Aberystwyth yn un o’r dringwyr mwyaf yn nhabl cynghrair The Times/The Sunday Times Good University Guide

18 Medi 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dringo 14 lle yn rhifyn diweddaraf The Times / The Sunday Times Good University Guide sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Sul 20 Medi.  

Nid oes un brifysgol wedi dringo mwy nac Aberystwyth yn nhabl cynghrair The Times / The Sunday Times eleni, sydd i fyny o 93 i 79, a dim ond pum sefydliad sydd wedi dringo mwy na 10 safle.

Yn gynharach yr wythnos hon dringodd Aberystwyth i mewn i’r 550 uchaf yn y Byd (i fyny hyd at 149 safle) yn nhabl diweddaraf y QS World University Rankings, a safle 52 yn y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol: “Am yr ail waith yr wythnos hon rydym wedi gweld y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth i wella profiad myfyrwyr yn cael ei adlewyrchu yn ein safle mewn tablau cynghrair.

“Dros yr 8 mis diwethaf rydym wedi gweld Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn gosod y Brifysgol yn y 50 uchaf yn y DG o ran dylanwad ymchwil; ac mae ein cyfradd cyflogadwyedd wedi cynyddu 6 pwynt canran.

“Dangosodd yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr fod y Brifysgol wedi gwneud gwaith da yn yr ardaloedd hynny lle'r oedd myfyrwyr am weld gwelliant, a gwelwyd buddsoddiad sylweddol mewn ansawdd dysgu ac addysgu ac adnoddau yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.”

“Rydym yn gadarn o’r farn bod y Brifysgol, ynghyd â’r dref yma yn Aberystwyth, yn cynnig un o’r amgylcheddau dysgu gorau i fyfyrwyr yn y Byd, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at adeiladau ar y llwyddiannau diweddaraf.”

Bydd The Times / The Sunday Times Good University Guide 2016 yn ymddangos ar lein yma ar ddydd Sul 20 Medi.