Dihangfa’r Ddaear o grafangau rhewllyd yn y gorffennol pell

Ymchwilwyr maes yn cynnal arolwg o ddaeareg gogledd ddwyrain Spitsbergen, ymhlith meysydd iâ’r ucheldir lle canfuwyd cerrig “Y Ddaear fel Pêl Eira”. Delwedd: Yr Athro Mike Hambrey.

Ymchwilwyr maes yn cynnal arolwg o ddaeareg gogledd ddwyrain Spitsbergen, ymhlith meysydd iâ’r ucheldir lle canfuwyd cerrig “Y Ddaear fel Pêl Eira”. Delwedd: Yr Athro Mike Hambrey.

01 Medi 2015

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr, yn cynnwys yr Athro Michael Hambrey o Ganolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth, wedi darganfod sut gwnaeth ein planed ddianc o grafangau rhewgell fyd-eang tua 635 miliwn o flynyddoedd yn nôl.

Mae eu hymchwil, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar yn y cyfnodolyn Nature Geoscience, mewn erthygl wedi ei harwain gan yr Athro Doug Benn o’r Ganolfan Brifysgol yn Svalbard.

Mae’r tîm, a gydlynwyd gan yr Athro Ian Fairchild o Brifysgol Birmingham, yn cynnwys gwyddonwyr o’r Deyrnas Gyfunol, Norwy, Ffrainc ac UDA.

Datblygwyd y syniad o fyd mewn rhewgell yn gyntaf yn y 1960au gan y daearegydd hyglod o Gaergrawnt, y diweddar Brian Harland. 

Wrth weithio gydag ef yn y 70au hwyr a’r 80au ar brosiectau yn yr Ynys Las a Spitsbergen (Svalbard, Norwy'r Arctig), darparodd Hambrey a Fairchild dystiolaeth am “Oes Iâ Trofannol”. 

Er hyn, dim ond yn ystod y 1990au y gwnaeth damcaniaeth “Y Ddaear fel Pêl Eira” ddenu sylw’r cyfryngau a’r gymuned ddaearegol ehangach, a hyd yma nid yw’r ddamcaniaeth wedi ei derbyn gan y gymuned wyddonol gyfan.

Digwyddodd yr Oes Iâ byd-eang a ddychmygir nawr, ac sy’n cael eu hadnabod fel y Mainoaidd, ychydig  cyn ymddangosiad anifeiliaid, ac mae yna gysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad. Y broblem oedd, er ei bod yn hawdd mynd i oes iâ, roedd rhai o’r farn ei bod yn anodd dianc ohoni.

Darganfyddodd modelwyr hinsawdd bod lefelau isel o garbon deuocsid yn yr atmosffer yn medru sbarduno tyfiant llenni iâ ar draws y blaned.

Byddai’r eira a’r rhew wedi adlewyrchu'r mwyafrif helaeth o ymbelydredd yr haul yn nôl i’r gofod, gan ei gwneud yn anodd i’r Ddaear ddianc o’i hoes iâ, oni bai am un peth:  llosgfynyddoedd. 

Yn y pen draw byddai llosgfynyddoedd yn ffrwydro o dan y llenni iâ wedi cyflenwi digon o garbon deuocsid i’r atmosffer i achosi effaith tŷ gwydr, gan achosi i’r llenni iâ ddadfeilio.

Er hyn, nid oedd modelau hinsawdd yn llwyddo i ddisgrifio, mewn modd oedd yn argyhoeddi, sut y llwyddodd y ddaear i ddiosg ei llen iâ.

Mae erthygl y tîm ymchwil yn darparu’r esboniad llawn cyntaf o sut daeth yr Oes Iâ Marinoaidd i ben, ynghyd â chynnydd yn lefel y môr o rai cannoedd o fetrau.

Achosodd sigladau yn echel troelli'r Ddaear amrywiadau yn y gwres a dderbyniwyd yng ngwahanol rannau o wyneb y blaned. 

Roedd y newidiadau yma yn fach ond yn ddigon arwyddocaol dros filoedd o flynyddoedd i achosi newidiadau yn y rhanbarthau ble roedd eira yn cronni neu’n ymdoddi, gan achosi i’r rhewlifoedd dyfu a chilio.

O ganlyniad, roedd y Ddaear yn ymddangos yn debyg i Ddyffrynnoedd Sych McMurdo yn Antarctica - cras, gyda llawer o dir moel, ond hefyd yn cynnwys llen iâ gyfagos hyd at 3 cilomedr o drwch.

Roedd wyneb y Ddaear yn y cyflwr yma yn dywyllach nag a feddyliwyd yn flaenorol, gan amsugno mwy o ymbelydredd yr haul, gan arwain at y cynnydd mewn tymheredd oedd ei angen er mwyn dianc o’r “Bêl Eira”.

Daethpwyd i’r casgliadau yma yn dilyn sawl tymor o waith maes ar greigiau ar ynys Norwyiaidd Spitsbergen, sy’n uchel yn yr Arctig, a chyfres o arbrofion labordy ar gannoedd o esiamplau a gasglwyd yno.

Cludwyd y tîm mewn hofrennydd gyda phebyll a chyflenwadau i feysydd iâ mewndirol, lle ceir stormydd eira difrifol hyd yn oed ganol haf.

Ond er gwaethaf yr heriau, llwyddwyd i gofnodi dyddodion rhewlifol yn gysylltiedig â chalchfaen, a chafwyd bod lefelau uchel o garbon deuocsid yn y cerrig yma.

Daethpwyd i’r casgliad bod y dyddodion yma yn cynrychioli cyfnod hwyr yr Oes Iâ Marinoaidd, pan oedd newidiadau yn yr atmosffer yn achosi i’r rhew ymdoddi. 

Er hyn, roedd y cyfnod yma o ymdoddi hefyd yn cynnwys amrywiadau o ganlyniad i’r sigladau yn echel y Ddaear, yn debyg i’r oesoedd iâ sydd wedi mynd a dod yn ystod y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf.

Profwyd y canlyniadau yma gan fodelwyr hinsawdd ym Mharis, a gwelwyd bod canlyniadau’r gwaith maes a’r gwaith arbrofol yn cyd-fynd.

Felly, ar ôl miliynau o flynyddoedd wedi rhewi, cyrhaeddodd y Ddaear â’i hatmosffer oedd yn cynhesu gyfnod trosiannol, gydag amodau tebyg i’r rhai sydd i’w gweld yn yr Arctic ac Antarctica heddiw, er bod Spitsbergen ar y pryd wedi ei leoli yn agos i’r cyhydedd. 

Parhaodd y cyfnod trosiannol hwn am 100,000 o flynyddoedd cyn i’r rhewlifoedd ymdoddi gan achosi i lefelau môr byd-eang godi’n syfrdanol. 

Trwy hynny, sefydlwyd amodau addas ar gyfer esblygiad trawiadol bywyd ar y Ddaear.

Dywedodd yr Athro Mike Hambrey:  “Mae’r prosiect cyffrous hwn wedi cyfuno sgiliau rhewlifegwyr, geogemegwyr, geoffisegwyr a modelwyr rhifiadol i ddatrys un o broblemau mwyaf anhydrin Daeareg.

“Roedd y gwaith maes yn Spitsbergen yn heriol ar amserau, yn enwedig pan fu rhaid i ni aildrefnu wedi i stormydd ddinistrio ein gwersylloedd, ond rydyn ni’n hapus gyda faint o ddata a gasglwyd.

“Ein papur newydd fydd y cyntaf o lawer, yn cyfeirio nid yn unig at Spitsbergen ond hefyd at yr Ynys Las lle buom yn gweithio yn ogystal.”

AU28615