Fforwm Cymuned Penparcau a Chanolfan y Celfyddydau yn Cydweithio ar Brosiect am Flwyddyn

Aelodau o Fforwm Cymuned Penparcau yn ymarfer gwerthu tocynnau gydag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure wrth iddynt baratoi i redeg Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yng nghwmni cynrychiolwyr o Cynnal y Cardi, Canlfan y Celfyddydau a Phrifysgol Aberystwyth.

Aelodau o Fforwm Cymuned Penparcau yn ymarfer gwerthu tocynnau gydag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure wrth iddynt baratoi i redeg Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yng nghwmni cynrychiolwyr o Cynnal y Cardi, Canlfan y Celfyddydau a Phrifysgol Aberystwyth.

26 Gorffennaf 2017

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gweithio ar y cyd gyda Fforwm Cymuned Penparcau ar brosiect sy’n dwyn y teitl ‘APT: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Penparcau gyda’i gilydd’.

Bydd y prosiect blwyddyn yn gweld trigolion Penparcau yn cymryd y Ganolfan drosodd am wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau ym mis Mehefin 2018. 

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl yn sgil cefnogaeth LEADER trwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae Cynnal y Cardi yn cael ei ariannu trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygiad Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir yn ei thro gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mae APT yn anelu at ddatblygu ‘Partneriaeth Penparcau’ lle y bydd aelodau grwpiau Fforwm Penparcau a thrigolion eraill yr ardal yn dod at ei gilydd i helpu rhaglennu, trefnu, rheoli a rhedeg Canolfan y Celfyddydau am wythnos, gyda chefnogaeth staff y Ganolfan.

Ar ran Fforwm Penparcau, dywedodd Cydlynydd y Fforwm, Bryn Jones: ”Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chanolfan y Celfyddydau ar y prosiect newydd cyffrous hwn. 

“Gyda’n hadeilad newydd yn agor ym mis Medi mae’n amser pwysig yn hanes Fforwm Penparcau ac mae’r cyfle i gynnig nifer sylweddol o weithdai a gweithgareddau ar gyfer ein holl drigolion lleol yn wych.

“Cafwyd llawer o ddiddordeb yn y prosiect eisoes gyda phob math o syniadau yn cael eu cynnig ar gyfer gweithgareddau y gallwn drefnu yn y Ganolfan – yn amrywio o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw i weithdai ar gyfer teuluoedd ifanc”.

Trwy gydol y prosiect bydd staff profiadol Canolfan y Celfyddydau yn helpu i hyfforddi trigolion Penparcau mewn amrediad eang o sgiliau yn cynnwys technegol, rheoli digwyddiadau, blaen tŷ a marchnata’r celfyddydau creadigol.

Ar ddiwedd y cyfnod hyfforddi ym mis Mehefin 2018 bydd Canolfan y Celfyddydau yn cael ei ‘rhannu’ gydag aelodau Fforwm  Penparcau, a fydd yn helpu i redeg y Ganolfan mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a gynlluniwyd ganddynt gan ddefnyddio eu sgiliau newydd mewn amgylchedd celf proffesiynol, byw.  

Yn ogystal â gweithdai hyfforddi anffurfiol a mentora ar draws holl agweddau rheoli digwyddiadau, technegol, blaen tŷ, marchnata a rhaglennu, bydd y sawl sy’n cymryd rhan hefyd yn medru ymweld â mudiadau celf eraill yng Nghymru a thu hwnt i weld sut mae canolfannau eraill yn gweithio ac i gyfarfod â’r staff yno ac i weld cynyrchiadau yn digwydd.

Bydd pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect hefyd yn cael y cyfle i ennill achrediad ym maes astudio’r celfyddydau a all arwain at astudiaeth bellach pe baent yn dymuno.

Cynhelir sesiynau gweithdy a hyfforddi mewn gwahanol leoliadau yn y dref - gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau, Canolfan Gymuned newydd Fforwm Penparcau, a Hen Goleg y Brifysgol.

Mae’r prosiect ar gael i holl grwpiau a thrigolion Penparcau, o bob oedran a phrofiad.

Pe hoffech fod yn rhan o’r prosiect cysylltwch ag unai Fforwm Penparcau ar 01970 611 099 / contact@penparcau.cymru  neu Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth amj@aber.ac.uk / 01970 622888.