Geraint Talfan Davies i drafod Brexit

Geraint Talfan Davies, awdur Unfinished Business: Journal of an Embattled European

Geraint Talfan Davies, awdur Unfinished Business: Journal of an Embattled European

25 Hydref 2018

Cyd-destun a chanlyniadau Brexit fydd ffocws darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Fercher 31 Hydref 2018.

Traddodir Europe: Ruin or Recovery? gan Geraint Talfan Davies, awdur Unfinished Business: Journal of an Embattled Europeana chyd sylfaenydd y Sefydliad dros Faterion Cymreig.

Cynhelir y sgwrs a’r drafodaeth fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol am 5.30pm yn Sinema Canolfan y Celfyddydau.

Dywedodd yr Athro Richard Beardsworth, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad hwn. Beth bynnag fo eich barn am refferendwm Brexit a’r trafodaethau sy’n mynd yn eu blaenau, mae Geraint Talfan Davies yn cynnig ymateb hynod ymroddedig a huawdl i ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i’r Deyrnas Unedig. Bydd yn ddiddorol iawn ei glywed yn siarad am ddyfodol yr Undeb a ffawd y gwladwriaethau sy’n rhan ohoni."

Cyflwynir Geraint Talfan Davies gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Geraint Talfan Davies yw Cadeirydd Cymru i Ewrop ac yn ystod refferendwm yr UE yn 2016, roedd yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Cymru yn Britain Stronger In Europe.

Mae wedi treulio’i oes yn y byd newyddiaduraeth, darlledu a'r celfyddydau. Bu'n Reolwr BBC Cymru yn y 1990au, ac mae'n gyd-sylfaenydd ac yn gyn-gadeirydd y Sefydliad dros Faterion Cymreig. Mae hefyd yn gyn Gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ac mae rhagor o fanylion am ddarlithoedd cyhoeddus a digwyddiadau eraill sy'n cael eu trefnu i nodi ei chanmlwyddiant ar gael ar-lein yma.

Mynediad am ddim trwy docyn. Cadwch eich lle yma.