Hawliau’r henoed

Rebecca Boaler, Jeremy Newman a Sarah Wydall o’r Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod

Rebecca Boaler, Jeremy Newman a Sarah Wydall o’r Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod

07 Tachwedd 2013

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod Prifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i’r hyn sy’n rhwystro pobl hŷn, sy’n cael eu cam-drin yn y cartref, rhag cael cyfiawnder.

Amcangyfrifir bod mwy na 500,000 o bobl hŷn yn cael eu cam-drin yn y Deyrnas Gyfunol a gall hyn gynnwys cam-drin corfforol, seicolegol, ariannol, rhywiol ac esgeulustod.

Mewn ymgais i fynd i'r afael â cham-drin yr henoed fel ffurf o gam-drin yn y cartref, mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn archwilio ystod o ffactorau a all ddylanwadu ar a yw dioddefwyr hŷn yn dewis defnyddio prosesau cyfiawnder troseddol neu sifil.

Comisiynwyd Sarah Wydall, darlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ymgymryd â phrosiect ymchwil ar draws Cymru o'r enw Amddiffynoedolion, cam-drin yn y cartref a throseddau casineb.

Mae'r astudiaeth newydd hon yn ceisio archwilio sut y gall mecanweithiau cyfeirio ar draws gwasanaethau amddiffyn oedolion a’r heddlu ddylanwadu ar y cyfleoedd am gyfiawnder i bobl sy’n chwedeg oed neu’n hŷn.

Bydd canlyniadau’r astudiaeth yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni ac yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod Cymru-gyfan lle bydd y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn bresennol.  Mae Rebecca Boaler, myfyriwr PhD, a Jeremy Newman sydd hefyd o'r Adran, yn cynorthwyo Sarah gyda'r gwaith maes.

Amcan y Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod yw edrych yn fanylach ar sut y gall pobl hŷn dderbyn gwell cefnogaeth wrth iddynt wneud dewisiadau cytbwys a chael llais wrth geisio cyfiawnder.

Mae'r prosiect presennol yn ceisio deall rhai o'r rhwystrau unigol a sefydliadol a allai atal pobl hŷn rhag ymgysylltu â'r broses gyfiawnder.

Eglurodd Sarah Wydall; “Roeddem yn awyddus i weld sut y byddai unigolyn yn cael mynediad i’r systemau troseddol a sifil, a pha gyfleoedd sydd ar gael iddynt mewn gwirionedd pan mae person hŷn yn cael ei gam-drin gan aelod o'r teulu.”

“Rydym hefyd yn awyddus i ddeall lle mae pobl yn syrthio drwy'r bylchau yn y system, a sut y mae'r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol a'r holl asiantaethau eraill yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gwasanaeth gorau ar gyfer yr unigolyn hwnnw.”

“Mae Cymru yn arwain y ffordd yn y maes cam-drin yn y cartref, ac ychydig iawn rydym yn ei wybod am gam-drin pobl hŷn fel ffurf o gam-drin yn y cartref. Mae'n hynod ddiddorol i’n grŵp ymchwil ni ein bod mewn sefyllfa i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â cham-drin pobl hŷn ac sy'n herio effeithiolrwydd mecanweithiau cyfiawnder cyfredol pan bod perthynas yn bodoli rhwng y dioddefwyr a'r tramgwyddwr.

"Mae'n hawl dynol sylfaenol i gael ein diogelu rhag niwed ac mae angen i ni ddysgu sut y gallwn alluogi pobl hŷn i sicrhau fod eu llais yn cael ei glywed, a’u galluogi i ddefnyddio’r gyfraith petaent yn dymuno gwneud hynny.”

Mae'r ymchwil yn cael ei lywio gan gyfres o astudiaethau diweddar ar gam-drin pobl hŷn a chyfiawnder a wnaed gan y ganolfan ymchwil newydd a sefydlwyd gan yr Athro John Williams, Yr Athro Alan Clarke a Sarah Wydall.

Fe wnaeth un o'r astudiaethau yma werthuso opsiynau *Mynediad at Gyfiawnder sydd ar gael ar gyfer dioddefwyr hŷn o gam-drin. Canlyniad y Strategaeth Trais yn y Cartref 2010 Yr Hawl i fod yn Ddiogel yw’r fenter hon, a oedd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â thrais, gan gynnwys gwella ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol.

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira; "Mae sefyll i fyny dros bobl hŷn sydd mewn perygl o niwed yn flaenoriaeth allweddol i mi fel Comisiynydd, fel yr amlinellwyd yn fy strategaeth bedair blynedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

"Mae llawer o bobl hŷn, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n gweithio gyda hwy a'u cefnogi, wedi tynnu sylw at nifer o rwystrau posibl a allai rwystro mynediad i'r system gyfiawnder mewn achosion lle mae cam-drin wedi digwydd.

"Felly, mae'n hanfodol i archwilio’r rhwystrau hyn yn fwy manwl fel y gellir mynd i'r afael â’r materion yma yn effeithiol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r tîm yn Aberystwyth i symud y gwaith pwysig hwn yn ei flaen."

Mae Canolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod yn gweithio'n agos gyda Rhwydwaith Heneiddio Pobl Hyn (OPAN) er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cynnwys yn y broses ymchwil. Mae cyfres o weithdai yn cael eu cynllunio ar gam-drin yr henoed a chyfiawnder er mwyn cynorthwyo i lywio polisi ac arfer yn y dyfodol.

*Mynediad at Gyfiawnder
Y peilot Mynediad at Gyfiawnder oedd y cynllun cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i archwilio ymatebion gan y gwahanol asiantaethau i gam-drin yr henoed yn y cartref. Dangosodd canlyniadau’r ymchwil na drafodwyd dewisiadau cyfiawnder troseddol neu sifil gyda dioddefwyr mewn dwy ran o dair o'r holl achosion perthnasol. Am ragor o wybodaeth ar yr astudiaeth hon gweler Clarke, A., Williams, J., Wydall, S., Boaler, R (2012) ‘An Evaluation of the Access to Justice Pilot Project’, Llywodraeth Cymru. http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/121220accesstojusticeen.pdf

AU38913