Hwyl yr ŵyl heb yr helbul

Yr Athro Nigel Holt

Yr Athro Nigel Holt

21 Rhagfyr 2016

Mae’n gallu bod yn un o gyfnodau mwyaf hudolus y flwyddyn. Ond mae’r Nadolig hefyd yn gallu bod yn adeg o straen ac o dyndra.

Yr Athro Nigel Holt yw Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yma, mae'n rhannu ei gyngor ar gyfer cadw’r ddysgl yn wastad yn ystod dathliadau’r ŵyl.

1. Bydd yn drefnus
Ar y cyfan, dyw pobl ddim yn ymateb yn dda i ansicrwydd. Mae ymchwil ym maes seicoleg yn awgrymu bod ansicrwydd yn dwysau’r ymateb emosiynol. Yn syml, mae digwyddiadau sy'n peri straen yn gwaethygu o ganlyniad i ansicrwydd - felly os yw rhywbeth yn annymunol, mae'n ymddangos hyd yn oed yn fwy annymunol pan mae ansicrwydd yn ffactor. Yn yr un modd, wrth gwrs, mae digwyddiadau dymunol hyd yn oed yn FWY dymunol os oes ansicrwydd. Ond gan fod y Nadolig yn gallu bod yn emosiynol drwm i nifer ohonon ni, dwi’n argymell cael cynllun a gadael i bawb wybod yn gwmws beth sy’n mynd i ddigwydd a phryd.

2. Creu rheol anrhegion
Mae pobl yn poeni’n ofnadwy am wario’r un faint ar anrhegion i’w gilydd neu’n ceisio rhoi anrheg mwy drud – felly mae angen creu rheol. Mae plant yn fater gwahanol ond gydag oedolion, mae angen i ni dyfu lan ychydig! Mae rhai’n defnyddio ‘Santa Cudd’ ac eraill yn rhoi uchafswm ar bris anrheg. Beth bynnag yw’r dewis, mae angen ei drin fel gêm a sicrhau nad oes elfen gystadleuol yn perthyn i’r haelioni.

3. Paid â barnu - nid yw pawb yn caru’r Nadolig
Bydd yn ymwybodol nad yw pawb yn teimlo’n hwyliog yr adeg hon o'r flwyddyn a rho’r gorau felly i geisio codi gwên - gallai hynny arwain at ddagrau. Mae’n gallu bod yn gyfnod emosiynol a phobl yn cofio anwyliaid nad sydd gyda nhw bellach, ynghyd â llawer o bethau eraill sy'n cynhyrfu emosiwn. Rho ofod i bobl os ydyn nhw angen hynny a ffordd o ymuno os ydyn nhw’n dymuno - neu gyfle i gamu nôl, yn unol â’u dewis. Gall hyn fynd dipyn o’r ffordd tuag at osgoi dadlau a fyddai’n difetha diwrnod bawb. Mae angen caniatáu i bobl i gymryd 'amser allan' pan fydd angen - ac mae angen iti hefyd wybod pryd i gymryd hoe.

4. Paid ag yfed gormod
Gall y gwyliau fod yn gyfle da i orffwys a chael diod fach i ymlacio. Y broblem yw bod y cyfnod cyn y Nadolig yn teimlo’n hir a llawn straen i lawer ohonom, ac mae tuedd wedyn i fynd dros ben llestri. Mae diodydd alcohol o bob math ar gael o Champagne a sieri i gwrw, gwin a gwirodydd - ac mae yfed felly’n gallu bod yn rhan annatod o’r diwrnod mawr. Gwna’n siŵr bod yna ddigon o ddiodydd di-alcohol a dŵr i bawb ar bob bwrdd. Os nad ydyn nhw ar gael, mae’n hawdd cymryd gwydraid bach arall o win - ac mae’n bosib y bydd y canlyniad yn un gwahanol i’r hyn oedd gen ti mewn golwg ar gyfer y diwrnod.

5. Rhanna wybodaeth am anghenion bwyd
Os wyt ti’n mynd i gael cinio yn nhŷ ffrind, ac os wyt ti’n llysieuwr neu’n figan, neu os oes gen ti  unrhyw alergeddau bwyd, paid â disgwyl i bawb wybod hynny ac i ddarparu ar dy gyfer di drwy ryw ryfedd wyrth - a phaid â disgwyl iddyn nhw goginio rhost cnau heb gnau Ffrengig yn arbennig i ti. Ffonia nhw ymhell o flaen llaw a chynnig i ddod â dy bryd di-dwrci dy hun. Paid ag ychwanegu at straen y digwyddiad mawr er eu budd nhw ac er dy fudd dy hun.

6. Trin y digwyddiad fel ffilm
Yn hytrach na phitsio mewn pan mae sefyllfa’n dechrau poethi, cama nôl o’r sefyllfa ac arsylwi ar hyn sy’n digwydd. Ym maes seicoleg, mae ymddygiad o’r fath yn cael ei gydnabod fel personoliaeth 'arsylwi', ac mae'n caniatáu i ti gadw draw o’r pwysau a’r emosiwn sy’n corddi.

7. Meddwl yn gadarnhaol
Ydy, mae’n haws dweud na gwneud, ond yn y rhan fwyaf o achosion, mae chwilio am y pethau cadarnhaol yn gallu bod yn ffordd dda o leihau effaith y pethau negyddol. Gall y pethau cadarnhaol yna ddod o sawl cyfeiriad – o wybod, er enghraifft, bod gen ti fwyd a lloches – a ffilm dda i edrych ymlaen ati yn y prynhawn.

8. Cadw persbectif
Unwaith eto, hawdd dweud, ond nid hawdd gwneud bob tro. Mewn nifer o achosion, mae’r Nadolig gyda ffrindiau a theulu yn para am ddiwrnod neu ddau yn unig. Bydd y cwbl drosodd cyn i ti wybod, felly os yw pethau'n teimlo fel petai nhw allan o reolaeth a dwyt ti wir ddim yn mwynhau dy hun (er dy fod wedi ceisio dy orau drwy roi rhai o’r awgrymiadau yma ar waith), yna cofia y bydd y cyfan ar ben yn fuan iawn a bywyd yn dychwelyd i’w drefn arferol.

9. Cyfrif i ddeg
Yn araf. Ac eto, os bydd angen. Os oes rhywbeth yn dy wylltio di, paid ag ymateb. Mae rhai pobl wrth eu bodd yn ysgogi dadl neu’n mynd ati’n fwriadol i elyniaethu pobl. Cwyd uwchlaw’r cynnwrf, gan gadw golwg ar dy bwysedd gwaed!

10. Dal ati i wenu
Na, o ddifrif! Mae gwenu yn hollbwysig ac mae ‘na gryn dipyn o waith ymchwil ym maes seicoleg i gefnogi hynny. Ar wahân i'r ffaith ei fod yn gwneud i bobl edrych yn iau ac yn deneuach, mae ‘na fanteision eraill. Mae'r weithred o wenu ynddo’i hun yn codi’n hwyliau ac yn gwneud i ni deimlo'n well. Mae'n cynhyrchu cemegau sy'n cymell pleser niwrolegol ac mae'n digwydd hyd yn oed os ydyn ni’n gorfodi gwên. Mae gwenu’n gwneud i bobl eraill deimlo dy fod ti’n fwy cwrtais ac yn bwysicach, mae gwenu’n heintus, felly rho gynnig ar y gwenu a gweld beth sy'n digwydd!