Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn cyfarfod am y tro cyntaf

Pantycelyn

Pantycelyn

16 Medi 2015

Cyfarfu Bwrdd Prosiect Pantycelyn am y tro cyntaf ddydd Gwener 11 Medi i ddechrau ar y gwaith o ddatblygu briff cynllunio ar gyfer darparu llety a gofod cymdeithasol cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Sefydlwyd y Bwrdd yn dilyn penderfyniad Cyngor y Brifysgol ym mis Mehefin i gymeradwyo cynnig yn tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg ac i ddarparu llety Cymraeg penodedig o fewn y Brifysgol.

Yn ogystal, roedd y cynnig yn nodi’r bwriad i ailagor Pantycelyn o fewn 4 blynedd er mwyn darparu llety a gofod cymdeithasol Cymraeg o’r radd flaenaf, a fydd yn addas ar gyfer anghenion myfyrwyr y dyfodol.

Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn yw Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ac yn y cyfarfod cyntaf cymeradwywyd cylch gorchwyl ac aelodaeth y Bwrdd.

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones: “Mae hwn yn gam hollbwysig tuag at gyflawni bwriad y Brifysgol i ailagor Pantycelyn ac mae’r Bwrdd yn gwbl ymroddedig i’r dasg a osodwyd iddo. Yn allweddol, mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys trawstoriad o unigolion a fydd yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr a staff y Brifysgol, ac yn dwyn ynghyd ystod eang o brofiadau ac arbenigedd er mwyn ein galluogi i ddatblygu cynllun a fydd yn rhoi bywyd newydd i Bantycelyn fel canolbwynt bywyd Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn benodol, hoffwn estyn croeso cynnes iawn i Elin Jones AC a Roger Banner, y ddau aelod annibynnol o’r Bwrdd. Bydd eu cyfraniadau hwythau’n anhepgor.”

Dywedodd Hanna Merrigan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth: “Yn dilyn cyfarfod cyntaf Bwrdd Prosiect Pantycelyn, rwy’n hyderus fod aelodaeth y Bwrdd yn gryf a’r cylch gorchwyl yn gynhwysfawr iawn. Mae’r trafodaethau’n adeiladol a phwysleisiaf y bydd y myfyrwyr yn ganolbwynt i’r trafodaethau dros y misoedd nesaf. Dwi’n cynrychioli llais y myfyrwyr ar y Bwrdd Prosiect, ac mae’n galonogol gweld bod y Brifysgol yn croesawu ein mewnbwn. Hoffwn bwysleisio fod y broses y flwyddyn hon yn gliriach ac yn fwy tryloyw ac rwy’n gobeithio y bydd aelodau’r Bwrdd yn unfryd ynglŷn â natur a darpariaeth Pantycelyn i’r dyfodol. Mae’r camau sy’n cael eu cymryd yn profi bod y Brifysgol o ddifrif am Bantycelyn y tro hwn. Dwi hefyd yn croesawu penodiad Elin Jones AC i’r Bwrdd a dwi’n siŵr y bydd y myfyrwyr yn croesawu hynny hefyd oherwydd ei hymroddiad a’i rôl flaenllaw yn yr ymgyrch i achub Pantycelyn.”

Bydd adroddiad terfynol Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill 2016 ac yn cael ei gyflwyno i Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin.

Tra bod gwaith y Bwrdd yn mynd rhagddo, bydd Pantycelyn yn parhau yn ganolfan i weithgareddau cyfrwng Cymraeg.

Bydd Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg y Brifysgol yn adleoli i swyddfeydd newydd ym Mhantycelyn ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd, a bydd dosbarthiadau Cymraeg i ddysgwyr yn cael eu cynnal yno.

Yn ogystal, mae swyddfa UMCA yn parhau i fod ym Mhantycelyn, a bydd gofod cymunedol yr adeilad, gan gynnwys y Lolfa Fawr, y Lolfa Fach, yr Ystafell Gyffredin Hŷn a’r Ffreutur, ar gael at ddefnydd UMCA a’i haelodau.

Cylch Gorchwyl Bwrdd Prosiect Pantycelyn

Yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 22 Mehefin, mae’r canlynol wedi eu hadnabod fel prif gyfrifoldebau’r Bwrdd Prosiect:

1. Goruchwylio a chynghori ar ddatblygu’r briff dylunio er mwyn darparu llety a gofod cymdeithasol cyfrwng Cymraeg o'r radd flaenaf a fydd yn addas am 40 mlynedd, i’w gyflwyno i’r Cyngor unwaith ag y bydd wedi cael sêl bendith y Bwrdd Prosiect.

2. Sicrhau yr ymgynghorir yn llawn ag UMCA a'r myfyrwyr, yn ogystal â'r staff a'r gymuned ehangach, wrth ddatblygu’r briff dylunio hwn.

3. Asesu sut y gellid cymhwyso’r briff dylunio i Bantycelyn a’r gost debygol o wneud hynny, gan gynghori’r Cyngor fel bo’n briodol, gan ystyried: Strategaeth Ystadau ddiwygiedig y Brifysgol; y galw am lety Cymraeg; y newidiadau strwythurol sydd eu hangen ar Bantycelyn, statws adeilad rhestredig a'r caniatadau angenrheidiol; blaenoriaethau'r Brifysgol; a'r cyllid fydd ei angen.

4. Manteisio ar gyngor y Grŵp Cynghorol ar Brosiectau o Sylwedd (Major Projects Advisory Group, MPAG), a darparu adroddiadau cyson i ddiweddaru’r Cyngor trwy’r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth (PCS).

5. Cytuno ar adroddiad terfynol erbyn 30 Ebrill 2016 sy’n cwmpasu’r briff dylunio a sut y gellid ei gymhwyso i Bantycelyn, fel y gellir ystyried yr adroddiad gan y PCS a’r Cyngor yn ystod cylch cyfarfodydd Mai / Mehefin 2016. 


Aelodaeth Bwrdd Prosiect Pantycelyn
Aelodau o Gyngor Prifysgol Aberystwyth
Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd y Bwrdd a Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
Janet Davies

Aelodau annibynnol
Roger Banner, arbenigwr ym maes cyllid
Elin Jones AC

Aelodau o Dîm Gweithredol y Brifysgol
Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor (Prif Swyddog Gweithredol)
Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor

Cynrychiolwyr Myfyrwyr y Brifysgol
Hanna Merrigan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth
Lewis Donnelly, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Aelodau o Staff y Brifysgol
Dr Elin Royles, Cadeirydd Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones
Dr Huw Lewis

AU29615