Darlith gyhoeddus i ystyried cysgod y goncwest imperialaidd ar wleidyddiaeth ryngwladol

Yr Athro Jennifer Pitts

Yr Athro Jennifer Pitts

03 Tachwedd 2021

Bydd y ddarlith gyhoeddus nesaf a drefnir gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystyried sut y mae cam-elwa a hierarchaethau hiliol wedi’u hymgorffori yn y drefn ryngwladol a gwleidyddiaeth ddemocrataidd.

Bydd yr Athro Jennifer Pitts o Brifysgol Chicago, sy’n arbenigo ar feddylfryd gwleidyddol a rhyngwladol modern, yn traddodi ei darlith gyhoeddus, ‘Democracy’s World Shadow’, ar-lein nos Iau, 11 Tachwedd am 7.15pm.

Yn ôl Dr Patrick Finney, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth: “Mae’r byd yn ymgodymu ag amrywiol agweddau treftadaeth ymerodraethau a’r oblygiadau sy’n deillio ohonynt i ymddygiad gwleidyddiaeth ryngwladol heddiw ac yn y dyfodol, sy’n dal i fod wedi’u ffurfio’n drwyadl gan y ‘cysgod byd’ y bydd disgrifiad yr Athro Pitts o drefn ryngwladol a democratiaeth yn ei ddadansoddi. Mae cydnabod y dreftadaeth wleidyddol a deallusol hon yn rhywbeth sydd angen ei wneud ar frys.

“Bydd y ddarlith bwysig ac amserol hon yn rhoi cipolwg hanfodol i holl fyfyrwyr ac ymchwilwyr gwleidyddiaeth ryngwladol; bydd hefyd yn taflu goleuni newydd ar drafodaethau cyhoeddus cyfoes am barhad ymerodraeth.”*

Cynhelir darlith yr Athro Jennifer Pitts ‘Democracy’s World Shadow’ ar-lein am 7.15pm nos Iau 11 Tachwedd. Mae’r ddarlith yn agored i unrhyw un o’r cyhoedd, myfyrwyr a staff sydd â diddordeb. I gofrestru am y ddarlith ewch i: https://event.webinarjam.com/channel/democracyworldshadow

Mae Jennifer Pitts yn Athro Gwyddor Wleidyddol a’r Pwyllgor ar Feddylfryd Gymdeithasol ym Mhrifysgol Chicago, ac yn awdur a golygydd ar gyfres o lyfrau pwysig, megis A Turn to Empire: the rise of imperial liberalism in Britain and France (Princeton 2005) a The Law of Nations in Global History (Rhydychen 2017). Cyhoeddwyd ei llyfr diweddaraf, Boundaries of the International: Law and Empire, gan Wasg Prifysgol Harvard yn 2018 ac mae'n ymdrin â’r ffordd mae cyfraith ryngwladol wedi'i strwythuro gan gysylltiadau ymerodraethol.

Crynodeb o’r cyflwyniad

Mae'r weledigaeth o'r drefn ryngwladol fel cymuned o genedl-wladwriaethau cyfartal yn cael ei hamgylchynu gan broblemau sy'n deillio o'i hymwneud hirsefydlog â, a’r gwadiad o’r, drefn fyd-eang imperialaidd. Mae'r cyfrif hwn, sy'n rhannol ddisgrifiadol ac yn rhannol ddyheadol, wedi cuddio neu ystumio nodweddion allweddol gwleidyddiaeth fyd-eang ers iddi gael ei llunio gyntaf. Ar adeg dwyfoliad y weledigaeth hon, y "foment Wilsonaidd," datblygodd W.E.B. Du Bois ei gyfrif gwrthgyferbyniol o’r drefn fyd-eang fel system o hierarchaeth hiliol a cham-elwa neu ecsbloetiaeth, un lle'r oedd deinameg wleidyddol ar y lefel ddomestig a rhyngwladol yn annatod. Roedd Du Bois yn deall y byd modern fel un wedi’i strwythuro gan gyfalafiaeth hiliol â’i gwreiddiau mewn caethwasiaeth a masnach imperialaidd a oedd wedi meithrin ffurf ddemocrataidd nodedig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Datgelodd ddimensiynau niferus y "cysgod byd-eang" a fwriwyd gan ddemocratiaeth imperialaidd: mathau amryffurf o ecsbloetio tir a llafur, rhyfel byd, cyfranogaeth mudiadau dominyddol a oedd yn ymddangos yn rhyddfreiniol. Erys Du Bois ymhlith ein cyfeiryddion mwyaf hyddysg i beryglon epistemig adroddiadau safonol o’r drefn ryngwladol ac i ddamcaniaethu cyfiawnder byd-eang a dyfodol democrataidd o bresennol byd-eang sy'n parhau i gael ei lunio gan ymerodraeth.