Rhoi hwb i arwyr yr awyr

Elusen y Flwyddyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth 2018-19:  Chwith i’r Dde: Aneurin Roberts, Cydlynydd Cymunedol ar gyfer Ceredigion Ambiwlans Awyr Cymru; Morfudd Williams; gwirfoddolwr Ambiwlans Awyr Cymru a’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Elusen y Flwyddyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth 2018-19: Chwith i’r Dde: Aneurin Roberts, Cydlynydd Cymunedol ar gyfer Ceredigion Ambiwlans Awyr Cymru; Morfudd Williams; gwirfoddolwr Ambiwlans Awyr Cymru a’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

17 Gorffennaf 2018

Ambiwlans Awyr Cymru a ddewiswyd yn Elusen y Flwyddyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2018-19.

Gwnaeth yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, y cyhoeddiad ddydd Mawrth 17 Gorffennaf yn ystod y cyntaf o’r seremonïau graddio eleni.

Cafodd yr elusen ei dewis yn dilyn proses o enwebiadau a phleidleisio gan fyfyrwyr a staff ledled y Brifysgol.

Wrth gyhoeddi enw’r elusen, dywedodd yr Athro Treasure: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru’n darparu gwasanaeth achub bywyd hanfodol i Geredigion ac i Gymru gyfan, ac mae’n dibynnu’n llwyr ar roddion elusennol. Mae myfyrwyr a staff y Brifysgol yn edrych ymlaen i weithio gyda thîm Ambiwlans Awyr Cymru dros y flwyddyn i ddod.”

Dywedodd Angela Hughes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae’n anrhydedd o’r mwyaf i Ambiwlans Awyr Cymru gael ei enwebu’n Elusen y Flwyddyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ac rydym yn edrych ymlaen i weithio ar y cyd â’r Brifysgol i helpu i godi cronfeydd hanfodol ar gyfer hofrenyddion achub bywyd Cymru."

“Llynedd gwnaeth criw Ambiwlans Awyr Cymru ymateb i 77 o gyrchoedd yn ardal Ceredigion – oddeutu chwech y mis. Dim ond gyda chymorth fel hyn y gall ein hofrenyddion barhau i hedfan ac achub bywydau.”

Nod Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor yw codi cymaint o arian â phosib i achos da bob blwyddyn, a rhoi ffocws i staff, myfyrwyr a’r gymuned ar gyfer codi arian.

Cynhelir Wythnos Raddio 2018 Prifysgol Aberystwyth dros bedwar diwrnod, o ddydd Mawrth 17 tan ddydd Gwener 20 Gorffennaf, yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

 

AU32118