Ymgais i dorri record rhwyfo a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru

Bleddyn Jones gyda Mr Alan Cole, Nicholas Gregory Myfyriwr PhD, a Dr Rhys Thatcher o WARU

Bleddyn Jones gyda Mr Alan Cole, Nicholas Gregory Myfyriwr PhD, a Dr Rhys Thatcher o WARU

30 Hydref 2018

Mae gwyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu cyngor hyfforddi i dad lleol sydd am drio torri record byd rhwyfo dan do er cof am ei fab pum mlwydd oed.

Mi fydd Bleddyn Jones, a gollodd ei fab, Ned mewn damwain ffordd ym mis Mawrth 2016, yn ceisio torri’r record 24 awr am ei grŵp oedran sydd ar hyn o bryd yn 279.2 cilometr.

Cynhelir y marathon rwyfo yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth ar 7 a 8 Rhagfyr a bydd yr arian gaiff ei godi yn mynd at Ambiwlans Awyr Cymru, a fu’n gofalu am Ned wedi’r ddamwain.

Wrth iddo baratoi am ei her 24 awr, mae Bleddyn wedi bod yn gweithio gyda Dr Rhys Thatcher a’i gydweithwyr yn Uned Ymchwil Lles ac Iechyd (WARU) Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.

Yn ogystal â rhaglen sgrinio cyn ymarfer corff, mae’r tîm wedi darparu cyngor ar ymarfer a maeth, ac maent yn cadw llygad ar gynnydd Bleddyn.


Dywedodd Bleddyn: "Roedd Ned yn fachgen hapus iawn gyda phopeth ac unrhyw beth yn ei wneud yn hapus. Mae ei farwolaeth wedi newid ein bywydau am byth ac erbyn hyn mae bron bob dydd yn frwydr i mi, fy ngwraig a'n teulu ifanc. Fodd bynnag, rydym am gadw’r cof am Ned yn fyw a chofio amdano fel ag yr oedd yn ystod ei fywyd byr.

“Byddaf yn rhwyfo ar ben fy hun am 24 awr ar beiriant rhwyfo dan do i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru sy'n arbed cymaint o fywydau yng Nghymru.”

Mae Bleddyn yn aelod o Glwb Rhwyfo Aberystwyth ac wedi cwblhau’r Celtic Challenge, lle mae timoedd yn rhwyfo o Arklow ar arfordir dwyreiniol Iwerddon i Aberystwyth.

Dywedodd Dr Rhys Thatcher: “Dangosodd ein rhaglen sgrinio cyn ymarfer corff bod Bleddyn eisoes yn ddyn ffit iawn, ond mae'r her hon dros 24 awr yn wahanol i'r hyn y mae wedi'i wneud o'r blaen ac yn gofyn llawer ohono’n gorfforol.

“Mae'r ymgais torri record hon yn gofyn am lefel uwch o ffitrwydd, ac mae'r tîm yma yn WARU wedi llunio cynllun ymarfer pellter hir sydd wedi'i deilwra yn benodol ar gyfer Bleddyn, a'i gynghori ar ba fwyd ddylai fwyta.”

Gartref mae Bleddyn yn ymarfer ar beiriant rhwyfo dan do Concept2, a bydd yn ymweld â WARU dros yr wythnosau nesaf i fonitro ei gynnydd wrth iddo baratoi ar gyfer yr her sy’n ei wynebu.

Cynhelir y digwyddiad rhwyfo noddedig yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth gan ddechrau am 11 fore Sadwrn 7 Rhagfyr a gorffen am 11 fore Sul 8 Rhagfyr ac mae croeso cynnes i bawb.

Bydd pedwar peiriant rhwyfo dan do arall yn y clwb i’r rhai sydd yn dymuno cefnogi Bleddyn ac i godi arian.

Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yw elusen y flwyddyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth am y flwyddyn 2018-19.