Gwobr Cyflawniad Arbennig i academydd o Aberystwyth

Yr Athro Colin McInnes, enillydd Gwobr Cyflawniad Arbennig yng Ngwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017

Yr Athro Colin McInnes, enillydd Gwobr Cyflawniad Arbennig yng Ngwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017

11 Rhagfyr 2017

Mae academydd blaenllaw o Gymru sydd yn gweithio ym maes gwleidyddiaeth iechyd byd wedi derbyn cydnabyddiaeth am gyfraniad oes i ymchwil gwyddor gymdeithasol yng Nghymru.

Cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Arbennig i’r Athro Colin McInnes, Athro UNESCO Addysg a Diogelwch Iechyd HIV/AIDS yn Affrica ym Mhrifysgol Aberystwyth, yng Ngwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017 gafodd eu cynnal yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Iau 7 Rhagfyr.

Wrth longyfarch yr Athro McInnes ar ei lwyddiant, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Ar ran pawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau mwyaf gwresog i’r Athro McInnes ar dderbyn y wobr hon. Mae wedi cynorthwyo i ail-ddiffinio a mireinio ein dealltwriaeth o iechyd fel ffenomenon wleidyddol yn oes globaleiddio, ac nid yw’n or-ddweud ei fod wedi bod yn gyfrifol am sefydlu’r maes hwn yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mewn datganiad o gefnogaeth, disgrifiodd yr Athro Kelley Lee o Brifysgol Simon Fraser, Vancouver, Canada, yr Athro McInnes fel “ysgolhaig rhagorol o enw da rhyngwladol”.

Ychwanegodd yr Athro Lee: “Mae'r Athro McInnes yn ysgolhaig uchel iawn ei barch sydd wedi cyfrannu dadansoddiadau arloesol a gwreiddiol sy'n pontio meysydd Cysylltiadau Rhyngwladol ac Iechyd Cyhoeddus. Mae wedi cyflawni hyn trwy chwarae rôl arweiniol wrth ddyfnhau’r dadansoddiad o faterion iechyd byd-eang gan ddefnyddio lensys polisi tramor, diogelwch a llywodraethiant/diplomyddiaeth. Mae ei gyfraniadau damcaniaethol ac empirig yn ychwanegol at ei gyfraniadau cyson at drafodaethau polisi lefel uchel yn y DU ac yn rhyngwladol.”

Noddwyd gwobrau Cymdeithas Ymchwil Cymdeithasol eleni gan yr Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, ac maent yn cydnabod a dathlu ymchwil ragorol gan ymchwilwyr gwyddoniaeth gymdeithasol yng Nghymru.

Eleni gwelwyd academyddion o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol ar restr fer pob un o bedwar categori’r Gwobrau.

Yn ogystal â’r Athro McInnes, cafodd y canlynol eu cynnwys ar y rhestr fer.

Dr Catrin Wyn Edwards (Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn). Mae Dr Edwards wedi bod yn ymchwilio i integreiddio ieithyddol ymfudwyr i is-wladwriaethau, yn benodol yng Nghatalwnia a Chymru, a Quebec a New Brunswick yng Nghanada.

Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards (Gwobr Effaith Ymchwil). Cafodd Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards, sy’n gweithio i Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, eu cynnwys ar y rhestr fer am eu gwaith hysbysu a dylanwadu ar y drafodaeth bolisi fu’n bwydo mewn i baratoi strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, Strategaeth y Gymraeg, gafodd ei chyhoeddi yng Ngorffennaf 2017.

Dr Berit Bliesemann de Guevara (Gwobr Arloesedd Ymchwil). Enwebwyd Dr Bliesmann de Guevara am ei gwaith ar y cyd gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar y prosiect “Defnyddio gweithdy arlunio i archwilio profiadau anffrwythlondeb menywod Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru”.

Yn ôl yr adolygiad diweddaraf o ansawdd ymchwil y DU, Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth yn cyrraedd safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch na hynny, gydag ymchwil sy’n arwain y byd (4*) yn cael ei nodi ym mhob un o 17 o’r Unedau Asesu a gyflwynwyd.

Roedd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y brig yng Nghymru, gyda dros 75% o'i ymchwil o safon gydnabyddedig ryngwladol neu yn neu'n rhagorol yn rhyngwladol (FfRhY2014).

Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru ar gael ar-lein.