Yr Adran Gyfrifiadureg yn derbyn gwobr Athena SWAN

13 Tachwedd 2018

Yr Adran Gyfrifiadureg yw’r adran academaidd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth i dderbyn Gwobr Athena SWAN.

Crëwyd y Siarter Athena Swan gan yr Uned Herio Cydraddoldeb ac mae’n cydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyfraoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o’r siarter ac wedi cyflawni gwobr Efydd Athena SWAN.

Meddai’r Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd: “Cafodd ymrwymiad y Brifysgol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, yn cynnwys cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ei gydnabod pan ddyfarnwyd iddi Wobr Efydd Athena SWAN yn 2014. Mae llwyddiant yr Adran Gyfrifiadureg hithau i ennill Gwobr Efydd yn amlygu ymhellach ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob un o’i harferion a’i gweithgareddau.”

Meddai Christine Zarges, Cadeirydd Tîm Hunanasesu Athena SWAN yr Adran Gyfrifiadureg: “Rydym yn falch iawn mai ni yw’r adran gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth i dderbyn gwobr Efydd Athena SWAN i gydnabod ein hymrwymiad a’n gweithgareddau ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y byd academaidd. Mae pobl yn yr adran wedi bod yn weithgar iawn wrth hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn genedlaethol drwy drefnu’r gynhadledd i israddedigion, BCS Women Lovelace Colloquium, ers 2010.

“Mae proses Athena SWAN wedi ein hannog i ystyried pob agwedd ar amrywiaeth yn lleol ac wedi peri i’r adran gyfan fod yn fwy ymwybodol o’r math o broblemau mae menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth yn eu hwynebu. Rydym wedi ymrwymo’n bendant i gynllun gweithredu pedair blynedd a fydd yn gwneud egwyddorion Athena SWAN yn rhan annatod o ddiwylliant yr adran.”

Cyflwynir y wobr mewn seremoni ym Mhrifysgol Southampton ar 10 Rhagfyr 2018.