Cyflwyno Gradd Baglor er Anrhydedd i Bryn Jones

Elizabeth France, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Gradd Baglor er Anrhydedd i Bryn Jones

Elizabeth France, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Gradd Baglor er Anrhydedd i Bryn Jones

16 Gorffennaf 2015

Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth i Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau mewn seremoni heddiw, ddydd Iau 16eg Gorffennaf.


Astudiodd Bryn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin a bu’n hynod ymroddgar yn ei wasanaeth i’r gymuned leol.

Gweithiodd yn Uned Iechyd Meddwl Ymddiriedolaeth y GIG yn Aberystwyth am 13 blynedd ac ef oedd un o sylfaenwyr HAUL – Grŵp Celfyddydau a Gofal Iechyd lleol a sefydlwyd yn y 1990au.

Gwasanaethodd Bryn fel Cadeirydd Cyngor Cymuned y Borth ac yn aelod cynorthwyol o Wylwyr y Glannau am 10 mlynedd, gan dderbyn tystysgrif am ei wasanaeth hir.

Cyflwynwyd Bryn Jones am y Radd Baglor er Anrhydedd gan Dr Debra Croft, Rheolwr Canolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol.

Cyflwyniad gradd Baglor er anrhydedd i Bryn Jones

‘Prynhawn da i chi gyd!    Good afternoon to everyone.

Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Bryn Jones am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth.

Pro Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Bryn Jones for an Honorary Bachelor Degree of Arts of Aberystwyth University.

It is fitting that we are here today in the Arts Centre, at the graduation ceremony for a new generation of fine artists and art historians, to celebrate the contribution to our local community of someone who is an avid advocate of the “the arts” and their ability to change the outlook, cohesion and aspiration of individuals and a community. 

As Manager for the Centre for Widening Participation and Social Inclusion, I have worked with the Penparcau and Trefechan communities since I first started a ‘proper job’ with Aber Uni – a frightening 10 years ago next month. I have been proud to work with Bryn over most of that time – from providing signs for the community shop front and Scouts wildlife areas, running a variety of workshops and training, rescuing a desk for the new forum office, and as of this morning, supporting the healthy-eating initiative fruit & veg co-op, by picking up 100 pieces of fruit every week, for the young people I have on campus for the summer. These days, I do more science than art, but that is about our only disagreement - and so, we share more than divides us.  

Bryn and I share what people now call a “portfolio” career - but we find ourselves here, working to provide opportunities to our local community. Bryn was raised in Caernarfon and studied at the Carmarthen School of Art - and we have swapped stories of living in squats, living for art and performance, and living through the upheavals of the 1980s and the politics of that time. 

We also share the belief that the extensive educational and training opportunities in our small town must be harnessed to improve the life chances of those who are  not ‘expected’ to go to University, not ‘expected’ to improve their life chances, not ‘expected’ to succeed.

And we also share the disbelief that funding for mid Wales is diminishing, in all sorts of areas, with little rural proofing of provision, and the increasing urbanisation of policy. 

But it is also fair to say that the removal of Communities First status from Penparcau in 2013 – although seen as a great loss - has proved a catalyst to the community, local groups, families and supporters – and the Penparcau Community Forum ... LIMITED (as Bryn would proudly say) has emerged and flourished … under the guidance of Bryn Jones, with his passion, his networking skills, and his knowledge and ability for searching out and stretching small pots of funding.

He will say that he is one of many – but there has to be ‘the one’: that holds a disparate group together – a true “Co-ordinator”. 

And beyond Penparcau, he has contributed to Aberystwyth, Ceredigion and mid Wales: he helped found ‘HAUL’ – a local Arts and Healthcare Group, worked in Mental Health care more widely, worked for the Arts Council as funding officer for “Arts for All”, has been a councillor and Chair of Borth Community Council, an Auxiliary Coastguard member and much, much more I’m sure. 

Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Bryn Jones i chi am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau. 

Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Bryn Jones to you for an Honorary Bachelor Degree of Arts.’

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:

•        Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.

•        Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

•        Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.

•        Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

•        Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

•        Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

•        Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.

Graddau Doethur Er Anrhydedd:

•        Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Graddau Baglor Er Anrhydedd:

•        Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.

AU19715