Ymchwil yn taflu goleuni ar darddiad a thaith y Coronafeirws

Y tîm ymchwil

Y tîm ymchwil

19 Ionawr 2021

Mae ymchwil ar enynnau’r coronafeirws mewn ystlumod a phangolinod wedi datgelu cliwiau pellach am ei darddiad posibl a sut y trosglwyddodd i bobl.

Fel rhan o ddigwyddiad hacathon CoronaHack, defnyddiodd tîm ymchwil o Brifysgol Aberystwyth ac Athrofa Roslin ym Mhrifysgol Caeredin gannoedd o enomau firysau sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn cymharu SARS-CoV-2 - y feirws sy’n achosi’r haint COVID-19 - i’w berthnasau genynnol agosaf yn yr ystlum a’r pangolin.

Mae’r ymchwil yn sail ychwanegol i’r ddamcaniaeth bod fersiwn cynharach o’r feirws ar un adeg yn bresennol mewn ystlumod a phangolinod cyn trosglwyddo i bobl.

Yn ogystal, daw’r ymchwilwyr i’r casgliad nad yw genom cyndad cyffredin diweddaraf y feirws wedi ei ddilyniannu eto. 

Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn MDPI Viruses, hefyd yn adnabod nifer o amrywiolion mewn sawl coronafeirws mewn ystlumod a phangolinod allai gynorthwyo’r gwaith o ddylunio a datblygu brechlynnau.

Defnyddiodd Nicholas Dimonaco, myfyriwr doethuriaeth yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, dechneg gyfrifiadurol hybrid newydd o anodi genomau er mwyn dod i’r casgliadau.

Dywedodd: “Mae’r gwaith hwn wedi dangos bod mathau o goronafirysau a welir mewn pangolinod ac ystlumod yn debycach yn enynnol i’r feirws SARS-CoV-2 mewn pobl na firysau eraill o’r un organebau lletyol.  Rydym wedi cymharu’r genomau firaol hyn ac wedi adnabod ardaloedd mwtaniadol, rhai oedd yn hysbys yn barod a rhai newydd, ar draws genynnau'r tri grŵp lletyol a’u heffaith ar eu swyddogaeth.”

Yn fyd-eang, dim ond saith genom coronafeirws mewn pangolinod sydd wedi eu dilyniannu.

Dywed Mr Dimonaco o Brifysgol Aberystwyth, prif awdur y papur ymchwil, fod y canfyddiadau yn tanlinellu’r angen am ragor o ymchwil:

“Mae’r astudiaeth hon yn pwysleisio’r diffyg genomau sydd ar gael ar hyn o bryd o’r anifeiliaid hynny yr ydym amau o letya coronafirysau, megis pangolinod neu ystlumod. Felly, mae angen rhagor o ynysu a dilyniannu'r anifeiliaid sy’n lletya’r feirws. Gallai hyn bontio’r bwlch gwybodaeth am y firysau hyn sy’n gallu cael eu trosglwyddo o rywogaethau sy’n eu lletya o dan yr amgylchiadau cywir.”

Ychwanegodd Dr Barbara Shih, gwyddonydd craidd o Athrofa Roslin ym Mhrifysgol Caeredin ac uwch awdur y papur:

“Wedi i ni archwilio holl enomau’r coronafeirws mewn ystlumod a phangolinod oedd ar gael yn gyhoeddus, fe nodon ni fod llond llaw o goronafirysau ystlumod a phob un o’r saith coronafeirws mewn pangolinod yn debyg iawn i SARS-CoV-2. Yn ddelfrydol, rydyn ni eisiau sbectrwm o firysau sy’n cynnwys yr ystod o ‘rywfaint yn debyg i’ i ‘bron yn union fel’ SARS-CoV-2 er mwyn olrhain ei darddiad yn fwy cywir.”