Astudiaeth i'w chomisiynu i gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff newydd ar gyfer gogledd Ceredigion

30 Awst 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion yn dymuno comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff newydd ar gyfer gogledd Ceredigion.

Mae’r comisiwn, sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru yn gofyn am adroddiad sy’n adnabod “seilwaith o gyfleusterau sydd ei angen yng Ngogledd Ceredigion i fodloni dyheadau strategol y ddau sefydliad ar gyfer gwella iechyd a lles y trigolion drwy ymgymryd â gweithgarwch corfforol, nawr ac yn y dyfodol.”

Bydd yr astudiaeth yn adolygu'r ddarpariaeth chwaraeon ac ymarfer corff bresennol yn yr ardal ac yn gwneud cynigion ar gyfer cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf, a allai gynnwys ad-drefnu neu adnewyddu cyfleusterau presennol.

Dywedodd Stephen Forster, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda Chyngor Ceredigion ar yr astudiaeth ddichonoldeb newydd hon. Defnyddir cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yn helaeth gan y gymuned leol yn ogystal â chan fyfyrwyr a staff. Mae gan yr adroddiad hwn y potensial i ddarparu cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddatblygu cyfleusterau newydd cyffrous a allai drawsnewid cyfleoedd ymarfer corff i bobl o bob oed a diddordeb yng ngogledd Ceredigion, tra hefyd yn darparu adnoddau hyfforddi o’r radd flaenaf i athletwyr elît uchelgeisiol yr ardal.”

Dwedodd y Cynghorydd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Nid yw’n newydd i neb bellach bod budd pellgyrhaeddol i bobl  o bob oed o fwynhau ymarfer corff rheolaidd. Mae’n bwysig felly ein bod ni’n gallu darparu dewis eang o gyfleoedd ymarfer corff i bawb.

“Y gobaith o gydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth yw gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael gan y ddau sefydliad a chreu newid positif i adnoddau yn y Sir.  Bydd hi’n ddiddorol gweld be ddaw o’r astudiaeth dichonoldeb a'r trafodaethau a ddaw o hynny.”

Yn ôl briff yr astudiaeth, dylai'r cyfleusterau newydd arfaethedig ddiwallu anghenion pawb gan gynnwys y rhai mewn addysg amser llawn - cynradd, uwchradd, addysg bellach ac uwch - yn ogystal â darpar athletwyr elît a sefydliadau cymunedol.

Dylent hefyd fodloni gofynion gweithwyr iechyd proffesiynol a gwella’r ddarpariaeth dwristiaeth yn Aberystwyth, ymgorffori defnydd o amgylchedd naturiol y sir, a chynnig y potensial i ddenu digwyddiadau chwaraeon rhanbarthol neu genedlaethol.

Y dyddiad targed ar gyfer derbyn yr astudiaeth ddichonoldeb wedi’i chwblhau yw Ionawr 2023.