Prosiect Pobl Sioe Frenhinol Cymru yn dychwelyd ar gyfer y Ffair Aeaf

Greg Thomas

Greg Thomas

25 Tachwedd 2015

Yn dilyn llwyddiant Pobl Sioe Frenhinol Cymru, bydd y myfyriwr PhD Greg Thomas yn dychwelyd i Lanelwedd yr wythnos nesaf i gynnal prosiect Pobl y Ffair Aeaf.

Yn dilyn llwyddiant Pobl Sioe Frenhinol Cymru yn ystod Sioe Frenhinol Cymru 2015, bydd Greg Thomas, myfyriwr PhD yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn dychwelyd i Lanelwedd i gynnal prosiect Pobl y Ffair Aeaf.

Nod Pobl y Ffair Aeaf yw olrhain hanesion cyffredin ac anghyffredin, straeon y bobl hynny sy'n mynychu ac yn gweithio tu ôl i'r llenni gan wneud y Ffair Aeaf Cymru yn un o brif sioeau stoc Ewrop.

Er taw llwyfan i’r da byw, cynnyrch a chrefftau Cymreig ar eu gorau yw’r Ffair Aeaf, nod y prosiect hwn yw dathlu'r rhai sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni, cofnodi hanesion yr ymwelwyr, arddangoswyr, a gwirfoddolwyr sy'n dod at ei gilydd gyda chymaint o frwdfrydedd, er mwyn sicrhau parhad llwyddiant y digwyddiad.

Drwy gydol y Ffair Aeaf 2015 bydd hanesion Pobl y Ffair Aeaf yn cael eu hadrodd ar y dudalen Facebook ‘Humans of the Royal Welsh Show’ (www.facebook.com/humansoftheroyalwelshshow) ac ar Twitter gan ddefnyddio @HumansOfTheRWS (www.twitter.com/HumansOfTheRWS). Gwahoddir y cyhoedd i ‘hoffi’ a dilyn y tudalennau hyn a gadael eu sylwadau yn y cyfnod sy’n arwain at y Ffair Aeaf , a thrwy gydol y digwyddiad.

Profodd prosiect Pobl Sioe Frenhinol Cymru lwyddiant mawr wrth i hanesion 62 o bobl gael eu hadrodd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru 2015. Yn ystod yr wythnos ymwelodd 197,990 o bobl o 84 o wledydd â thudalen Facebook y prosiect. Y gobaith yw y bydd modd ail adrodd rhywfaint o’r llwyddiant hwn yn ystod y Ffair Aeaf.

Dywedodd Greg: "Mae lefel o ymgysylltu â'r cyhoedd prosect Pobl Sioe Frenhinol Cymru yn gwbl ddigynsail, ac yn dangos diddordeb pobl Cymru, a ledled y byd yng ngweithgareddau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae’r prosiect hefyd yn dangos grym y cyfryngau cymdeithasol, wrth iddynt ganiatáu i bobl o bob cwr o’r byd gael cipolwg tu ôl i lenni’r Sioe ".

Mae Pobl o'r Ffair Aeaf yn rhan o ymchwil PhD Greg Thomas ‘Agricultural Shows: Driving and Displaying Rural Change’ yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. Nod y prosiect yw deall rôl sioeau amaethyddol yng Nghymru heddiw. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hwn yn dangos y manteision a ddaw i ardaloedd gwledig yn eu sgil, eu rôl ehangach mewn newid gwledig, y ffordd y mae sioeau amaethyddol yn dwyn cefn gwlad a’r dref ynghyd a hefyd eu rôl o ran hwyluso cysylltiadau rhwng ffermwyr a Llywodraeth Cymru.

Os hoffai unrhyw un wybod mwy am y prosiect PhD, gyfrannu ato neu gysylltu â Greg, ceir ei fanylion cyswllt ar y wefan www.showingagriculture.co.uk.

Mae Greg Thomas yn ymchwilydd ôl-raddedig yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, sydd ymysg y 100 adran ddaearyddiaeth orau yn y byd.  Ariannir ei ymchwil gan  Gynllun Ysgoloriaethau Doethur i Ddatblygu Gyrfa Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Yn wreiddiol o Lanfair ym Muallt, mae’n dod o gefndir amaethyddol ac wedi bod yn ymwelydd rheolaidd i’r Sioe Frenhinol trwy gydol ei fywyd. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am yr ymchwil yn www.showingagriculture.co.uk

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ymchwil ar gael yn www.showingagriculture.co.uk

AU36315