwladol y Brifysgol, yr Athro John Grattan; “Un o’n hamcanion yw cynyddu’r cyfleoedd dysgu o bell ac e-ddysgu yma yn Aberystwyth, gan annog pobl o bob cefndir ac ar draws y byd i ddatblygu eu sgiliau a chynyddu eu potensial personol.

“Y peth gwych am y rhaglen Llwybrau yw bod unigolyn yn gallu sicrhau cymhwyster Prifysgol a pharhau i weithio’r un pryd, gan arwain at well datblygiad personol a gyrfa.

“Gallan nhw ddechrau eu cwrs ar unrhyw adeg gan fod yn sicr o dderbyn cynnwys cwrs hygyrch oddi wrth arbenigwyr pwnc profiadol.”

Gall unrhyw un a hoffai ragor o wybodaeth am y cyrsiau ymweld â gwefan Llwybrau: https://www.infoleader.org/

Mae Emerald yn gyhoeddwr byd-eang sy’n cysylltu ymchwil ac ymarfer er budd cymdeithas gyda phortffolio o dros 290 o gyfnodolion a thros 2,000 o lyfrau a chyfrolau cyfres. Sefydlwyd Emerald ym 1967 ac mae’n un o’r arweinwyr ym maes cyhoeddi ymchwil rheoli llyfrgell a gwybodaeth yn rhyngwladol ac mae’n cydweithio’n agos gyda chymdeithasau gwybodaeth allweddol yn fyd-eang gan gynnwys IFLA ac ALA.

Cymdeithas aelodaeth ryngwladol yw ASLIB i bobl sy’n rheoli gwybodaeth a dealltwriaeth mewn sefydliadau. Mae ASLIB yn un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant sgiliau gwybodaeth yn y DU ac mae wedi bod yn cefnogi datblygiad proffesiynol gweithwyr proffesiynol ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth ers 70 o flynyddoedd. 

au34513