Gallai gwylio sment yn sychu sicrhau llenwadau deintyddol gwytnach

Chwith i’r Dde: Dr V K Tian o Ysgol Ddeintyddiaeth Budapest, Dr Gregory Chass o QMUL a’r Athro Neville Greaves o Brifysgol Aberystwyth

Chwith i’r Dde: Dr V K Tian o Ysgol Ddeintyddiaeth Budapest, Dr Gregory Chass o QMUL a’r Athro Neville Greaves o Brifysgol Aberystwyth

09 Tachwedd 2015

Mae gwyddonwyr o dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Queen Mary Llundain (QMUL) wedi darganfod sut mae sment sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer llenwadau deintyddol yn adennill ei elastigedd, cyn caledu yn barhaol. Gallai hyn arwain at greu llenwadau deintyddol gwytnach yn y dyfodol.

Mae sment deintyddol nodweddiadol o wydr, a ddatblygwyd yn y Deyrnas Gyfunol, wedi ei wneud o wydr powdr, polymer hylifol a dŵr. Hwn yw’r dewis diwenwyn sy’n cael ei ffafrio* dros amalgam mercwri, sydd wedi cael ei ddefnyddio i lenwi dannedd ers dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd gwaith y tîm, sydd wedi bod yn defnyddio deintyddiaeth ar lefel nano i fesur sut mae sment yn caledu mewn amser real, yn y cyfnodolyn Nature Communications.

Buont yn edrych ar yr wyneb rhwng y gronynnau gwydr caled a’r polymer cyfagos wrth i’r sment ymgryfhau.

Dan arweiniad modelau cyfrifiadurol, defnyddiont belydrau dwys o niwtronau o ffynhonnell niwtron a miwon y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC), a darganfod bod sment deintyddol yn caledu ar raddfa anghyson, gan gyflymu ac arafu. Mae’r canlyniadau yn dangos pwyntiau penodol wrth i’r sment galedu a chyrraedd at wydnwch meinwe ein dannedd yn ystod y 12 awr gyntaf.

Dywedodd yr Athro Neville Greaves o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth: "Mae llenwadau deintyddol yn ddeunyddiau gwirioneddol gymhleth. Gan ddefnyddio niwtronau rydym wedi darganfod sut mae gwydnwch mecanyddol yn datblygu, elfen wrth elfen. Dyma ffiseg sylfaenol ar waith er lles cyffredinol."

Dywedodd Dr Gregory Chass o Ysgol y Gwyddorau Biolegol a Chemegol yn QMUL: "Mae gan y rhan fwyaf ohonom lenwadau yn ein dannedd ac rydym yn gwybod bod crac yn golygu taith i'r deintydd i gael un newydd.

"Mae ein gwaith yn agor y posibilrwydd o deilwra caledwch mathau o sment sydd ddim yn cynnwys mercwri drwy ganolbwyntio ar y pwyntiau caledu arbennig, i greu llenwadau deintyddol sy’n amgylcheddol gyfeillgar, sydd nid yn unig yn para’n hirach, ond a allai atal dannedd rhag pydru mwy.”

Gallai gwell dealltwriaeth o sut y mae sment deintyddol yn caledu arwain at well defnydd o lenwadau a dewisiadau triniaeth haws i gleifion.

Gallai'r canfyddiadau yma effeithio ar ddiwydiannau eraill sy'n defnyddio sment, megis adeiladu, ac i brofi gwydnwch deunyddiau eraill.

Dywedodd Andrew Taylor, Cyfarwyddwr Gweithredol Labordai Cenedlaethol STFC: "Mae bob amser yn braf gweld canlyniadau fel hyn yn deillio o wyddoniaeth a wnaed yng nghyfleusterau STFC ac yn yr achos hwn, o’n ffynhonnell niwtron a miwon. Gellir defnyddio niwtronau ar gyfer ystod eang o gymwysiadau ac maent yn cael eu defnyddio gan wyddonwyr sy’n astudio popeth o’r straen ar adenydd awyrennau i hyrwyddo datblygiad technegau i gynhyrchu gwrthfiotigau mwy effeithiol.

Gallwn weld yma sut mae techneg sylfaenol wedi ei chymhwyso at her ddydd i ddydd y gall pob un ohonom uniaethu â hi.”

Dywedodd David Watts, Athro Gwyddoniaeth Bio-ddeunyddiau ym Mhrifysgol Manceinion a Phrif-Olygydd y cyfnodolyn rhyngwladol Dental Materials: “Mae’r ymchwil amserol hwn yn astudio esblygiad nano-strwythurol sment gwydr ionomer mewn manylder nas gwelwyd o’r blaen. Mae’r hyn a ddysgwyd yn allweddol er mwyn gwneud y mwyaf o rinweddau llenwadau sment gwydr ionomer ar gyfer adnewyddiadau deintyddol, sydd wir ei angen gyda’r lleihad yn y defnydd o amalgam mercwri ar draws y byd. Mae hefyd yn enghraifft sy’n ysbrydoli o dechnegau sy’n cyfuno gwasgariad niwtron a sbectrometreg THz mewn gwyddoniaeth bio-ddeunyddiau.

Ariannwyd yr ymchwil gan STFC, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol,  y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Prifysgol Technoleg Wuhan yn Tsieina ac TAMOP yn Hwngari.

AU35215