Lansio arolwg troseddau gwledig cyntaf Cymru gyfan a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth

Wyn Morris (Chwith) o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig.

Wyn Morris (Chwith) o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig.

02 Rhagfyr 2021

Lansiwyd asesiad cenedlaethol cyntaf Cymru o natur troseddau gwledig, a maint y broblem honno, gan Brifysgol Aberystwyth. Hon yw’r enghraifft ddiweddaraf o waith sydd eisoes wedi arwain at newid yn y modd y mae heddlu Dyfed-Powys yn cael ei blismona.

Mae arolwg 'Astudiaeth Troseddau Gwledig Cymru', a lansiwyd gan Ysgol Fusnes Aberystwyth a'r Adran Seicoleg, yn agored i ffermwyr a thrigolion gwledig a wasanaethir gan bedwar gwasanaeth heddlu Cymru, sef Dyfed-Powys, De Cymru, Gogledd Cymru a Gwent.

Gofynnir i ffermwyr am eu barn am bynciau fel plismona gwledig drwy Gymru, p'un a ydynt wedi dioddef trosedd, pa mor fodlon yr oeddent ag ymateb yr heddlu, ac a yw Brexit neu COVID-19 wedi effeithio ar eu canfyddiad o droseddau gwledig.

Gofynnir cwestiynau amrywiol i drigolion, e.e. pa fathau o droseddau gwledig sydd, yn eu barn nhw, ar gynnydd, megis tipio anghyfreithlon, troseddau bywyd gwyllt neu yrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd. Gofynnir hefyd a yw mentrau plismona, megis swyddogion troseddau gwledig penodedig, yn ogystal â mwy o bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gweithio.

Yr arolwg diweddaraf yw'r drydedd mewn cyfres sy'n cael ei rhedeg gan y Brifysgol, ond hwn yw’r cyntaf sydd wedi'i gyflwyno drwy’r wlad.

Arweiniodd y ddau ddarn blaenorol o waith ymchwil at newidiadau yn y ffordd y mae ardaloedd gwledig o'r wlad yn cael eu plismona, a defnyddir yr argymhellion yn sail i  Strategaeth Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys 2017-2021. Ymhlith yr argymhellion hyn yr oedd cyflwyno swyddogion heddlu arbenigol, cofnodi troseddau fferm a gwledig yn fwy cywir, a gweithredu strategaethau cyfryngau cymdeithasol penodol.

Meddai Dr Wyn Morris o Ysgol Fusnes Aberystwyth: "Mae mynd i'r afael â throseddau gwledig yn gofyn am ddull gwahanol o ddelio â mathau eraill o droseddu ac mae'n bwysig bod heddluoedd yn gweithredu strategaethau pwrpasol er mwyn delio â’r broblem. Mae hefyd yn hollbwysig rhoi sylw i’r effeithiau annisgwyl y gallai Brexit a COVID-19 fod wedi'u cael mewn cymunedau gwledig. Drwy ehangu ffocws yr arolwg i weddill Cymru, rydym yn gobeithio efelychu llwyddiant gwaith blaenorol."

Ychwanegodd Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg: "Mae'n ymddangos bod troseddau gwledig bob amser ar gynnydd; mae'r 18 mis diwethaf wedi arwain at bryderon newydd o ran troseddu sy'n deillio o faterion fel Brexit, COVID-19, diogelwch bwyd a mwy o dwristiaeth ddomestig. Am y tro cyntaf, bydd yr Arolwg Diweddaraf o Droseddau Gwledig yn dod â’r pedwar heddlu yng Nghymru ynghyd, a bydd yn sicrhau sylfaen dystiolaeth fel bo’ modd datblygu ymatebion priodol."

Meddai Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru: "Er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau, mae angen i chi wybod beth yw'r union broblemau hynny. Rydym ni yn yr heddlu yn gwybod am ffermwyr sydd, yn anffodus, yn dioddef troseddau. Serch hynny, prin yw'r wybodaeth sydd gennym am y rhai nad ydynt efallai wedi'u targedu'n bersonol ond sy'n teimlo bod troseddu yn cael effaith ar eu cymunedau. Mae cael sylwadau pobl yn hanfodol o ran yr hyn sy'n digwydd yn ein hardaloedd gwledig a sut rydym ni yn yr heddlu yn mynd i'r afael â'r materion hynny.

"Bydd yr arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth allweddol i ni y gallwn ei defnyddio drwy Gymru i fynd i'r afael â'r materion hyn. Fy ngwaith i yw gwybod beth sy'n cael ei adrodd yn ôl i ni ac yna rhoi’r strategaethau angenrheidiol ar waith i fynd i'r afael â'r problemau hynny."

Gellir cwblhau’r arolwg yn Saesneg yma ac yn Gymraeg yma.

Bydd Rhwydwaith Twf, Cydnerthedd ac Arloesi Gwledig Prifysgol Aberystwyth yn cynnal gweminar ynglŷn â throseddau gwledig ar 9 Rhagfyr. Cofrestrwch yma yn Saesneg neu yma yn Gymraeg.