Sherpas y Gwynt Solar yn paratoi i gofnodi clip yr Haul

Stephen Fearn, Dr Huw Morgan a Gabriel Muro o Grŵp Ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul ac aelodau o Sherpas y Gwynt Solar

Stephen Fearn, Dr Huw Morgan a Gabriel Muro o Grŵp Ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul ac aelodau o Sherpas y Gwynt Solar

02 Gorffennaf 2019

Mae Sherpas y Gwynt Solar Prifysgol Aberystwyth ym mynyddoedd yr Andes yn yr Ariannin ar hyn o bryd, yn paratoi i gofnodi clip llawn diweddaraf yr Haul.

Bydd y clip, sydd yn 2 funud 30 eiliad o hyd ac yn digwydd tua 9 o’r gloch yr hwyr amser y DU – neu 6 o’r gloch amser lleol - ddydd Mawrth 2 Gorffennaf 2019, yn cael ei gofnodi gan Gabriel Muro a Stephen Fearn o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth.

Gan ddefnyddio offer a ddatblygwyd gan Dr Matt Gunn a Dr Huw Morgan ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddant yn casglu delweddau manwl o gorona'r Haul, y fodrwy olau llachar sydd i’w gweld yn unig pan fydd y Lleuad yn croesi rhwng y Ddaear a’r Haul.

Bydd y data gaiff ei gasglu yn eu galluogi i ganolbwyntio ar dri lliw manwl, sy'n dangos nwy haearn ar dymeredd gwahanol, i weld effeithiau’r maes magnetig ar atmosffer yr Haul.

Byddant hefyd yn cael gwybodaeth fanwl am y patrwm cynhesu a symudiad gronynnau, sy'n llawer mwy na'r hyn y mae telesgopau’r gofod yn gallu ei wneud ar hyn o bryd.

Cyn gadael am yr Andes, dywedodd Gabriel: “Byddwn yn defnyddio offer a ddatblygwyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer sbectrosgopeg cydraniad uchel yn ystod y clip sydd yn cynnig cyfle gwych i astudio atmosffer yr Haul.

“Weithiau mae atmosffer yr Haul yn effeithio’n uniongyrchol ar bobl ar y Ddaear. Yn union fel y mae daeargrynfeydd, tswnamis a thrychinebau naturiol eraill yn digwydd ar y Ddaear, mae'r digwyddiadau mawr hyn hefyd yn digwydd ar wyneb yr Haul ar ffurf Allyriadau Màs Coronol.

“Mae corona'r Haul yn ardal nad ydym yn ei deall yn dda, felly drwy fynd yno a chasglu data newydd ac unigryw, gallwn gael gwell syniad o ble a phryd y mae'r Allyriadau yma’n digwydd, ac o bosibl eu rhagweld.

“Mae'n bwysig ein bod yn gallu eu rhagweld oherwydd pan fyddant yn anfon llawer o ronynnau wedi’u gwefru at y Ddaear, gallant ddifrodi lloerennau a'n grid trydanol a chau ardaloedd o'n planed am ddiwrnod neu fwy, yn dibynnu ar sut yr ydym wedi paratoi.”

Mae'r Sherpas y Gwynt Solar yn rhan o dîm rhyngwladol o ymchwilwyr sy’n cael eu harwain gan Yr Athro Shadia Habbal o Brifysgol Hawaii.

Mae’r gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei arwain gyda Grŵp Ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul.