Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd mewn Cymdeithaseg

Adeilad Llandinam, cartref Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol

Adeilad Llandinam, cartref Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol

05 Hydref 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio cynllun gradd anrhydedd sengl newydd mewn Cymdeithaseg ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-20.

Darperir y radd newydd gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a bydd yn adeiladu ar y cysylltiadau cryf sy’n bodoli rhwng disgyblaethau Cymdeithaseg a Daearyddiaeth Ddynol.

Mae nifer o staff addysgu ac ymchwil yr Adran yn gweithio mewn meysydd sydd o ddiddordeb penodol i gymdeithasegwyr, e.e. symudedd, cenedlaetholdeb, cymdeithas wledig, ac yn cyhoeddi’n helaeth mewn cyfnodolion Cymdeithaseg.

Un o brif nodweddion y radd newydd fydd y pwyslais ar deithiau maes wrth astudio Cymdeithaseg. Bydd teithiau maes yn rhan gyfannol o ddarlithoedd a modiwlau ymarferol, a bydd modiwl penodol mewn Cymdeithaseg wedi’i seilio ar deithiau maes ym mlwyddyn 2.

“Mae hon yn fenter newydd a chyffrous i ni,” dywedodd yr Athro Rhys Jones, cydlynydd y cynllun newydd. “Ond ar yr un pryd, rydym yn ail-fyw ein gorffennol. Dysgwyd gradd mewn Cymdeithaseg yn Aberystwyth rhwng y 1960au hwyr a’r 1980au hwyr. Yn ogystal cafodd llawer o waith arloesol ym maes Astudiaethau Cymunedol ei wneud yn Aberystwyth gan Alwyn D Rees, gwaith a fu’n batrwm i astudiaethau tebyg mewn mannau eraill.”

Yr Athro Rhys Jones

Bydd y myfyrwyr ar y cynllun yn elwa hefyd o ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i brofiad myfyriwr o safon uchel.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad Aur y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ac, am yr ail flwyddyn yn olynol, cafodd ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu gan The Times / Sunday Times Good University Guide 2019.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda chydlynydd y cynllun, yr Athro Rhys Jones ar e-bost, raj@aber.ac.uk.