Cyhoeddi enillwyr newydd Ysgoloriaeth Peter Hancock

Cyflwyno Ysgolorion Peter Hancock 2022: Chwith i’r Dde; Yerodin Stewart (Seicoleg); Arina Bugakova (Busnes a TG); Jennifer Pollard, ar ran Peter Hancock a Pat Pollard; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor; Pat Pollard, ar ran Peter Hancock a Pat Pollard; Jason Makechemu (Astro Ffiseg); a Przemyslaw Olewniczak (Geneteg).

Cyflwyno Ysgolorion Peter Hancock 2022: Chwith i’r Dde; Yerodin Stewart (Seicoleg); Arina Bugakova (Busnes a TG); Jennifer Pollard, ar ran Peter Hancock a Pat Pollard; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor; Pat Pollard, ar ran Peter Hancock a Pat Pollard; Jason Makechemu (Astro Ffiseg); a Przemyslaw Olewniczak (Geneteg).

30 Tachwedd 2022

Astro Ffiseg, Geneteg, Seicoleg a Busnes a TG yw'r disgyblaethau academaidd sy’n cael eu hastudio gan dderbynwyr diweddaraf Ysgoloriaeth Peter Hancock.

Cyllidir yr ysgoloriaeth flynyddol gan Peter Hancock a Pat Pollard, y ddau’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth. Caiff ei chyflwyno i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf sy’n dangos potensial i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas drwy eu hastudiaethau, ac a fyddai’n elwa o gymorth ariannol i gwblhau eu hastudiaethau.

Ym 1961 dyfarnwyd ysgoloriaeth i Peter Hancock a’i galluogodd i gwblhau ei radd mewn Daeareg yn llwyddiannus a’i osod ar ben ffordd gyrfa hynod lwyddiannus yn y byd academaidd a busnes ar draws y byd.

I gydnabod y cymorth a gafodd fel myfyriwr, rhoddodd Peter a'i bartner Pat £506,000 i'r Brifysgol yn 2015 er mwyn sefydlu ysgoloriaeth barhaol.

Cyflwynwyd enillwyr eleni, Yerodin Stewart, Przemyslaw Olewniczak, Jason Makechemu ac Arina Bugakova, mewn derbyniad ddydd Mercher 26 Hydref, yng nghwmni’r chwiorydd Sue a Jennifer Pollard, a oedd yno ar ran Peter a Pat.

Wrth annerch y derbyniad, dywedodd Sue Pollard: “Rydym ni’n hynod o falch o’r cyfle i fod yma yn Aberystwyth i gyflwyno’r Ysgoloriaethau Peter Hancock diweddaraf ac i longyfarch yr ysgolorion ar eu llwyddiant. Ein gobaith yw y bydd y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn eu galluogi i gyflawni eu hamcanion.

“I Peter a Pat mae rhywbeth arbennig am y Brifysgol hon sydd wedi aros gyda nhw, dyma oedd rhai o flynyddoedd gorau eu bywyd, y bywyd colegol a’r cyfeillgarwch a sefydlwyd yn ystod y cyfnod hwn ac sydd wedi parhau hyd heddiw. I Peter, yr unig ffordd iddo gwblhau ei flwyddyn olaf yma oedd drwy ysgoloriaeth debyg ar sail angen. Mae wrth ei fodd ei fod mewn sefyllfa lle y mae’n gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol yn y modd y bu iddo ef elwa o raglen debyg. Dymuniad Peter a Pat yw gweld yr ysgoloriaeth hon yn mynd i fyfyrwyr sydd nid yn unig yn wynebu angen ariannol, ond sydd hefyd yn dangos y potensial cryf i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at les cyhoeddus.”

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Roedd yn bleser croesawu Sue a Jennifer Pollard i Aberystwyth i gyflwyno Ysgoloriaethau Peter Hancock eleni ac i gydnabod ein perthynas hirsefydlog gyda Peter a Pat. Rydym ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth ragorol ein cyn-fyfyrwyr yn fawr iawn, llawer ohono nhw’n gwneud hynny’n ariannol fel Peter a Pat, ond hefyd yn ymarferol fel y mae cymaint yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae eu cyfraniadau yn cyfoethogi bywydau ein myfyrwyr mewn cymaint o ffyrdd ac yn cyfrannu at brofiad myfyrwyr rhagorol y  Brifysgol.”

“Llongyfarchiadau gwresog i’r enillwyr eleni. Pob llwyddiant iddyn nhw wrth iddyn nhw gychwyn ar eu blwyddyn olaf yma yn Aberystwyth ac rwy’n ffyddiog y bydd y gefnogaeth y maen nhw’n ei dderbyn diolch i haelioni Peter a Pat yn agor drysau iddyn nhw, fel y profodd Peter flynyddoedd yn ôl.”

Mae Ysgoloriaeth Peter Hancock, sy'n werth hyd at £4400 y myfyriwr, hefyd yn cynnig cefnogaeth gan fentor o blith teulu cyn-fyfyrwyr Aberystwyth.

Enillwyr Ysgoloriaeth Peter Hancock 2022

Mae Yerodin Stewart yn fyfyriwr Seicoleg yn y flwyddyn olaf ac o Nottingham. Fel rhan o’r ysgoloriaeth, mae hefyd yn cael ei fentora gan Peter Hancock ei hun.

Dywedodd Yerodin: “Mae derbyn yr ysgoloriaeth hon yn fraint ac yn anrhydedd, ac mae wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â phobl newydd, rhwydweithio a gweld ochr arall bywydau pobl na fyddwn wedi’u gweld fel arall. Mae’n fy ngalluogi i ganolbwyntio’n llwyr ar fy astudiaethau a bod yn gwbl ymroddedig i seicoleg, sy’n hynod o bwysig enwedig yn fy mlwyddyn olaf. Hefyd, mae wedi bod yn wych cwrdd â Peter ar-lein fel rhan o’r rhaglen fentora, ac i drafod fy ngwaith a’n diddordebau cyffredin. Rwy’n gobeithio y galla i roi rhywbeth yn ôl fy hun un diwrnod.”

Mae Przemyslaw Olewniczak yn fyfyriwr Geneteg ac yn ei flwyddyn olaf. Daw o wlad Pwyl, a threuliodd flwyddyn yn gweithio i gwmni QIAGEN ym Manceinion fel rhan o’i astudiaethau.

Dywedodd Przemyslaw: “Bydd yr ysgoloriaeth hon yn fy nghalluogi i ganolbwyntio ar fy ngwaith, ac ymroi’n llwyr i fy nhraethawd blwyddyn olaf. Tra’n gweithio gyda QIAGEN, bues i’n gweithio ar linellau celloedd canser. Fy ngobaith, wedi graddio, yw mynd i weithio ym maes ymchwil, ac ymchwil canser. Rhoddodd y gwaith yn QIAGEN y teimlad i mi fy mod i’n rhan o rywbeth pwysig ac yn gallu gwneud gwahaniaeth, felly byddwn i wrth fy modd yn parhau yn y maes hwn ac rwy’n gobeithio bydd yr ysgoloriaeth hon yn caniatáu i mi wneud hynny.”

Daw Jason Makechemu o Stourbridge ac mae’n astudio Astro Ffiseg. Fel rhan o’i draethawd estynedig mae’n modelu llif plasma yn uwch-atmosffer y Ddaear.

Dywedodd Jason: “Mae’r ysgoloriaeth hon yn golygu llawer i mi gan ei bod yn dangos bod gan bobl ffydd ynof i gwblhau fy ngradd i safon uchel ac i gyfrannu at gymdeithas yn y dyfodol. Hefyd, mae’n help enfawr yn ariannol oherwydd mae’n golygu fy mod i’n gallu ymroi i’m hastudiaethau a’m gweithgareddau mewn ffordd na fyddai gen i’r amser i wneud fel arall. Rwy’ am barhau mewn addysg uwch, felly mae angen i mi ragori yn fy astudiaethau israddedig."

Daw Arina Bugakova o Felarws a Gwlad Pwyl ac mae’n astudio am radd mewn Busnes a Thechnoleg Gwybodaeth. Ei mentora yw’r cyn-fyfyriwr llwyddiannus Peter Gradwell, ac un o feirniaid cystadleuaeth flynyddol entrepreneuriaeth myfyrwyr y Brifysgol, InvEnterPrize.

Dywedodd Arina: “Rwy’n falch iawn o ennill yr ysgoloriaeth hon. Mae’n golygu cyfleoedd a’r rhwydwaith gyfer fy ngyrfa a phrosiectau yn y dyfodol, a fydd hefyd yn golygu y galla i helpu a chynorthwyo pobl eraill. Mae hefyd yn golygu os ydych chi erioed yn teimlo’n unig, mae pobl yno i’ch cefnogi chi bob amser. Mae’r drefn fentora yn hynod bwysig gan ei bod hi’n golygu y galla i ofyn am gyngor am fy astudiaethau, prosiectau, cyfleoedd gwaith a thrafod syniadau newydd. Pwy a ŵyr, rhyw ddydd mi fydda i'n mentro allan ar fy mhen fy hun i’r diwydiant technoleg gan ddilyn yn ôl troed Peter.”

Ers ei sefydlu, mae 38 o fyfyrwyr wedi elwa o Ysgoloriaeth Peter Hancock. Mae manylion am sut i wneud cais ar gael ar-lein.