Gwobr Hult: Tîm o Aberystwyth yn cyrraedd rownd derfynol Llundain

Chwith i’r Dde: Bydd y myfyrwyr israddedig Brandon Ribatika o'r Ysgol Rheolaeth a Busnes, Mohammed Waqas o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Sohail Iqbal o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth yn rownd derfynol ranbarthol Llundain  Gwobr Hult ar 11-12 Mawrth 2016.

Chwith i’r Dde: Bydd y myfyrwyr israddedig Brandon Ribatika o'r Ysgol Rheolaeth a Busnes, Mohammed Waqas o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Sohail Iqbal o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth yn rownd derfynol ranbarthol Llundain Gwobr Hult ar 11-12 Mawrth 2016.

08 Mawrth 2016

Mae tîm o dri myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi cael eu dewis o blith mwy na 25,000 o geisiadau i gystadlu yn rowndiau terfynol rhanbarthol cystadleuaeth myfyrwyr fwyaf y byd i ddatrys rhai o'r heriau anoddaf sy'n wynebu'r byd heddiw.

Bydd y myfyrwyr israddedig Brandon Ribatika o'r Ysgol Rheolaeth a Busnes, Mohammed Waqas o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Sohail Iqbal o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth yn rownd derfynol ranbarthol Llundain Gwobr Hult ar 11-12 Mawrth 2016.

Cystadleuaeth flynyddol yw Gwobr Hult sy’n dod ag entrepreneuriaid cymdeithasol ifanc o brifysgolion ledled y byd at ei gilydd i gystadlu mewn timau i greu mentrau busnes newydd arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang fel tlodi, diogelwch bwyd a thai fforddiadwy.

Bydd y tîm buddugol yn cael y cyfle i wireddu’i syniadau gyda chymorth cyllid cychwynnol o $1 miliwn, yn ogystal â mentora a chyngor gan y gymuned fusnes ryngwladol.

Y thema eleni yw 'Gofodau Trefol Gorlawn: Dyblu Incwm drwy Gysylltedd’, ac mae’r cystadleuwyr wedi cael cais i ddatblygu syniadau ar gyfer mentrau cymdeithasol effeithlon a chynaliadwy sy'n gwella cysylltedd ac yn darparu cyfleoedd cynhyrchu incwm o ansawdd i’r miliynau o bobl sy'n byw mewn tlodi trefol ar draws y byd , a gall hyn gynnwys rhai sy'n byw mewn slymiau a gwersylloedd i ffoaduriaid.

Mewn ymateb i’r ffaith eu bod wedi cael eu dewis o blith gymaint o geisiadau, dywedodd Brandon Ribatika, sy’n wreiddiol o Zimbabwe, ac yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Economeg yn Aberystwyth: “Mae cyrraedd y rhan yma o’r gystadleuaeth yn gam anferth. Mae Gwobr Hult yn gystadleuaeth uchel iawn ei bri sy’n dod â meddyliau busnes at ei gilydd o bob cwr o’r byd. Mae’n fraint cael cynrychioli’r Brifysgol yn rowndiau terfynol rhanbarthol y gystadleuaeth, a byddai ennill y gystadleuaeth I’r Brifysgol yn destun balchder mawr.”

Cynhelir rowndiau rhanbarthol Byd-eang yn Boston, San Francisco, Llundain, Dubai, a Shanghai, yn ogystal â chystadleuaeth 'wildcard' ar-lein ar lein.

Bydd y timoedd buddugol o’r chwe rownd ranbarthol yn mynychu’r ‘Hult Prize Accelerator’ yn ystod Gorffennaf ac Awst, rhaglen chwe wythnos o seminarau entrepreneuraidd dwys sy’n cael eu cynnal gan Ysgol Fusnes Rhyngwladol Hult.

Mae Seremoni Wobrwyo Terfynol Byd-eang Gwobr Hult yn cael eu cynnal gan yr Arlywydd Bill Clinton yn ystod Cyfarfod Blynyddol Menter Byd-eang Clinton yn Efrog Newydd ym mis Medi.

AU4816