Ffilm fer wedi’i dewis i fod yn rhan o ŵyl ffilmiau fawr ei bri

11 Chwefror 2021

Mae ffilm fer a grëwyd gan Amy Daniel, gwneuthurwr ffilmiau a Darlithydd Cysylltiol ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi’i dewis i fod yn rhan o ŵyl ffilmiau fawr ei bri yng Ngogledd America y mis nesaf.  

Mae’r ffilmThe Legend of Bryngolau wedi’i dewis i fod yn rhan o 59fed Gŵyl Ffilmiau Ann Arbor (yr AAFF) a gynhelir rhwng y 23ain a’r 28ain o Fawrth, 2021.

Mae Amy yn darlithio yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ac yn awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd-gyfarwyddwr sy’n saethu ei deunydd ei hun.

Bydd ei gwaith yn awr yn cael ei hychwanegu at restr uchel ei chlod o wneuthurwyr ffilmiau sydd wedi dangos eu gwaith yn yr AAFF; yn eu plith mae Kenneth Anger, Brian De Palma, Agnes Varda, Andy Warhol, Gus Van Sant, Barbara Hammer a George Lucas. Yr ŵyl yw’r dathliad hynaf a mwyaf hirhoedlog o gelfyddyd delweddau byw avant-garde ac arbrofol yng Ngogledd America ac yn un lle gall ffilmiau gymhwyso ar gyfer gwobrau Oscar®. 

Meddai Amy: "Mae’n deimlad gwych bod Legend wedi’i dewis i fod yn rhan o ŵyl mor fawr ac edrychaf ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiad ar-lein. Gwnaed ein ffilm drwy ddefnyddio cymysgedd o bobl broffesiynol a myfyrwyr sy’n rhan o’r cwrs gradd BA Cynhyrchu Ffilmiau. Gobeithiaf y bydd hyn yn ysbrydoli ein myfyrwyr i barhau i greu eu ffilmiau byrion eu hunain yn y dyfodol."

Mae ffilmiau byrion Amy wedi’u dangos mewn gwyliau uchel eu parch yn y Deyrnas Gyfunol lle gall ffilmiau gymhwyso ar gyfer gwobrau BAFTA, yn ogystal â mewn ffilmiau rhyngwladol yn Ffrainc, Tsieina, Awstralia ac yn yr Unol Daleithiau.

Mae ei gwaith wedi’i ddarlledu ar y BBC, Sky, ITV ac ar sianeli rhyngwladol, megis ARTE (Ffrainc / yr Almaen) a Globo (Brasil).