Y Prif Weinidog i lansio blwyddyn canmlwyddiant Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC

Y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC

27 Medi 2018

Bydd Prif Weinidog Cymru yn lansio cyfres o ddarlithoedd uchel eu proffil i nodi canmlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Mewn darlith ar y pwnc ‘Towards a Better Union: Past, Present and Post Brexit prospects for the UK’, bydd Carwyn Jones AC yn dadansoddi'r heriau o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

Traddodir y ddarlith am 5 brynhawn ddydd Iau 11 Hydref 2018 ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gampws Penglais.

Mae mynediad am ddim a chroeso i bawb, ac mae tocynnau ar gyfer y ddarlith ar gael ar wefan Tocyn.Cymru.

Mae Carwyn Jones yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, gan raddio yn y Gyfraith yn 1988.

Ei ddarlith fydd y gyntaf yng Nghyfres Siaradwyr y Canmlwyddiant sydd yn cael ei threfnu gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol i ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.

Dywedodd yr Athro Richard Beardsworth, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd bod y Prif Weinidog wedi cytuno i draddodi  darlith agoriadol dathliadau ein canmlwyddiant. Mae Brexit wedi dominyddu’r tirwedd gwleidyddol, a bydd y ddarlith hon gan Carwyn Jones yn asesu'r her o adael yr UE o fewn cyd-destunau Cymreig, y DU a rhyngwladol. Bydd yn gosod y llwyfan ar gyfer cyfres o ddarlithoedd canmlwyddiant sy'n dwyn ynghyd arweinwyr pwysig yn ein disgyblaeth i fynd i'r afael â phrif faterion byd-eang yr 21ain ganrif.”

Ymhlith siaradwyr eraill yn ystod Cyfres Siaradwyr Canmlwyddiant 2018-19 mae:

  • Yr Athro Cynthia Enloe, Athro Ymchwil ym Mhrifysgol Clark, Massachusetts - 15 Tachwedd 2018
  • Yr Athro Michael Cox, Cyfarwyddwr LSE IDEAS ac Athro Emeritws Cysylltiadau Rhyngwladol yn LSE - 4 Rhagfyr 2018.
  • Yr Athro Louise Richardson - Is-Ganghellor, Prifysgol Rhydychen - 7 Chwefror 2019.
  • Yr Athro Ken Booth - Llywydd Sefydliad Coffa David Davies a chyn-Bennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth - 21 Chwefror 2019.
  • Yr Athro Steve Smith - Is-Ganghellor, Prifysgol Exeter, a chyn-Bennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth - 5 Mawrth 2019.
  • Gideon Rachman, Prif Sylwebydd Materion Tramor, Financial Times - 28 Mawrth 2019
  • Yr Athrawon John Ikenberry (Prifysgol Princeton) a Dan Deudney (Prifysgol John Hopkins), Ebrill 2019

Hanes
Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919, yn fuan ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf lle cafodd mwy na 100 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu lladd.

Rhoddodd David Davies (a ddaeth yn Arglwydd Davies o Landinam), dyn busnes, cymwynaswr a gwleidydd o Ganolbarth Cymru, a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret, £20,000 i goffáu’r myfyrwyr a syrthiodd ar faes y gâd er mwyn sefydlu “canolfan ddysg fyd-eang ac ymchwil ar wleidyddiaeth ryngwladol yn Aberystwyth”.

Mewn llythyr i'r Brifysgol yn hydref 1918, ysgrifennodd David Davies: "Fe’m tarrodd i a’n chwiorydd y gallai Prifysgol Cymru a Chyngor y Coleg fod yn barod i'n caniatáu i ariannu Cadair mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth, er cof am y myfyrwyr o’n prifysgol a syrthiodd, er mwyn astudio'r problemau perthnasol ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, moeseg ac economeg, a godir gan brosiect Cynghrair y Cenhedloedd, ac er mwyn annog dealltwriaeth lawn o wareiddiad, heblaw ein un ni ein hunain.”

Ac felly y daeth Aberystwyth yn gartref i gadair gyntaf y Byd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, ac fe’i henwyd er mwyn anrhydeddu Arlywydd America, Woodrow Wilson - y gŵr sy’n cael ei gysylltu â chreu Cynghrair y Cenhedloedd dros gynnal cyfiawnder rhyngwladol a chadw’r heddwch.

Fel rhan o flwyddyn canmlwyddiant 2018-19, cynhelir aduniad arbennig i gyn-fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Mehefin 2019.

Mae rhagor o fanylion am y canmlwyddiant ar gael ar wefan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.