Ail-ddarganfod darn o waith cerflunydd amlwg Cymreig o’r 19eg ganrif

Y penddelw o Thomas Stephens o Ferthyr Tydfil

Y penddelw o Thomas Stephens o Ferthyr Tydfil

14 Mawrth 2016

Mae penddelw marmor gan y cerflunydd Cymreig enwog Joseph Edwards (1814-1882) wedi ei ailddarganfod mewn cwpwrdd dan-grisiau yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Credir i’r penddelw o Thomas Stephens (1821-1875), ysgolhaig a hanesydd toreithiog o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn byw ym Merthyr Tydfil, gyrraedd Aberystwyth ynghyd â’i bapurau a roddwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol gan ei deulu.

Ar y pryd roedd y Llyfrgell Genedlaethol yn yr Hen Goleg.

Esbonia Neil Holland o'r Ysgol Gelf: "Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud ers y 1960au i ail-gatalogio ac ail-gydosod arteffactau a chasgliadau a roddwyd i'r Brifysgol ers 1872, a chyn belled ag y gallwn gofio nid ydym erioed wedi dod ar draws unrhyw gofnod o dderbyn penddelw Thomas Stephens yn yr holl amser hwn. Felly mae wedi bod o’r golwg ers o leiaf 40 mlynedd.”

Joseph Edwards

Hefyd o Ferthyr Tudful ac yn fab i saer maen, daeth hoffter Joseph Edwards o gerfio i’r amlwg yn gynnar. Ar ôl dwy flynedd fel prentis i saer maen cofebion yn Abertawe, gadawodd Edwards am Lundain ym 1835 yn 21 oed.

Yno, ar ôl bron ildio i newyn, cafodd ei gyflogi fel cynorthwyydd stiwdio gan y cerflunydd William Behnes. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1837, ymunodd Edwards ag Academi Frenhinol y Celfyddydau, lle'r enillodd nifer o wobrau am ei waith.

Yn sgil hyn comisiynwyd nifer o weithiau ganddo, ac yn y blynyddoedd a ddilynodd creodd Edwards nifer fawr o weithiau alegorïaidd megis The Last Dream, Religion consoling Justice, cofeb i Syr Bernard Bosanquet a Religion a ddangoswyd mewn arddangosfa ryngwladol.

Yn 1838, aeth i weithio i’r cerflunydd Patrick MacDowell, a chynorthwyodd ef i gynhyrchu gweithiau megis Girl Reading, Triumph of Love a Virginius.

Yn 1860 dechreuodd Edwards gynorthwyo Matthew Noble. Yn dilyn marwolaeth gynnar Noble yn 1876, rhoddwyd i Edwards y cyfrifoldeb a’r dasg sylweddol o gwblhau’r comisiynau oedd heb eu gorffen a gwerthu modelau plastr gwreiddiol er budd gweddw a phlant Noble.

Ar ôl cwblhau'r gwaith hwn profodd Edwards gyfnod ariannol anodd ac yn 1881 dyfarnwyd iddo rodd ariannol o £50 y flwyddyn o gymunrodd Turner, a hynny dan nawdd y peintiwr a’r cerflunydd George Frederic Watts.  Bu farw’n fuan ar ôl iddo dderbyn y taliad cyntaf.

Flwyddyn ar ôl ei farwolaeth ysgrifennwyd yn y The Red Dragon: The National Magazine of Wales, ‘Of Joseph Edwards it may be said that Wales never had a truer or a more gifted son.’

Roedd Edwards hefyd yn adnabyddus am ei benddelwau yn portreadu ffigurau cyfoes a henebion angladdol, yn aml er cof am gyd-Gymry. Mae enghreifftiau o'i waith i'w gweld mewn eglwysi a mynwentydd ledled Cymru a Lloegr.

Thomas Stephens

Er gwaethaf diffyg addysg ffurfiol, daeth Thomas Stephens, a oedd yn fferyllydd wrth ei alwedigaeth, yn un o ysgolheigion, diwygwyr cymdeithasol a beirniaid diwylliannol mwyaf arloesol Cymru.  Cafodd ei draethawd beirniadol ar hanes iaith a llenyddiaeth Cymru’r oesoedd canol, Literature of the Kymry, a gyhoeddwyd ym 1849 glod rhyngwladol gan ymddangos hyd yn oed mewn cyfieithiad Almaeneg yn 1864.

Roedd Thomas Stephens yn ffigwr cyhoeddus pwysig ym Merthyr Tudful, ac arweiniodd nifer o fentrau i wella darpariaethau addysgol, iechyd a lles y dref, lle’r oedd amodau'n byw yn druenus ac aflonyddwch cymdeithasol yn gyffredin. Roedd yn gyd-sefydlydd y llyfrgell gyhoeddus, cynorthwyodd i sefydlu ei bwrdd iechyd, a bu’n dadlau o blaid addysg seciwlar wedi ei gyllido gan y wladwriaeth.

Mae Dr Marion Löffler o Ganolfan Astudiaethau Celtaidd Aberystwyth Prifysgol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn arwain prosiect ymchwil a ariannwyd gan Leverhulme sy’n canolbwyntio ar Thomas Stephens, wrth ei bodd gyda'r darganfyddiad: “Mae'r penddelw yn rhan bwysig o hanes deallusol a chelf Gymreig.

Mae Thomas Stephens yn un o'r enghreifftiau gorau o Gymro ymddyrchafedig o gyfnod Victoria ac mae’n cynrychioli’r  traddodiad academaidd Ewropeaidd amatur ar ei orau.

"Mae hanes comisiynu’r penddelw yn adrodd cyfrolau. Pan ymddeolodd Stephens o'i swydd fel ysgrifennydd Lyfrgell Merthyr ar sail afiechyd difrifol yn 1862, gwnaethpwyd casgliad, ond gwrthododd yr arian. Yna penderfynodd y pwyllgor gomisiynu ei gyd frodor o Ferthyr, Joseph Edwards, i greu gwaith celf coffaol."

Mae'n debyg bod y penddelw wedi cyrraedd Aberystwyth ynghyd â phapurau Thomas Stephens ar ôl marwolaeth ei weddw, wedi i’r teulu eu rhoi i’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a oedd bryd hynny yn yr Hen Goleg. Cafodd y papurau eu trosglwyddo i adeilad newydd y Llyfrgell Genedlaethol tua diwedd y 1930, ac mae’n bosibl bod y penddelw wedi ei adael ar ôl bryd hynny. 

Yn 1878 yn Art Journal, cylchgrawn celf pwysicaf oes Fictoria, gwnaethpwyd y sylw canlynol ar y penddelw o Thomas Stephens gan Edwards: ‘{The Welsh} may well be proud of their countryman, Joseph Edwards.  There are artists who will make as good busts, but there is no living sculptor who can produce monumental work so pure, so refined, so essentially holy.’

AU2116