Darlithydd o Brifysgol Aberystwyth yw enillydd Gwobr Syr Ellis Griffith

Dr Rhianedd Jewell

Dr Rhianedd Jewell

12 Hydref 2018

Mae darlithydd Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr am ei hastudiaeth o waith cyfieithu’r dramodydd arobryn Saunders Lewis.

Dyfarnwyd Gwobr Syr Ellis Griffith i Dr Rhianedd Jewell gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru.

Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y gwaith gorau yn Gymraeg ar lenorion Cymraeg neu ar eu gweithiau, neu ar arlunwyr neu grefftwyr Cymreig neu eu gweithiau hwy. 

Daw’r Wobr o Gronfa a godwyd yn Sir Fôn ac yn Llundain yn bennaf i beri cofio enw y diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis Griffith MA KC PC (1860-1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn. 

Mae enillwyr y wobr, sy’n cynnwys gwobr ariannol o £200 ynghyd a llyfrau gwerth £50, yn cynnwys Yr Athro D Densil Morgan am ei gyfrol Dawn Dweud: Lewis Edwards; Rhiannon Marks am ei golwg ar waith Menna Elfyn; Yr Athro Emeritws Ceri W Lewis am ei waith Iolo Morgannwg a A Cynfael Lake am y gyfrol Gwaith Hywel Dafi.

Her a Hawl Cyfieithau Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere, yw’r astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri’r ddrama, sef Saunders Lewis.

Mae ei gyfieithiadau o weithiau’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Moliere yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na fel cyfieithydd.

Ystyrir yma hanes cyfieithu ac addasu yn y theatr Gymraeg a’r modd y maent wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg; edrychir hefyd ar bwysigrwydd Ewrop, a Ffrainc yn benodol, i Saunders ac arwyddocâd hyn fel sail i’w waith cyfieithu.

Trafodir y modd y mae ei ddulliau cyfieithu yn adlewyrchu ei ddatblygiadau personol a phroffesiynol dros gyfnod o ddeugain mlynedd, a beth yw rôl y cyfieithydd ym myd y theatr - pa hawl sydd gan gyfieithydd i addasu darn llenyddol, er enghraifft, a ble mae gosod ffin rhwng cyfieithu, addasu a chreu testun newydd, ac i ba raddau felly y mae i’r cyfieithiad newydd werth celfyddydol gwreiddiol ynddi ei hun.

Dywedodd yr Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: “Roedd y tri beirniad yn unfryd eu barn fod y gyfrol gyfoethog hon yn llwyr deilyngu’r wobr. Hon yw’r astudiaeth gyflawn gyntaf o waith cyfieithu Saunders Lewis, ac mae’n taflu goleuni newydd ar ei ddatblygiad fel llenor ac ar ei ddyled i’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Moliere. Mae cyfieithu i’r theatr yn grefft neilltuol, ac felly mae’r gyfrol hefyd yn gyfraniad pwysig i faes astudiaethau cyfieithu yn y Gymraeg.”

Dywedodd Rhianedd, sydd yn aelod o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ac yn ddarlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Mae hi'n fraint arbennig ac annisgwyl derbyn Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith am fy nghyfrol gyntaf. Mae'r prosiect hwn yn golygu llawer imi, ac felly rwy'n hynod o ddiolchgar i Brifysgol Cymru am roi cydnabyddiaeth i'w werth ac am roi sylw arbennig i faes astudiaethau cyfieithu."

Yn 2013 enillodd Gwobr Goffa Saunders Lewis i gyllido'r gyfrol, Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière, ac yn 2016 cyflwynwyd Ysgoloriaeth Burgen iddi gan Academia Europea am y gwaith hwn hefyd.

Ym mis Mai eleni enillodd Rhianedd hefyd Fedal Dillwyn y Celfyddydau Creadigol a'r Dyniaethau gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru am ei gwaith ymchwil ym maes astudiaethau cyfieithu.