Aberystwyth ymysg 200 o brifysgolion gorau Ewrop

10 Mawrth 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth ymysg y 200 o brifysgolion gorau Ewrop yn ôl cynghrair prifysgolion y Times Higher Education sydd wedi’i chyhoeddi heddiw, ddydd Iau 10 Mawrth.

Mae Aberystwyth yn safle 161-170 ac mae’n un o 46 prifysgol o’r Deyrnas Gyfunol sydd wedi eu cynnwys yn 200 gorau Ewrop.

Ymysg y 200 uchaf, ceir cynrychiolaeth o 22 o wledydd, ac mae’r rhestr yn defnyddio data o 800 o brifysgolion mewn 70 o wledydd sydd wedi eu cynnwys yn Nhablau Cynghrair Prifysgolion y Byd y Times Higher Education.

Ym mis Medi 2015, datgelwyd bod Prifysgol Aberystwyth wedi dringo 50 safle i’r 250 uchaf yn y byd yn ôl Tablau Cynghrair Prifysgolion y Byd y Times Higher Education 2015-16.

Sail y tabl oedd perfformiad prifysgolion mewn pum maes; addysgu, ymchwil, cyfeiriadau at waith academaidd gan eraill, incwm o ddiwydiant ac agwedd rhyngwladol. Cafodd Aberystwyth ganlyniadau rhagorol am ei hagwedd rhyngwladol (safle 162) a chyfeiriadau at waith academaidd gan eraill (safle 260).

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth; “Mae cael ein cynnwys yn y 200 o brifysgolion gorau Ewrop yn newyddion gwych i bawb sydd â chysylltiad gyda Phrifysgol Aberystwyth ac mae adlewyrchu rhagoriaeth ar draws y sefydliad mewn dysgu ac ymchwil.”

Dywedodd Phil Baty, Golygydd Cynghrair Prifysgolion y Byd y Times Higher Education: "Mae Cynghrair Prifysgolion Ewrop y Times Higher Education yn defnyddio’r un grŵp o 13 o ddangosyddion perfformiad manwl a thrwyadl a gafodd eu defnyddio ar gyfer Cynghrair Prifysgolion y Byd y Times Higher Education 2015-16, ac felly mae cael eich cynnwys yn y rhestr nodedig hon o’r 200 uchaf yn gyrhaeddiad o bwys.

Mae’n rhaid i bob prifysgol yn y tabl arddangos rhagoriaeth ar draws ystod o fesurau, sy’n cwmpasu’r awyrgylch addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agwedd ryngwladol, a sefyll allan o’r miloedd o brifysgolion ar draws Ewrop na chafodd eu cynnwys.”

Ym mis Tachwedd 2015 cafodd Aberystwyth ei chynnwys ar restr y Times Higher Education o’r 50 prifysgol orau yn y DG am "y graddedigion gorau ar gyfer y gweithle".

Roedd y canfyddiad hwn yn seiliedig ar astudiaeth o gyflogwyr yn y DG o’r sectorau busnes, technoleg gwybodaeth a pheirianneg yn bennaf, ac yn gysylltiedig gyda chyhoeddi Arolwg Cyflogadwyedd Prifysgol Byd-Eang 2015.

AU9916