Darlithydd Prifysgol Aberystwyth yn ennill gwobr am ei chyfraniad eithriadol i addysg Gymraeg

Dr Lowri Cunnington Wynn

Dr Lowri Cunnington Wynn

06 Hydref 2021

Mae darlithydd Prifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr am ei chyfraniad eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Dyfarnwyd gwobr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Dr Lowri Cunnington Wynn, Darlithydd Troseddeg am weithio’n ddiflino i ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn Adran y Gyfraith a Throseddeg.

 

Derbyniodd glod yn ogystal am ddenu myfyrwyr i astudio’r pwnc drwy’r Gymraeg, annog myfyrwyr presennol i ddewis modiwlau cyfrwng Cymraeg a gwella’r adnoddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.

 

Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd Dr Lowri Cunnington Wynn o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae wir yn anrhydedd i dderbyn y wobr hon. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb yn Adran y Gyfraith a’r Brifysgol yn ehangach yma yn Aberystwyth am yr ymrwymiad i brofiad addysgol dwyieithog.”

 

Dywedodd Yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchiadau lu i Dr Cunnington Wynn. Mae Gwobrau Blynyddol y Coleg yn cael eu cyflwyno i rai o’r darlithwyr Cymraeg disgleiriaf a mwyaf ymroddedig sy’n dysgu drwy’r Gymraeg. Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth deilwng o’i chyfraniad eithriadol i addysg uwch tu hwnt i'w rôl broffesiynol.”

 

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews:

“Mae’n addas iawn ein bod yn cychwyn blwyddyn o ddathliadau i nodi deng-mlwyddiant y Coleg drwy wobrwyo rhai o’n dysgwyr a’n myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf, a’n darlithwyr cyfrwng Cymraeg mwyaf ymroddedig. Myfyrwyr, dysgwyr a darlithwyr sydd wrth galon llwyddiant y Coleg dros y degawd ac rydym yn ymfalchïo yn eu llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf.”