Partneriaeth newydd i helpu ffermwyr gyrraedd sero-net

Yr Athro Iain Donnison

Yr Athro Iain Donnison

08 Chwefror 2021

Heddiw cyhoeddodd Germinal a Phrifysgol Aberystwyth bartneriaeth ymchwil tymor hir newydd a fydd yn hyrwyddo ffermio cynaliadwy.

Yn sgil y bartneriaeth newydd, sy'n adeiladu ar bron i 35 mlynedd o gydweithio rhwng y ddau sefydliad, bydd Germinal yn cyflogi ac yn cyfarwyddo tîm o ymchwilwyr craidd yn y sefydliad i edrych ar borthiant a glaswelltir, yn ogystal ag ariannu swydd Athro mewn Ymchwil Glaswelltir Arloesol.

Bydd y tîm yn adeiladu ar gyflawniadau Gweiriau Uchel eu Siwgr Aber, sy’n lleihau allyriadau o ffermydd da byw ac wedi ennill sawl gwobr.  Byddant hefyd yn ceisio gwneud datblygiadau newydd o ran cynnwys lipid gweiriau, effeithlonrwydd y defnydd o faetholion a chnydau protein newydd cyffrous er mwyn cyrraedd sefyllfa lle mae’r broses o gynhyrchu da byw cnoi cil cynhyrchiol yn un garbon niwtral.

Bydd Germinal ac Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn sefydlu ac yn arwain grŵp Sero-Net o Laswelltir Cynhyrchiol ar ran y diwydiant. Yn sgil y grŵp, bydd sefydliadau academaidd blaengar, ffermwyr, cynghorwyr a'r llywodraeth yn cydweithio er mwyn sicrhau dyfodol mwy gwyrdd a mwy cadarn i amaethyddiaeth da byw cnoi cil.

Meddai William Gilbert, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp, Germinal, ynghylch y datblygiad:

"Rydym ni'n gwybod bod ffermwyr da byw ar flaen y gad wrth ymateb i'r her o ddarparu digon o fwyd o ansawdd uchel ac, ar yr un pryd, yn chwarae eu rhan er mwyn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Rydym yn deall bod brys i ymateb i fygythiad newid hinsawdd, a'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar gynhyrchwyr llaeth, eidion a defaid. 

 

"Fel arbenigwyr ar hadau porthiant, mae Germinal wedi ymrwymo i arwain y ffordd, i ddatblygu amrywiaeth o borthiant a defnyddio gwybodaeth i’r eithaf er mwyn helpu'r ffermwyr hyn i ddod yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol, i fwydo poblogaeth sy'n cynyddu ac, ar yr un pryd, i gyrraedd y targedau uchelgeisiol sero-net a osodwyd i'r diwydiant. Drwy'r bartneriaeth newydd hon, mae gweledigaeth Germinal o osod ymchwilwyr o fewn busnesau amaethyddol er mwyn helpu i hwyluso arloesedd yn cael ei chyflawni. Mae'r datblygiad hwn yn enghraifft ar gyfer cydweithrediad rhwng cyrff cyhoeddus a phreifat a bydd yn gymorth i ni gyflwyno datblygiadau arloesol a fydd o fudd uniongyrchol i ffermwyr unigol ac i'r gymdeithas ehangach."

Meddai'r Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae'n bleser gennym ni gadarnhau'r berthynas newydd, gryfach hon gyda Germinal. Mae ein partneriaeth newydd yn datblygu ar hanes o lwyddiant wrth gydweithio, a bydd yn arwain at fwy byth o integreiddio.  Mae'n cyfuno'r adnoddau a'r arbenigedd sydd yma yn Aberystwyth gyda mynediad Germinal i'r farchnad fasnachol a'u gwybodaeth. Mae hyn yn golygu y gallwn gyflymu ymchwil a fydd yn helpu i gyrraedd targed y Llywodraeth o sero-net erbyn 2050 ac, ar yr un pryd, ddal gafael ar ddiwydiant bwyd a ffermio sy'n ffynnu.”