Is-Ganghellor Aberystwyth yn talu teyrnged i’r gymuned gyfan am ei hymdrechion i reoli COVID-19

23 Mawrth 2021

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi talu teyrnged i sefydliadau a gweithwyr lleol am eu hymdrechion i reoli nifer yr achosion o COVID yn yr ardal.

Wrth nodi pen-blwydd y cyfnod clo cyntaf, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure fod gweithredoedd sefydliadau megis Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi achub bywydau ac mae wedi diolch o waelod calon iddynt am eu gwaith.

Dywedodd yr Athro Treasure: “Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle hwn i fynegi fy niolchgarwch i’r partneriaid lleol hynny sydd wedi gweithio mor galed i frwydro yn erbyn trosglwyddiad COVID-19 yn lleol. Mae eu hymdrechion wedi achub bywydau dros y misoedd diwethaf, ac yn ddiau, mi fydd angen i ni barhau i'w cefnogi dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.”

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu i fyfyriwr ddychwelyd i gampysau prifysgol ar ôl gwyliau'r Pasg, diolchodd yr Athro Treasure i'r gymuned ehangach am ei chefnogaeth yn ystod y flwyddyn anodd a fu ers dechrau'r pandemig.

Ychwanegodd yr Athro Treasure: “Rwy’n falch iawn bod y Llywodraeth wedi penderfynu y gall myfyrwyr ddychwelyd ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb ar ôl gwyliau’r Pasg. Rwyf wedi derbyn llawer iawn o adborth cadarnhaol am y modd cyfrifol y mae ein myfyrwyr wedi ymddwyn yn ystod y misoedd diwethaf gan rannau eraill o'n cymuned.

“Rydyn ni i gyd yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth ac yn ein ffyrdd ein hunain at yr ymdrechion hynny i achub bywydau.

“Rydym yn ffodus ein bod yn byw mewn cymuned sy'n gynhwysol a chroesawgar, ac rwyf yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth eang i'n holl waith.”

Ddydd Llun 15 Mawrth 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod myfyrwyr yn medru dychwelyd i brifysgolion wedi’r Pasg, a hynny ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ryddhau mwy o fanylion ymarferol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ers dechrau’r pandemig mae Prifysgol Aberystwyth wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru wrth iddi gynllunio ar gyfer dychweliad y myfyrwyr i Aberystwyth ac i gampws sydd yn ddiogel o ran COVID.

Yn ogystal â chyfraniadau sylweddol o offer diogelwch personol (PPE) i weithwyr iechyd, ers dechrau’r pandemig darparodd y Brifysgol safleoedd ar gyfer cyfleusterau profi cyhoeddus a chanolfan frechu dorfol yn Aberystwyth ar gyfer COVID-19.