Urddo’r naturiaethwr Iolo Williams yn Gymrawd

Syr Emyr Jones Parry Canghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Iolo Williams yn Gymrawd

Syr Emyr Jones Parry Canghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Iolo Williams yn Gymrawd

17 Gorffennaf 2015

Urddwyd y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu, Iolo Williams, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Yn frodor o Lanwddyn yng ngogledd Powys, astudiodd Iolo radd mewn ecoleg ym Mholytechnig Gogledd-ddwyrain Llundain. Ar ôl graddio, bu’n gweithio i’r RSPB fel Swyddog Rhywogaethau, lle'r oedd ei ddyletswyddau yn cynnwys monitor adar prin ac ymchwilio troseddau erbyn adar gwyllt.

Ar ôl 15 mlynedd gyda’r RSPB, cychwynnodd Iolo gyflwyno rhaglenni teledu bywyd gwyllt ac mae bellach wedi datblygu gyrfa lwyddiannus fel cyflwynydd natur trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Iolo wedi cyflwyno dros 20 o gyfresi ar draws y byd ar gyfer y BBC a S4C, yn cynnwys yr enwog Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch.

Cyflwynwyd Iolo Williams yn Gymrawd ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf gan Dr Hywel Griffiths, Darlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol.

Cyflwyno Iolo Williams yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Mr Iolo Williams yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Mr Iolo Williams as a Fellow of Aberystwyth University.

Fel yn achos ffigurau amlwg eraill y Gymru Gymraeg, dim ond enw cyntaf Iolo sydd ei angen. Rydym i gyd yn gwybod pwy yw ‘Iolo’. Yn aml iawn gyda dim mwy na phâr o siorts a binociwlars, mae Iolo wedi ein tywys ar hyd llwybrau natur ar radio a theledu ers dros ugain mlynedd.

As is the custom in Wales with eminent cultural figures, no surname is necessary this afternoon. All of us here know who ‘Iolo’ is. Often armed with little more than a pair of shorts and binoculars, he has led us through the natural world on radio and television for over twenty years.

Magwyd Iolo yn Llanwddyn, yng nghanol mwynder Maldwyn. Ar ôl ennill gradd mewn ecoleg bu’n gweithio fel coedwr, ac ar fferm fynydd, cyn gweithio fel Swyddog Rhywogaethau i’r Gymdeithas er Gwarchod Adar. Fel cyflwynydd rhaglenni yn y Gymraeg a’r Saesneg ar S4C a’r BBC, ac fel awdur, mae ehangder a dyfnder ei brofiad o weithio ar lawr gwlad yn amlwg. Mae ganddo wybodaeth wyddoniadurol o fywyd gwyllt, ac mae’r enwau gwyddonol, Cymraeg a Saesneg am adar, anifeiliaid, trychfilod a phlanhigion ar flaen ei dafod ac yn cael eu hadrodd yn acen hyfryd y Canolbarth.

Iolo’s roots are in Llanwddyn in north Powys. After graduating in ecology he worked as a forester, a hill farmer, and then as Species Officer for the RSPB. As a broadcaster on S4C and the BBC, and as an author, the breadth and depth of the experience gained in working on the ground shines throughout his work. He has an encyclopaedic knowledge of wildlife, the scientific, Welsh and English names for all manner of birds, bugs and beasts rolling off his tongue in his rich Montgomeryshire accent.

Teg dweud nad oes unrhyw un yn y cyfnod diweddar wedi gwneud mwy i hyrwyddo dealltwriaeth, mwynhad a pharch o fywyd gwyllt Cymru a’r byd ymysg trigolion y wlad yma na Iolo. Trwy gyfrwng rhaglenni poblogaidd fel Natur Gudd Cymru, Gwyllt a Crwydro mae wedi dyfnhau gwybodaeth y Cymry o’u hamgylchedd, o dirwedd a bywyd gwyllt unigryw Cymru, a thrwy ei frwdfrydedd heintus, didwyll nodweddiadol mae wedi codi ymwybyddiaeth ohonynt ymhell y tu hwnt i’w ffiniau hefyd. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am y gwaith pwysig hynny, ac yn cydnabod ei waith fel esiampl arbennig i raddedigion Prifysgol Aberystwyth eleni.

No one has done more in recent years to promote understanding, enjoyment and respect of nature and the environment to Welsh audiences than Iolo. Through programmes such as Wild Wales, Iolo’s Welsh Safari and Springwatch he has deepened Welsh citizens’ understanding of their environment, of the country’s unique landscape and wildlife, and through his characteristic enthusiasm has raised awareness of them well beyond Wales’s borders. We are grateful to him for that important work, and we recognise his excellent example for the graduates of Aberystwyth University this year.

Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Mr Iolo Williams i chi yn Gymrawd. 

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Mr Iolo Williams to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:

•        Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.

•        Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

•        Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.

•        Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

•        Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

•        Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

Graddau Doethur Er Anrhydedd:

•        Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Graddau Baglor Er Anrhydedd:

•        Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.

•        Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.

AU19715