Alex y saethwr yn mynd am yr aur

Roedd Alex Newnes yn ail ym Mhencampwriaethau Prifysgolion Prydain 2015 gafodd eu cynnal yn Lilleshall ym mis Mehefin

Roedd Alex Newnes yn ail ym Mhencampwriaethau Prifysgolion Prydain 2015 gafodd eu cynnal yn Lilleshall ym mis Mehefin

20 Tachwedd 2015

Mae myfyriwr a oedd yn awyddus i astudio gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth er nad oedd ganddo Lefel 'A' yn y pynciau gofynnol, yn taro’r targed ar ôl graddio o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad (IBERS) eleni gyda gradd dosbarth 1af mewn Ecoleg.

Yn wreiddiol fe gychwynnodd Alex Newnes o Landrillo-yn-Rhos ar gwrs Gradd Sylfaen Gwyddorau Bywyd yn IBERS ac yna trosglwyddo i radd BSc Ecoleg. Mae bellach yn astudio ar gyfer MSc mewn Rheoli'r Amgylchedd â’i fwriad yw gweithio fel ymgynghorydd amgylcheddol.

Ynogystal â chyflawni yn rhagorol yn academaidd, mae Alex wedi dod yn saethwr medrus yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth. Cafodd ei ysbrydoli gan ffilmiau poblogaidd megis 'The Lord of the Rings' a phenderfynodd roi cynnig ar y gamp ac ymuno â chlwb Aber Archers. Mae'n credu bod cynnal y naill ddisgyblaeth wedi arwain at lwyddiant yn yr llall.

"Mae astudio ar gyfer fy ngradd a saethu yn gofyn am sgiliau tebyg - amser, penderfyniad, ymroddiad, paratoi, cywirdeb a manylder. Roeddwn eisiau astudio yng Nghymru ac mae dod i Aberystwyth nid yn unig wedi fy ngalluogi i gyflawni yn academaidd, ond mae hefyd wedi tanio fy niddordeb mewn camp gystadleuol yr wyf hefyd yn rhagori ynddi."

Mae Alex wedi bod yn aelod o glwb Aber Archers am ychydig dros 2 flynedd a chafodd ei ethol yn Gapten y Dynion y llynedd, ac mae bellach yn Llywydd y clwb. Mae'r clwb yn cael ei redeg gan fyfyrwyr, i fyfyrwyr a’r clwb saethyddiaeth prifysgol mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol gyda bron i 200 o aelodau, ac mae Alex yn cystadlu'n rheolaidd.

Dywedodd Alex: "Mae saethyddiaeth yn gêm i’r meddwl, ac mae cystadlu ar lefel uchel yn debyg i sefyll arholiadau. Mae angen i chi aros yn dawel a chadw eich pen er mwyn taro’r targed. 

“Yn fy mlwyddyn gyntaf, nid oeddwn i’n gallu fforddio fy offer fy hunan. Y flwyddyn ganlynol, cefais afael ar fy mwa hir Saesnig gyntaf a mynychu pob cystadleuaeth posib, a gwella'n gyson gan ddod yn ail ym Mhencampwriaeth Prifysgolion Prydain (BUCS), yn 3ydd ym Mhencampwriaeth y Sir, a saethu fy Record Genedlaethol Gymreig gyntaf.

“Fe  gyfrannodd hyn at i mi ennill Person Chwaraeon y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth. Roeddwn yn parhau i wella ymhell i mewn i'r tymor awyr agored, gan saethu sawl Record Genedlaethol Gymreig a Recordiau Sirol, ac ennill y Bencampwriaeth Rhyng-sirol gyda'r sgôr uchaf yn fy nghategori. 

“Eleni, mi fydda’i yn  parhau i gystadlu, gyda fy ngolwg ar gystadlaethau cenedlaethol yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol. Fel Llywydd rwyf am ehangu'r clwb a gwneud saethyddiaeth hyd yn oed yn fwy hygyrch, fforddiadwy, ac yn hwyl i’n holl aelodau ac annog cymaint o bobl â phosibl i roi cynnig ar y gamp."

Dywedodd Dr Dylan Gwynn Jones, tiwtor Alex: "Fe gymerodd Alex ran lawn yn ein cwrs Gwyddorau Bywyd gan adeiladu sylfaen academaidd gadarn sy'n amlwg wedi chware rhan wrth iddo baratoi ar gyfer ei BSc ac yn awr astudiaeth MSc. Mae'r ffordd y mae wedi symud ymlaen yn ei gamp yn brawf o’i allu, penderfyniad a pharodrwydd i ddysgu hefyd.”

Llwyddiant arall am Alex, yn cyfuno ei fydoedd academiadd a sport, yw bod e wedi derbyn Ysgoloriaeth Chwaraeon ar gyfer ei chwrs uwchraddedig efo IBERS.

AU37515