Adran gyntaf y gyfraith yng Nghymru yn dathlu 120 o flynyddoedd yn yr Hen Feili

O’r chwith i’r dde: Lauren Marks, Llywydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr PA; Ben Lake, AS Ceredigion; Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd, Dirprwy Ganghellor PA; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor PA; Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lloyd Jones; Meri Huws, aelod o Gyngor PA; Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Canghellor PA, Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg PA; Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor PA; a'r Athro Anwen Jones Dirprwy Is-Ganghellor PA

O’r chwith i’r dde: Lauren Marks, Llywydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr PA; Ben Lake, AS Ceredigion; Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd, Dirprwy Ganghellor PA; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor PA; Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lloyd Jones; Meri Huws, aelod o Gyngor PA; Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Canghellor PA, Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg PA; Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor PA; a'r Athro Anwen Jones Dirprwy Is-Ganghellor PA

19 Mai 2022

Mae adran hynaf y gyfraith o blith prifysgolion Cymru wedi nodi ei phen blwydd yn 120 gyda digwyddiad i ddathlu ym mhrif lys troseddol Llundain.

Bu’r Gyfraith yn cael ei dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth er 1901, ac yn ystod y 120 o flynyddoedd a fu mae dros 9,000 o fyfyrwyr o bron i gant o wledydd wedi graddio a chychwyn ar eu gyrfaoedd, diolch i’r adran hon. 

Roedd Llys Troseddol Canolog Cymru a Lloegr yn lleoliad o fri ar gyfer y cyntaf o ddau ddigwyddiad nodedig a gynhelir i nodi pen blwydd yr adran – yr un sydd wedi bodoli hwyaf yng Nghymru o ran y gyfraith - yn 120.

Ymhlith cyn-fyfyrwyr yr adran mae nifer o Weinidogion Gwladol, gwleidyddion ac arweinwyr, llawer ohonynt wedi mynd yn eu blaenau i ddatblygu gyrfaoedd nodedig ym myd y gyfraith, ac eraill sydd wedi rhagori mewn proffesiynau gwahanol.

Roedd cyn-fyfyrwyr, staff, myfyrwyr a gwesteion arbennig eraill, gan gynnwys AS Ceredigion Ben Lake, yn bresennol yn y digwyddiad dathlu a gynhaliwyd yn yr 'Hen Feili' yn Llundain. Y Siaradwr Gwadd oedd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd David Lloyd-Jones FLSW, sy’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd y pen blwydd arbennig yn cael ei ddathlu mewn ail ddigwyddiad a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd nos Wener 10 Mehefin. Gall cyn-fyfyrwyr sy'n dymuno mynd, gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Brifysgol: www.aber.ac.uk/cy/development/newsandevents/ciniawau-penblwydd-y-gyfraith.

Yn ôl Canghellor Prifysgol Aberystwyth, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd: "Mae hanes dysgu'r gyfraith yn Aberystwyth yn stori i’n hysbrydoli - hanes penderfyniad a dycnwch nifer fechan o unigolion di-ildio a osododd y sylfeini ar gyfer yr adran uchel ei pharch sydd gennym heddiw. Pan ddaeth hi’n amlwg yn 1899 fod cefnogaeth helaeth i'r uchelgais i sefydlu adran y gyfraith yng Nghymru er mwyn darparu addysg eang mewn egwyddorion cyfreithiol, codwyd arian yn sgil haelioni aelodau cylchdaith y Bar yng ngogledd a de Cymru, ac ymhlith Cymry Llundain, gyda llawer o gwmnïau o gyfreithwyr ac unigolion yn cyfrannu ac yn addo cymorth blynyddol rheolaidd."

Yn ôl yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth: "Ers gosod y sylfaen yn y dyddiau cynnar hynny ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, mae’r gwaith o ddysgu'r gyfraith yn Aberystwyth wedi ffynnu.  Heddiw, yn ogystal â’r dysgu rhagorol sydd wedi bod yn nodwedd ar ffordd Aberystwyth o weithredu ers y cychwyn, mae'r adran yn cynnig llu o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol a chael profiad o’r gyfraith ar waith.  Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i wneud gwaith achos yn ein Clinig Cyfraith Teulu; datblygu ac ymarfer sgiliau eiriolaeth drwy gyfrwng ein Cymdeithas Ymryson; gwirfoddoli gyda phrosiectau ymchwil arloesol fel Dewis/Choice a Phrosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr; ac elwa o'n modiwlau newydd Cyfraith ar Waith sydd wedi'u cynllunio i ddechrau llenwi'r bwlch rhwng y wybodaeth greiddiol draddodiadol a ddysgir wrth astudio am radd yn y gyfraith a rhoi hynny ar waith yn ymarferol."

Yn ôl Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Mae'r traddodiad hir o gyfrannu haelionus ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau hyd heddiw a chafodd hyn hefyd ei ddathlu a'i hyrwyddo yn y cinio.  Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cychwyn ar ein hymgyrch haelionus fwyaf erioed er mwyn trawsnewid yr Hen Goleg eiconig yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys i Gymru i nodi pen blwydd y Brifysgol yn 150.

"Mae rhan o'n cynlluniau ar gyfer yr Hen Goleg yn cynnwys Ystafell y Gyfraith a Ffug Lys i anrhydeddu a dathlu'r cyfraniad toreithiog y mae adran y Gyfraith wedi'i wneud i'r Brifysgol drwy ddarparu llwyfan ar gyfer ymwneud â'r cyhoedd a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o'r gyfraith. Bydd yr adnodd yn darparu lleoliad a chanolfan adnoddau bwrpasol ar gyfer ffug lysoedd, Cymdeithas y Gyfraith, dadleuon, seminarau, arddangosfeydd, darlithoedd cyhoeddus a chynulliadau cyn-fyfyrwyr.  Bydd cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr sy’n astudio yma ar hyn o bryd a myfyrwyr y dyfodol yn elwa yn sgil yr adnodd rhagorol hwn. Rydym yn ddiolchgar i'r cyn-fyfyrwyr a'r cyfeillion hynny sydd eisoes wedi cyfrannu tuag at y nod a byddwn yn gwahodd rhagor o gyfraniadau hyd at adeg ailagor yr Hen Goleg yn 2024."

Yn ôl yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr: "Mae'n bleser ymuno â chyn-fyfyrwyr a chyfeillion o bob cwr o'r wlad i ddathlu cyfraniad Adran y Gyfraith a Throseddeg i Brifysgol Aberystwyth a'i heffaith ar y byd dros y 120 o flynyddoedd a fu.   

"Mae'r Brifysgol ei hun yn dathlu ei phen blwydd yn 150 eleni, ac edrychwn ymlaen at ddod ynghyd unwaith eto gyda chyn-fyfyrwyr a chefnogwyr mewn digwyddiadau dathlu yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Llundain dros y flwyddyn sydd i ddod er mwyn nodi'r garreg filltir bwysig hon."

Dyfarnwyd gwobr Prifysgol y Flwyddyn i Brifysgol Aberystwyth am ansawdd yr addysgu a phrofiad y myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da yTimes a'rSunday Times 2021) a bu’n Brifysgol y Flwyddyn am ansawdd yr addysgu ddwy flynedd yn olynol. Hi hefyd oedd Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru (Canllaw Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times 2020).