Dyfarnu cyllid ar gyfer llythrennau T-Z i brosiect y Geiriadur Eingl-Normaneg ar-lein

Y tîm fu’n gweithio ar blatfform digidol newydd y Geiriadur Eingl-Normaneg. Chwith i’r dde: Dr Delphine Demelas (Cynorthwyydd Golygyddol Ôl-Ddoethurol), Dr Heather Pagan (Cyd-Ymchwilydd a Golygydd) a Dr Geert De Wilde (Prif Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd Prosiect). Ddim yn y llun: Brian Aitken (Prifysgol Glasgow, Datblygydd Systemau).

Y tîm fu’n gweithio ar blatfform digidol newydd y Geiriadur Eingl-Normaneg. Chwith i’r dde: Dr Delphine Demelas (Cynorthwyydd Golygyddol Ôl-Ddoethurol), Dr Heather Pagan (Cyd-Ymchwilydd a Golygydd) a Dr Geert De Wilde (Prif Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd Prosiect). Ddim yn y llun: Brian Aitken (Prifysgol Glasgow, Datblygydd Systemau).

11 Mai 2021

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael cyllid i gwblhau rhan olaf eu gwaith yn diwygio’r Geiriadur Eingl-Normaneg ar-lein.  

Ffurf ar Ffrangeg ganoloesol a gyflwynwyd i Ynysoedd Prydain yn sgil y Goncwest Normanaidd yn 1066 yw Eingl-Normaneg, a hi oedd iaith llenyddiaeth, y gyfraith, masnach, addysg a gweinyddiaeth trwy gydol yr Oesoedd Canol.

Hi hefyd yw tarddiad llu o eiriau Saesneg a ddefnyddir bob dydd, megis “squeamish”, “unicorn”, “actually” a “nice”. Yn wir, gellir olrhain hyd at hanner y geiriau a ddefnyddir mewn Saesneg modern i’r Eingl-Normaneg.  

Cyhoeddwyd y Geiriadur Eingl-Normaneg (yr Anglo-Norman Dictionary) yn wreiddiol mewn cyfres o gyfrolau rhwng 1977 ac 1992.

Ers bron i dri degawd, mae aelodau tîm y Geiriadur Eingl-Normaneg yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cynnal rhaglen ddiwygio drwyadl er mwyn paratoi fersiwn ar-lein o’r geiriadur sydd wedi’i ehangu a’i gyfoethogi’n helaeth, ac i sicrhau ei fod ar gael am ddim ar-lein: https://anglo-norman.net. Mae’r Geiriadur Eingl-Normaneg ar-lein yn cael ei gydnabod fel y cofnod awdurdodol a mwyaf cynhwysfawr o eirfa Eingl-Normanaidd, ac mae ei ganfyddiadau’n cael eu defnyddio gan yr Oxford English Dictionary a’r prif eiriaduron Lladin a Ffrangeg canoloesol.

A hwythau wedi llwyddo i gwblhau’r gwaith o ddiwygio’r cofnodion ar gyfer llythrennau A-S, mae prosiect y Geiriadur Eingl-Normaneg bellach wedi cael nawdd o £811,175 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) i ddiwygio’r llythrennau T-Z ar-lein.

Bydd y grant yn parhau am gyfnod o 3.5 mlynedd (Hydref 2021 – Mawrth 2025) a daw yn sgil dyfarniadau tebyg gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn 2003, 2007, 2012 a 2017.

Fel y mae Dr Geert De Wilde, Prif Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd y Prosiect, yn egluro: “Ers dros ddeugain mlynedd, mae’r Geiriadur Eingl-Normaneg wedi bod yn hyrwyddo ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o hanes a datblygiad Saesneg fel iaith. Mae’r Geiriadur Eingl-Normaneg ar-lein wedi datblygu i fod yn arf anhepgor (sydd ar gael am ddim), nid dim ond i gynulleidfa eang o arbenigwyr academaidd megis ieithyddion, geiriadurwyr, haneswyr ac ysgolheigion llenyddol, ond hefyd i lif parhaus o ddefnyddwyr anarbenigol, megis athrawon, disgyblion, a haneswyr a chasglwyr achau amatur sydd eisiau gwybod mwy am yr agwedd holl bwysig hon ar eu hetifeddiaeth.

“Mae’r broses ddiwygio gynhwysfawr yn golygu bod pob cofnod unigol yn y geiriadur yn cael ei ailymchwilio a’i wella o safbwynt manylder semantig a chwmpas testunol, gan ychwanegu cofnodion ar gyfer y llu o eiriau sydd wedi cael eu canfod yn y cyfamser, a manylu ynghylch datblygiad cronolegol y geiriau dros amser. Dyma benllanw ar waith ymchwil fu’n mynd rhagddo ers bron i dri degawd, ac wedi inni gwblhau’r llythrennau olaf o T i Z bydd y Geiriadur Eingl-Normaneg diwygiedig sawl gwaith yn hwy na’r argraffiad cyntaf, a bydd yn cynnwys ystod eang o ddewisiadau chwilio (yn ôl gair, sillafiad amrywiol, cyfieithiad Saesneg ac ati) er mwyn cael gafael ar y cofnodion ac i fod yn sail i brosiectau ymchwil pellach o bosibl.”

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y prosiect a digwyddiadau a darganfyddiadau yn ymwneud ag Eingl-Normaneg a’r Oesoedd Canol, ewch i:  

Facebook: www.facebook.com/ANDonline
Twitter: https://twitter.com/ANDictionary
Blog: https://anglo-norman.net/blog