Arbenigwyr Ewropeaidd ar effaith economaidd y gwyddorau amaethyddol yn cyfarfod yn Aberystwyth

Rhai o aelodau IMPRESA yn ystod y cyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth

Rhai o aelodau IMPRESA yn ystod y cyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth

19 Tachwedd 2015

Mae tîm o wyddonwyr rhyngwladol yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos i drafod y prosiect Ewrop-gyfan IMPRESA mewn cyfarfod sy’n cael ei drefnu gan yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn ystafell gynadledda Medrus y Brifysgol.

Mae prosiect IMPRESA sy’n werth € 2.1m yn cael ei arwain gan yr Athro Peter Midmore o Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth.

Ariennir y prosiect drwy raglen Fframwaith 7 yr Undeb Ewropeaidd dros y cyfnod 2013-2016, ac mae’n astudio effaith economaidd ymchwil gwyddonol ar amaethyddiaeth ar draws Ewrop.

Mae’r tîm prosiect yn cynnwys academyddion a gwyddonwyr o Fwlgaria, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen a'r Swistir, yn ogystal ag o Brifysgol Aberystwyth.

Mae ymchwil yn y Deyrnas Gyfunol, a wnaed gan ymchwilwyr academaidd yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o'r prosiect, yn canolbwyntio ar effaith creu Mynegai Ffrwythlondeb Llaeth dros y 15 mlynedd diwethaf.

Mae prosiectau eraill yn edrych ar gynnyrch i frwydro yn erbyn gwiddon varroa mewn gwenyn, ynni adnewyddadwy ar gyfer bio-nwy, trosi i gynhyrchu reis organig, synwyryddion cnydau optegol ar gyfer amaethyddiaeth drachywir a rheolaeth gyfannol plâu ar gyfer cynhyrchu olew olewydd.

Dywedodd yr Athro Peter Midmore: "Mae hwn yn brosiect pwysig sy'n dechrau datblygu rhai casgliadau clir ar gyfer gwelliannau yn y ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd ar gwladwriaethau sy’n aelodau ohoni, yn asesu cyfraniad ymchwil gwyddonol ar amaethyddiaeth yn arwain at fanteision economaidd ehangach dros y tymor canolig a hir. Byddwn yn edrych ar ganfyddiadau rhagarweiniol o gasgliad hynod ddiddorol o astudiaethau achos o sut mae ymchwil gwyddonol wedi gwella arferion amaethyddol ac effeithiolrwydd mewn gwahanol wledydd - o'r Deyrnas Gyfunol i Fwlgaria."

Dywedodd yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr yr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth, ac yn aelod o dîm IMPRESA Aberystwyth: "Rydym yn falch iawn o groesawu tîm mor nodedig o ymchwilwyr a chynghorwyr gwyddonol i Aberystwyth gyfer y cyfarfod hwn o'r prosiect IMPRESA. Mae hwn yn brosiect pwysig iawn, o ran ei effaith debygol ar draws Ewrop, ac mae'r ffaith for yr Athro Peter Midmore wedi ei ddewis i arwain y rhaglen hon o ymchwil o Brifysgol Aberystwyth arwydd o’r parch iddo ym maes economeg amaethyddol yn Ewrop. Mae'n gyffrous gweld ansawdd y gwaith sy'n cael dechrau dod i'r amlwg o IMPRESA”.

Bydd y gwyddonwyr yn Aberystwyth am dri diwrnod, o ddydd Mercher 18fed tan Ddydd Gwener 20fed Tachwedd. Byddant hefyd yn cyfarfod â’r Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a fydd yn darparu cyflwyniad i Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth, ac yn ymweld â'r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yng Ngogerddan.

AU37015