Gwir liwiau gwleidyddiaeth cydraddoldeb hiliol yng Nghymru

Charlotte Williams

Charlotte Williams

03 Mehefin 2021

Cydraddoldeb hiliol yng Nghymru fydd y pwnc dan sylw yn Narlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 2021 a gynhelir ar Zoom nos Fawrth 8 Mehefin 2021.

Bydd y ddarlith, 'Showing true colours: the changing politics of race equality in Wales', yn cael ei thraddodi gan yr Athro Charlotte Williams OBE, Cadeirydd Gweithgor Llywodraeth Cymru ar ‘Gymunedau, Cyfraniadau a Chynefin: Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd’.

Dywedodd yr Athro Michael Woods, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru; “Rydyn ni wrth ein bodd bod yr Athro Charlotte Williams wedi cytuno i draddodi Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru eleni. Mae llofruddiaeth George Floyd flwyddyn yn ôl, mudiad Black Lives Matter a’r dadleuon ynghylch etifeddiaeth caethwasiaeth wedi codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnder hiliol ar draws y byd. Nid yw Cymru yn eithriad a bydd darlith Charlotte yn gyfraniad pwysig ar sut y gallwn adeiladu cymdeithas fwy cyfiawn o ran hiliaeth.”

Mae nifer o ddigwyddiadau diweddar wedi ysbarduno sylw manylach ar anghyfartaledd hil yng Nghymru, gan ysgogi ymateb eang ac ysgubol gan lywodraeth Cymru ac yn atseinio’n glir drwy sefydliadau cyhoeddus.

Ar sawl ystyr, mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gydraddoldeb hil yn cyd-fynd â’r datganiadau ehangach bod Cymru yn torri ei chwys ei hun wrth lunio polisi, a’r thema sy’n gyfarwydd erbyn hyn bod gwleidyddiaeth yn pegynnu.

Ond, fel y bydd Charlotte Williams yn ei ddadlau, mae’r sefyllfa bresennol yn golygu llawer mwy i’r genedl. 

Mae’r ddarlith yn ystyried rhai o’r prif droeon a newidiadau ym maes cydraddoldeb hil yn ystod yr 20 mlynedd ers datganoli, gan edrych yn ôl ar honiadau hanesyddol o oddefgarwch, cydwladoldeb a chynhwysiant yn rhan o ymdeimlad cenedlaethol ac edrych ymlaen at ystyried pa mor gryf fyddai rhyw symud penodol oddi ar wleidyddiaeth hil ehangach y Deyrnas Gyfunol.

Mae llywio tuag at ddyfodol ôl-Frecsit, ôl-etholiad, ôl-Gofid o’r safbwynt hwn yn ddigon heriol, yn codi cwestiynau am gynnal yr ewyllys gwleidyddol, sicrhau adnoddau, ymddiriedaeth, hyder y cyhoedd a gallu proffesiynol. 

Bydd Charlotte Williams yn ceisio pwyso a mesur y sefyllfa sydd ohoni, gan dynnu’r sylw at agweddau unigryw cyd-destun Cymru yn ogystal â chodi pwyntiau ehangach ar gyfer cymharu polisïau ac arferion cydraddoldebau.

Mae tocynnau ar gyfer y ddarlith ar gael ar wefan Tocyn Cymru.

Cynhelir y ddarlith ar Zoom ac mae'n dechrau am 7yh.

Trefnir y digwyddiad hwn gan y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Gymreig (CWPS-WISERD) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, gyda’r nod o ddatblygu’r dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru yng nghyd-destun byd cydgysylltiedig, gan gefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a dadleuon a datblygiad polisi yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan yn adeiladu ar enw da Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o’r Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau cysylltiedig sy’n ymddiddori yng Nghymru.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru hefyd yn gweithredu fel cangen Aberystwyth o WISERD, gan ddarparu cysylltiadau รข gwyddonwyr cymdeithasol ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe.