Arddangosfa a lansiad llyfr: Ffoaduriaid yng Nghymru

Evelyn a Marion Porak yn cerdded ar y prom yn Aberystwyth yn 1939. Roedd y ddwy chwaer wedi ffoi o’r Almaen gyda’u mam ddechrau 1939, gan aros gyda theulu yn Aberystwyth cyn mudo i’r Unol Daleithiau yn 1947. Llun: Brian Pinsent.

Evelyn a Marion Porak yn cerdded ar y prom yn Aberystwyth yn 1939. Roedd y ddwy chwaer wedi ffoi o’r Almaen gyda’u mam ddechrau 1939, gan aros gyda theulu yn Aberystwyth cyn mudo i’r Unol Daleithiau yn 1947. Llun: Brian Pinsent.

02 Tachwedd 2022

Mae arddangosfa sy’n olrhain hanes ffoaduriaid yng Nghymru o'r 1930au hyd heddiw yn cael ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae 'Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y gorffennol i lywio’r dyfodol' yn adrodd straeon y ffoaduriaid hynny a gafodd noddfa yng Nghymru ar ôl dianc o Ganol Ewrop yn sgil unbennaeth Sosialaeth Genedlaethol, ac yn dangos y tebygrwydd rhwng eu sefyllfa hwy a sefyllfa ffoaduriaid cyfoes sy'n ymgartrefu yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gweithiau celf, gwrthrychau, ffotograffau a llenyddiaeth a grëwyd gan ffoaduriaid a'r rhai a fu’n gweithio gyda nhw yn y gorffennol, neu sy’n gweithio gyda nhw heddiw.

Curadwyd yr arddangosfa ar y cyd gan Dr Andrea Hammel a Dr Morris Brodie o Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â ffoaduriaid a'r rhai sy'n cynorthwyo ffoaduriaid i ailsefydlu yng Nghymru.

Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost, a arweinir gan Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol ac a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys gosodwaith digidol, gyda sylwebaeth wedi'i hysgrifennu a'i hadrodd gan yr awdur plant, Michael Rosen, sy'n dod â phrofiadau personol ac unigryw rhai o'r ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf yn fyw.

Dywedodd Dr Andrea Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth:  "Trwy eu geiriau a'u lluniau eu hunain, mae'r arddangosfa'n adrodd straeon y dynion, menywod a phlant a ddaeth i Gymru dros 80 mlynedd yn ôl i ddianc rhag y Natsïaid. Fodd bynnag, mae ymfudo dan orfod hefyd yn un o heriau mwyaf y 21ain ganrif. Felly, mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys hanesion ffoaduriaid cyfoes sy'n adeiladu bywyd newydd yng Ngheredigion. 

"Fel cenedl, mae Cymru wedi bod yn darparu noddfa i ffoaduriaid ers amser maith.  Mae’r ffoaduriaid a ailsefydlodd yng Nghymru yn y 1930au a'r 1940au wedi ymgartrefu yn y rhan hon o'r byd, ac maent bellach yn rhan annatod o wead bywyd a diwylliant Cymru. Ymhen amser, bydd yr un peth yn wir am y Syriaid, Afghanistaniaid ac Wcrainiaid a'u dilynodd.

“Trwy gyfrwng y deunydd a gesglir ynghyd yn yr arddangosfa, ein bwriad yw amlygu a dysgu am brofiad ffoaduriaid yng Nghymru trwy fynd i’r afael â chwestiynau ynglŷn ag amrywiaeth cymdeithas Cymru, gwahaniaethau crefyddol ac ieithyddol, a heriau cymdeithasol, addysgol ac economaidd. Mae ein prosiect yn ceisio annog pobl i ddysgu oddi y wrth gorffennol i lywio’r dyfodol."

Mae Dr Hammel hefyd wedi bod yn cydweithio â'r gwneuthurwr ffilmiau o Aberystwyth, Amy Daniel, gan weithio ochr yn ochr â grwpiau o ffoaduriaid a’r rhai sy'n eu cynorthwyo, i ddatblygu ymateb creadigol sy'n cysylltu straeon gwahanol ffoaduriaid yng Nghymru. Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn rhan o'r arddangosfa.

Bydd yr arddangosfa yn agor yn swyddogol ar 10 Tachwedd 2022, sy’n cyfateb i’r dyddiad y digwyddodd y Novemberpogrom ('Kristallnacht') sef 9-10 Tachwedd 1938.  Arweiniodd y don hon o ymosodiadau treisgar gwrth-Iddewig at ddifrod eang ac fe ddinistriwyd cartrefi, busnesau a synagogau Iddewig ledled yr Almaen ac Awstria. Y digwyddiad hwn agorodd lygaid y gymuned ryngwladol i sefyllfa enbyd yr Iddewon yng Nghanol Ewrop.

Cerdyn adnabod Renate Collins (née Kress), a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Plant Prydain ym Mhrâg. Yn bum mlwydd oed, fe ffodd Renate ar y trên Kindertransport olaf i adael Tsiecoslofacia ac arhosodd gyda theulu maeth yn y Porth, Rhondda Cynon Taf. Llun: Amy Daniel.

Ymhlith y rhai a fydd yn mynychu'r agoriad swyddogol bydd Renate Collins (ganwyd. Renate Kress), 89 oed, a ddihangodd o Prague ar y tren Kindertransport olaf i adael Tsiecoslofacia cyn i'r Ail Ryfel Byd ddechrau. Cafodd Renate ei maethu ac yna ei mabwysiadu gan deulu Cymreig yn y Porth, Rhondda Cynon Taf, a gwnaeth fywyd iddi hi ei hun yng Nghymru. Collodd 64 aelod o'i theulu yn ystod yr Holocost, gan gynnwys ei rhieni. Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddi yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2019 am wasanaethau i addysg am yr Holocost.  Mae'n un o'r goroeswyr olaf o blith y ffoaduriaid a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol ac ailsefydlu yng Nghymru.

Bydd agoriad yr arddangosfa hefyd yn cynnwys lansiad swyddogol llyfr diweddaraf Dr Andrea Hammel, 'Finding Refuge: Stories of the men, women and children who fled to Wales to escape the Nazis’, a gyhoeddir gan Wasg Honno. Mae'r gyfrol yn cynnwys hanesion gan amrywiaeth o bobl a gafodd loches yng Nghymru yn y 1930au a'r 1940au, a'r darlun y maent yn ei baentio o’u hargraffiadau o’r Cymry, a Chymru fel man daearyddol ac endid gwleidyddol.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth rhwng 10 Tachwedd a 29 Ionawr, ac yna bydd yn teithio i Orielau’r Senedd a’r Pierhead yng Nghaerdydd rhwng mis Chwefror ac Ebrill 2023.