Cyllid gan Leverhulme i astudio’r berthynas rhwng teledu a chymdeithas yng Nghymru yn y 1970au

Dr Jamie Medhurst gyda theledu Philips o 1949

Dr Jamie Medhurst gyda theledu Philips o 1949

18 Mawrth 2016

Mae hanesydd y cyfryngau o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill Grant Prosiect Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme er mwyn astudio’r berthynas rhwng teledu a chymdeithas yng Nghymru yn ystod y 1970au.

Dyfarnwyd £114,000 dros gyfnod o dair blynedd i Dr Jamie Medhurst, Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu a chyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau yn y Brifysgol. Mae’r grant yn cynnwys ysgoloriaeth PhD fydd yn canolbwyntio ar un agwedd benodol o’r astudiaeth.

Meddai Dr Medhurst: ‘Fe fydd y prosiect hwn yn creu hanes unigryw a gwreiddiol o deledu a chymdeithas yng Nghymru’r 1970au, gan dalu sylw arbennig i’r modd y gwnaeth teledu cyfryngu natur newidiol cymdeithas yn y cyfnod hwnnw a sut y gwnaeth teledu ei hunan, yn hytrach na dim ond adlewyrchu’r hyn oedd yn digwydd, yn rhan o’r un newidiadau.

‘Trwy graffu’n fanwl ar y deunydd cynradd, rwyf am archwilio’r berthynas gymhleth rhwng gwleidyddiaeth a pholisi, hunaniaeth genedlaethol, iaith, bywyd pob dydd a theledu yn ystod y degawd ac yn gobeithio tanlinellu’r ffyrdd y mae hyn yn berthnasol i’r tirwedd darlledu cyfoes.

‘Er bod y 1970s yn aml yn cael eu nodweddi fel degawd o lonyddwch yn nhermau Prydeinig, nid dyma’r achos yng Nghymru. Mi roedd, yn ôl yr hanesydd John Davies, yn ‘gyfnod o dyrfedd mawr yn hanes gwleidyddiaeth ddarlledu yng Nghymru’.

Mae’r prosiect yn dechrau ar 1 Medi 2016.

Ymddiriedolaeth Leverhulme

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme Trust gan Will o William Hesketh Lever, sefydlydd Lever Brothers. Ers 1925 mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn darparu grantiau ac ysgoloriaethau ar gyfer ymchwil ac addysg. Heddiw, mae’n un o’r darparwyr cyllid ymchwil ar draws y pynciau i gyd mwyaf ym Mhrydain, gan ddosrannu tua £80m bob blwyddyn. Am fwy o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth, ewch i www.leverhulme.ac.uk.

AU10516