Aberystwyth yn croesawu myfyrwyr meddygol

Myfyrwyr meddygaeth o Brifysgol Caerdydd a Dr Maro Arkesteijn (dde), darilthydd mewn Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn ystod ymweliad ag adnoddau ymchwil chwaraeon a meddygol y Brifysgol.

Myfyrwyr meddygaeth o Brifysgol Caerdydd a Dr Maro Arkesteijn (dde), darilthydd mewn Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn ystod ymweliad ag adnoddau ymchwil chwaraeon a meddygol y Brifysgol.

07 Medi 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o dair prifysgol yng Nghymru sy’n rhan o gynllun peilot i ddenu meddygon ifanc i Ogledd a Chanolbarth Cymru. 

Sefydlwyd rhaglen CARER (Community & Rural Education Route) mewn ymateb i’r diffyg enbyd yn nifer y meddygon teulu sydd ar gael i ymateb i’r galw cynyddol gan gleifion yn sgîl poblogaeth yn y Gymru wledig sy’n cynyddu ac yn heneiddio.

O dan arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac mewn partneriaeth gyda phrifysgolion Aberystwyth a Bangor, mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr meddygol Caerdydd brofi blwyddyn o’u haddysg mewn practis meddyg teulu mewn lleoliadau gwledig/cymunedol.

Bydd saith myfyriwr yn cael eu lleoli yn Aberystwyth fel rhan o’r cynllun sy’n dechrau ym mis Medi 2018, a byddant yn cwblhau eu trydedd flwyddyn yn yr ardal cyn dychwelyd i Gaerdydd i gwblhau eu gradd.

Yn ystod eu cyfnod yn Aberystwyth, byddant yn cael defnydd o gyfleusterau astudio a hamdden y Brifysgol, ynghyd â’i gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o groesawu’r criw cyntaf o fyfyrwyr meddygaeth o Brifysgol Caerdydd i Aberystwyth, ac i gynnig iddynt ein cyfleusterau astudio, cymorth a hamdden rhagorol. O brofiad, rydym yn gwybod bod myfyrwyr meddygaeth yn dueddol o fod eisiau parhau i weithio'n agos at le maen nhw'n astudio. Drwy gynnig y cyfle hwn i astudio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydym yn gobeithio y byddant hefyd yn gweld dyfodol proffesiynol yma, a thrwy wneud hyn gobeithiwn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg gweithwyr gofal iechyd sy'n gweithio yn yr ardal.”

Meddai’r Athro Siladitya Bhattacharya, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae nifer o feddygfeydd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn wynebu gorfod cau oherwydd bod llai o feddygon teulu i gymryd lle’r rhai sy’n ymddeol neu’n ymadael. Er bod ymgyrch ‘Hyfforddi Gweithio Byw’ y Llywodraeth wedi gweld cynnydd yn nifer y meddygon iau sy’n dewis gweithio yng Nghymru, mae recriwtio’n dal yn broblem mewn ardaloedd gwledig.  Yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd rydym am hyfforddi gweithlu meddygol rhagorol i wasanaethu holl gymunedau Cymru gyfan."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Rwy’n falch iawn o weld y cynllun hwn yn darparu cyfle i’n cenhedlaeth nesaf o feddygon astudio yn y Gymru wledig. Bydd yr enghreifftiau rhagorol hyn o gydweithio rhwng ein prifysgolion yn gymorth mawr i ddod â meddygon teulu i ardaloedd lle bu’n draddodiadol anodd recriwtio yng Ngogledd a Gorllewin Cymru.”

CARER fydd y rhaglen gyntaf o'i bath yng Nghymru, ac ar y cychwyn bydd ar gael i fyfyrwyr meddygol presennol y drydedd flwyddyn yn unig.

Dywedodd Ella Wooding, un o'r myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n cymryd rhan yng nghynllun CARER: “Rwyf wedi mwynhau’n fawr yr addysgu meddyg teulu a gefais yn fy nwy flynedd gyntaf yn yr ysgol feddygol, felly roeddwn i’n meddwl bod CARER yn swnio fel cyfle gwych! Roeddwn i hefyd yn meddwl y byddai’n gyfle da i weld mwy o Gymru a phrofi rhywbeth gwahanol i fywyd yng Nghaerdydd.”