Glaw trwm yn gyrru toddi a llif llen iâ’r Ynys Las

Terfyn rhewlif yng Ngorllewin yr Ynys Las. Credit: Sam Doyle

Terfyn rhewlif yng Ngorllewin yr Ynys Las. Credit: Sam Doyle

13 Gorffennaf 2015

Yn ôl astudiaeth newydd sydd wedi ei chyhoeddi yn Nature Geoscience, gwelwyd bod llen iâ’r Ynys Las yn cyflymu mewn ymateb i law yn disgyn ar yr wyneb a rhew wedi toddi sy’n cael eu cysylltu â stormydd seiclonig diwedd haf a hydrefol.

Cyfunodd Samuel Doyle a thîm rhyngwladol o gydweithwyr sy’n cael eu harwain o Ganolfan Rewlifeg Prifysgol Aberystwyth gofnodion o symudiad yr iâ, pwysedd dŵr ar wely’r llen iâ, a faint o ddŵr oedd yn cael ei rhyddhau i afonydd, gyda meteoroleg ar yr wyneb ar draws ymyl orllewinol llen iâ’r Ynys Las, a llwyddwyd i fesur effeithiau wythnos anarferol o dywydd cynnes a gwlyb ar ddiwedd mis Awst a dechrau mis Medi, 2011.

Gwelsant fod y system dywydd seiclonig wedi arwain at lif eithriadol o ddŵr oddi ar yr wyneb - cyfuniad o rew yn toddi a glaw - a orlwythodd system ddraenio ar waelodol y llen iâ, gan achosi cynnydd amlwg yn llif yr iâ ar draws sector orllewinol y llen iâ gan ymestyn 140 km ar hyd y llen o’r môr.

“Mae fel system garthffosiaeth drefol sy'n cael ei llethu dros dro gan storm o law trwm. Mae'r plymio’r llen iâ - rhwydwaith o bibellau, ceudodau a sianeli - yn gorlenwi oherwydd faint o law sy’n arllwys oddi ar yr wyneb, gan achosi llifogydd a phwysau dŵr uchel, sy’n llythrennol yn codi’r llen iâ oddi ar ei gwely, gan leihau ffrithiant gwaelodol a hwyluso’i thaith”, meddai'r Athro Alun Hubbard y prif ymchwilydd a arweiniodd y prosiect 4 blynedd a ariannwyd gan Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) a Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, ymysg eraill.

AU23515